Yn yr adran hon, gallwch ddarllen ein cynlluniau a’n hadroddiadau sy’n dangos sut rydym ni’n cyflawni ein prif nodau, sef:
- cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru
- cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phobl sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru
- diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a’r cyhoedd, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg
Cynllun Strategol CGA 2026-29
Mae ein Cynllun Strategol 2026-29 yn amlinellu ein gweledigaeth, sef bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’n amlinellu’r blaenoriaethau a’r amcanion a fydd yn ein helpu i wireddu’r weledigaeth hon a’r gwerthoedd a fydd wrth wraidd ein hymagwedd dros y tair blynedd nesaf.
Darllenwch ein Cynllun Strategol 2026-29.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28
Rydym ni’n ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac am chwarae ein rhan i greu Cymru decach. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu sut byddwn ni’n cofleidio ein rôl wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, o fewn ein sefydliad ac (o fewn ein cylch gwaith) ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.
Darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 .
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o’n cynnydd a’n heffaith dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac mae’n amlygu rhai o’n cyflawniadau allweddol. Hefyd, mae’n esbonio ein llywodraethiant, ein hadnoddau ariannol a’n cynlluniau at y dyfodol.
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2025-26.
Adroddiad Priodoldeb i Ymarfer Blynyddol
Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad priodoldeb i ymarfer blynyddol sy’n amlinellu:
- sut rydym ni’n delio â materion sy’n cael eu cyfeirio atom ni
- data am y mathau o achosion rydym ni’n delio â nhw, gan gynnwys tueddiadau o flwyddyn i flwyddyn
- datblygiadau yn y dyfodol i wella’r ffordd rydym ni’n cyflawni’r gwaith hwn
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2025-26.
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb
Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb sy’n amlygu’r cynnydd a wneir bob blwyddyn tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2025-26.
Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg
Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth am sut rydym ni wedi cydymffurfio ac mae’n amlinellu sut rydym ni wedi gweithredu’r safonau.
Darllenwch ein Hadroddiad monitro blynyddol Safonau’r Gymraeg 2025-26.
Darllenwch fwy am sut rydym ni’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.





Mae David Edwards yn Ddirprwy Bennaeth yn Oasis Academy, Daventry Road, Bryste. Yn ystod ei yrfa, mae wedi gweithio mewn lleoliadau cynradd ac uwchradd, ac wedi treulio nifer o flynyddoedd yn addysgu yn Ne Affrica yn y system addysg wladol.

Dechreuodd Anwen ei gyrfa yn athrawes Saesneg ysgol uwchradd ac mae wedi gweithio ar draws addysg bellach ac addysg uwch. Mae hi hefyd wedi dal ystod o rolau awdurdod lleol gyda ffocws cyson ar wella deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc, o grwpiau bregus a heb gynrychiolaeth ddigonol, yn cynnwys y rheiny o dreftadaeth Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Bu Jane yn gweithio fel athrawes, pennaeth ac ymgynghorydd gwella ysgolion yng Nghaerdydd ers dros 30 mlynedd.
Dechreuodd Matthew ei yrfa yn weithiwr ieuenctid a hyfforddwr awyr agored cyn cymhwyso i fod yn athro ysgol gynradd yn 2014. Erbyn hyn, mae’n gweithio yng Nghaerdydd ac wedi addysgu ar draws pob sector mewn amrywiaeth o ysgolion ar hyd a lled de Cymru. Cwblhaodd Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MEP) yn 2019 ac mae wrthi’n astudio ar gyfer Doethuriaeth mewn Addysg (EdD) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn archwilio’r modd y mae athrawon ysgolion cynradd yn amgyffred ac yn ymgysylltu ag ymchwil fel ffurf o ddysgu proffesiynol.
Kathryn yw Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru. Mae Kathryn wedi gweithio yn y sector addysg ôl-16 ers dros 20 mlynedd ac mae wedi datblygu llawer o bartneriaethau i helpu ehangu addysg bellach a dysgu oedolion yn y gymuned.

