Lawrlwytho'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024
Lawrlwytho'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024 - Trosolwg
Gosodir y ddogfen hon gerbron Senedd Cymru gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ar y cyd, yn unol ag Atodlen 1 Deddf Addysg (Cymru) 2014.
Adroddiad ar berfformiad
Rhagair gan y Cadeirydd
Mae’n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) am y tro cyntaf yn ystod fy nghyfnod fel Cadeirydd, ar ôl i mi gael fy ethol ym mis Mai 2023. Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu ein cyflawniadau allweddol a’n proffil ariannol ar gyfer blwyddyn weithredol 2023-24.
Mae’n bleser gennyf adrodd bod CGA wedi llwyddo i gyflawni ei holl swyddogaethau statudol o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 unwaith eto, gan wneud hynny mewn modd cost-effeithiol. Hoffwn ddiolch i’n holl staff, aelodau’r Cyngor, a phanelwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth ein helpu i gyflawni hyn.
Ni yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, ac rydym yn deall mai ein rôl, uwchlaw popeth, yw diogelu dysgwyr a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn ein hymarferwyr addysg yng Nghymru. Yn unol â’r cyfrifoldeb sylweddol hwn, mae CGA bellach yn cynnal y gofrestr gyhoeddus fwyaf yng Nghymru a’r gofrestr ehangaf o ymarferwyr addysg yn y byd, sy’n cynnwys dros 90,000 o gofrestreion mewn 11 o gategorïau cofrestru.
Yn ogystal â’n rôl reoleiddiol, mae gennym swyddogaethau cydategol eraill o fewn y ddeddfwriaeth, yn enwedig hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg a rhoi cyngor i’r llywodraeth ac eraill ar faterion perthnasol. Gallwch ddarllen mwy am y gwaith hwn yng nghorff yr adroddiad hwn.
A ninnau’n sefydliad sy’n annibynnol ar y llywodraeth, ariennir ein gwaith craidd trwy’r ffioedd cofrestru blynyddol a delir gan ein cofrestreion yn unig. Mae ffioedd CGA yn parhau i fod ymhlith yr isaf o unrhyw broffesiwn rheoleiddiedig yn y byd ac nid ydynt wedi newid ers i ni gael ein ffurfio yn 2015, sy’n golygu, mewn gwirionedd, eu bod wedi gostwng.
Wrth ymateb i benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â darparu cymhorthdal tuag at ffioedd cofrestreion ar gyfer 2024-25, penderfynodd Cyngor CGA ddefnyddio ei gronfeydd ariannol wrth gefn i gadw ffioedd yn ddigyfnewid ar gyfer 2024-25. Mae’n rhaid i CGA aros yn sefydlog yn ariannol, ond roeddem yn pryderu am yr effaith y byddai cynyddu’r ffi ar fyr rybudd yn ei chael ar ein cofrestreion.
Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i gynnal ein lefelau uchel arferol o ymgysylltu a rhyngweithio â’n cofrestreion, rhanddeiliaid, a’r cyhoedd, yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Os hoffech siarad â ni am ein gwaith, cysylltwch â ni, bydd ein tîm yn falch o helpu.
Ar ran CGA, diolchaf i chi am eich diddordeb yn ein gwaith, a’ch cefnogaeth iddo.
Eithne Hughes
Cadeirydd, CGA
Rhagair gan y Prif Weithredwr
Wrth i flwyddyn arall ddod i ben, mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CGA yn rhoi cyfle i fyfyrio ar ein cynnydd tuag at gyflawni ein hamcanion strategol yn ystod 2023-24.
Dechreuodd Cyngor newydd CGA ei gyfnod pedair blynedd ar 1 Ebrill 2023, gan ethol Eithne Hughes yn Gadeirydd newydd ym mis Mai 2023. Bu’n bleser gweithio’n agos gydag Eithne, sy’n rhannu ein pwyslais ar sicrhau bod CGA yn parhau i fod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, dibynadwy ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Yn sgil newidiadau deddfwriaethol a ddaeth i rym ym mis Mai 2023, croesawyd ymarferwyr o ysgolion annibynnol a cholegau i’r Gofrestr, sy’n ddatblygiad a argymhellwyd gennym ers tro. Roeddwn yn falch ein bod wedi gallu gweithio ar y cyd â’r sector i gefnogi dealltwriaeth y cofrestreion newydd o CGA, y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, a pherthnasedd cofrestru proffesiynol.
Ar 31 Mawrth 2024, roedd mwy na 90,000 o ymarferwyr addysg wedi’u cofrestru yng Nghymru, sef ein nifer fwyaf erioed. Rydym yn disgwyl i’n Cofrestr ehangu ymhellach yn ystod y flwyddyn i ddod yn sgil cyflwyno dau gategori cofrestru arall ym mis Mai 2024.
Unwaith eto eleni, rydym wedi cyflawni gwaith cofrestru a rheoleiddio cadarn trwy ein gwaith priodoldeb i ymarfer, gan sicrhau mai’r rhai sy’n addas ac yn gymwys i ymarfer yn unig sy’n gallu gwneud hynny. Rydym hefyd wedi parhau i gyflawni ein dyletswydd statudol i achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru, gan fonitro rhaglenni i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r meini prawf achredu sy’n sail i’r ddarpariaeth hon.
Yn ogystal â chyflawni ein swyddogaethau rheoleiddiol yn effeithiol, rydym wedi ceisio cael dylanwad cadarnhaol ar bolisi addysg yng Nghymru. Rydym wedi cymryd rhan mewn grwpiau llywio cenedlaethol sy’n ymdrin ag ystod o faterion gweithlu, a rhoi arweiniad iddynt, ac wedi ymateb i ymgynghoriadau cenedlaethol neu alwadau am dystiolaeth. Drwy gydol yr holl waith hwn, rydym wedi gwneud defnydd helaeth o’r data unigryw a ddelir ar y Gofrestr Ymarferwyr Addysg i lywio a dylanwadu ar ddatblygiad polisi a chynllunio’r gweithlu.
Yn yr un modd ag mewn gwledydd eraill, mae recriwtio i’r proffesiynau addysg yng Nghymru yn heriol o hyd. Rydym wedi parhau â’n rôl statudol i hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg trwy’r wefan Addysgwyr Cymru, ac ymgysylltu wyneb yn wyneb ag unigolion mewn mwy na 200 o ddigwyddiadau recriwtio.
Wrth i ni fyfyrio ar y cyflawniadau a amlinellir yn yr adroddiad hwn, edrychaf ymlaen at weithio gyda chofrestreion a rhanddeiliaid yn ystod y flwyddyn i ddod i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn ein gweithlu addysg.
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr, CGA
Trosolwg
Mae’r adran hon yn amlygu ein gweithgareddau a’n cyflawniadau allweddol yn 2023-24:
Amcan 1: Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol effeithiol, sy’n gweithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg
- Cofrestru 90,812 o ymarferwyr addysg yn llwyddiannus yng Nghymru
- Galluogi 151,000 o wiriadau ar-lein o’r Gofrestr gyhoeddus
- Cyhoeddi 1,198 o ddyfarniadau Statws Athro Cymwysedig (SAC)
- Prosesu 64 o geisiadau am gydnabyddiaeth SAC o’r tu allan i Gymru
- Cyhoeddi 1,395 o ddyfarniadau sefydlu
- Derbyn dros 5,500 o edrychiadau ar y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar ein gwefan
- Cwblhau 301 o achosion priodoldeb i ymarfer ac addasrwydd i gofrestru
- Asesu wyth rhaglen AGA ar gyfer ailachrediad, ac un rhaglen newydd
- Cyhoeddi 19 o ddyfarniadau o’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Amcan 2: Cefnogi dysgu a phroffesiynoldeb o fewn y gweithlu addysg
- Cefnogi 3,881 o athrawon newydd gymhwyso (ANG) a mentoriaid yn rhan o sefydlu statudol
- Cyflwyno 41 o sesiynau cymorth sefydlu
- Ymgysylltu â 42,000+ o ddefnyddwyr cofrestredig y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), gan gynorthwyo cofrestreion i gymryd cyfrifoldeb am eu safonau a’u dysgu proffesiynol
- Cynnal tri digwyddiad cenedlaethol, gan hwyluso ymgysylltiad wyneb yn wyneb gwerthfawr â chofrestreion a’r cyhoedd
- Cyflwyno 500+ o sesiynau a chyflwyniadau i gynorthwyo cofrestreion a rhanddeiliaid
- Lansio’r podlediad ‘Sgwrsio gyda CGA’, gan gyhoeddi pum pennod
Amcan 3: Ceisio llywio, ffurfio a dylanwadu ar bolisi addysgol yng Nghymru er budd y gweithlu addysg
- Denu 687,300 o ymweliadau â’r wefan Addysgwyr Cymru
- Hysbysebu 6,982 o swyddi gwag ar Addysgwyr Cymru
- Mynychu 205 o ddigwyddiadau fel Addysgwyr Cymru, gan hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg
- Cyfrannu at 45+ o grwpiau llywio cenedlaethol, gan lywio datblygiad polisi a mentrau addysg yng Nghymru
- Ymateb i 21 o ymgynghoriadau/galwadau am dystiolaeth
- Cyhoeddi canfyddiadau arolwg cenedlaethol o’r gweithlu Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith
- Lansio Canolfan Fframwaith Datblygiad Proffesiynol ar gyfer y sector ôl-16
- Cynorthwyo DARPL i gyflwyno eu cynhadledd flynyddol gyntaf
Amcan 4: Bod yn sefydliad cydnerth, galluog ac ariannol gynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion
- Cyflawni barn archwilio ddiamod ar gyfer Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23
- Cynnal pum adolygiad archwilio mewnol gan dderbyn sicrwydd sylweddol a dim argymhellion ar gyfer pob un
- Cydymffurfio â deddfwriaeth ar ddiogelu data, y Gymraeg, cydraddoldeb, a deddfwriaeth amgylcheddol
- Penodi Cadeirydd newydd y Cyngor, a 6 aelod newydd o’r Cyngor
- Cynnal 13 o weithgareddau hyfforddiant a dysgu proffesiynol ar gyfer staff, aelodau’r Cyngor, ac aelodau eraill
- Cyflwyno chwe gweithgaredd lles ar gyfer staff
Amdanom ni
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Fe’n sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ac rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn 11 o wahanol gategorïau cofrestru sy’n rhychwantu ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu seiliedig ar waith. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr fwyaf pellgyrhaeddol o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda dros 90,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru.
Gweledigaeth
I fod yn rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol, dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru.
Rôl a chylch gwaith
Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn amlinellu’n ffurfiol ein rôl fel rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ac arweinydd strategol yn y sector addysg yng Nghymru. Mae’r Ddeddf hefyd yn manylu ar ein rhwymedigaethau i’n cofrestreion, dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid a’r cyhoedd. Crynhoir isod ein nodau a’n swyddogaethau, fel y’u diffinnir gan y Ddeddf.
Ein nodau
- Cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru.
- Cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon ac eraill sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.
- Diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, a chynnal hyder a ffydd y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
Ein swyddogaethau
- Sefydlu a chynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg.
- Cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
- Ymchwilio i honiadau a allai godi amheuon ynghylch priodoldeb ymarferydd cofrestredig i ymarfer, a’u clywed.
- Achredu a monitro rhaglenni AGA athrawon ysgol.
- Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill.
- Monitro’r broses sefydlu a chlywed apeliadau sefydlu.
- Hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg.
- Ymgymryd â gwaith penodol ar gais Llywodraeth Cymru.
Ein gwerthoedd
Tegwch
Rydym yn gweithredu’n deg a chydag unplygrwydd i gynnal safonau a hyrwyddo proffesiynoldeb.
Cymorth
Rydym yn cynorthwyo’r gweithlu addysg i gynnal safonau ymddygiad ac ymarfer uchel.
Rhagoriaeth
Rydym yn ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth ac yn ceisio darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gofrestreion, rhanddeiliad, dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd.
Cydweithredu
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r gweithlu addysg a rhanddeiliaid i ddatblygu a hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu.
Annibyniaeth
Rydym yn annibynnol ac yn rheoleiddio mewn ffordd sy’n ddiduedd ac wedi’i seilio ar dystiolaeth.
Ein pobl
Mae gan ein Cyngor 14 o aelodau sy’n gosod cyfeiriad strategol y sefydliad ac sy’n gyfrifol am ei lywodraethu. Yn 2023-24, mae ein Cyngor wedi bod yn gweithredu gyda dwy swydd wag.
Caiff pob aelod ei benodi am gyfnod o bedair blynedd. Penodir saith aelod yn uniongyrchol trwy system penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru a phenodir saith aelod arall yn sgil cael eu henwebu gan amrywiaeth o randdeiliaid.
Rydym yn cyflogi dros 50 o aelodau staff ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn cynnal ac yn cefnogi:
- cronfa o 60 o aelodau panel priodoldeb i ymarfer
- Bwrdd Achredu AGA sy’n cynnwys 11 o aelodau
- cronfa o 48 o aseswyr y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (31 yn weithredol)
Cynaliadwyedd ariannol
A ninnau’n rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol a ariennir gan ffioedd cofrestru, mae’n hanfodol nad ydym yn gwario mwy na’n hincwm a’n bod yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithlon. Rydym yn ceisio cadw ein ffioedd cofrestru mor isel â phosibl, ond gan ddarparu’r lefel uchaf o wasanaeth ar yr un pryd wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol. Fel rheoleiddwyr eraill, rydym yn cynnal cronfeydd ariannol wrth gefn digonol er mwyn darparu sefydlogrwydd a sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu diogelu rhag risgiau a allai godi o ddigwyddiadau annisgwyl.
Rydym yn arwain gweithgareddau ar ran Llywodraeth Cymru yn rheolaidd lle’r ystyrir mai CGA yw’r corff mwyaf priodol i wneud gwaith o’r fath yng Nghymru. Mewn amgylchiadau o’r fath, Llywodraeth Cymru fydd yn talu ein costau trwy gyllid grant ar gyfer prosiectau. Mae CGA yn gallu ymgymryd â gweithgareddau masnachol hefyd, ac mae’n gwneud hynny pan fydd yn credu bod hyn er budd cofrestreion a’r sector addysg yng Nghymru.
Archwilir ein Hadroddiad Blynyddol a’n Cyfrifon gan Archwilio Cymru bob blwyddyn ac, wedi hynny, fe’u gosodir gerbron y Senedd.
Y Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg ac yn falch o fod yn sefydliad dwyieithog. Rydym yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau cydymffurfiaeth lwyr â Safonau’r Gymraeg.
Mae ein Hadroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2023-24 yn nodi ein cydymffurfedd â Safonau’r Gymraeg ac yn amlinellu’r gwaith rydym wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i hyrwyddo defnydd o’r iaith, ymhlith ein gweithwyr ni, ac wrth ymgysylltu â chofrestreion a rhanddeiliaid eraill allanol.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym yn croesawu ac yn hyrwyddo egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth, y tu mewn i’n sefydliad ac, o fewn ein cylch gwaith, ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.
Mae ein Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2023-24 yn amlinellu’r cynnydd rydym wedi’i wneud wrth gyflawni ein pedwar amcan cydraddoldeb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ystod 2023-24, rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 sy’n sefydlu amcanion cydraddoldeb newydd uchelgeisiol ac, o fewn ei gynllun gweithredu cysylltiedig, yn manylu ar sut rydym yn bwriadu eu cyflawni, a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur.
Strwythurau ein Cyngor a’n pwyllgorau
Y Cyngor
- Mae’n gosod ein gweledigaeth a’n cyfeiriad strategol.
- Mae’n craffu ar berfformiad.
- Mae’n dal y Prif Weithredwr i gyfrif.
Pwyllgor Gweithredol
Mae’n goruchwylio:
- datblygiad cynlluniau strategol a gweithredol
- cynnydd yn erbyn amcanion gweithredol a strategol trwy adolygu adroddiadau chwarterol ac Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon
- cynlluniau statudol
Pwyllgor Cofrestru a Rheoleiddio
Mae’n goruchwylio:
- y broses gofrestru a chynnal y Gofrestr
- y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol a phriodoldeb i ymarfer
- achredu rhaglenni AGA athrawon ysgol
- mentrau i sicrhau ansawdd a gwella safonau addysgu a dysgu
Pwyllgor Archwilio a Chraffu
Mae’n goruchwylio:
- gweithdrefnau gweinyddol a chyllid
- prosesau rheoli risg
- seiberddiogelwch a diogelu data
- gweithgarwch a gyflawnir gan archwilio mewnol ac allanol
- adroddiadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae’r uwch dîm rheoli (UDRh) yn gyfrifol am ein gweithrediadau a’n rheolaeth. Mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am ein harweinyddiaeth, yn unol â’r cyfeiriad strategol a osodwyd gan y Cyngor, ac mae’n goruchwylio’r UDRh.
- Prif Weithredwr – Hayden Llewellyn
- Cyfarwyddwr Cymwysterau, Cofrestru a Phriodoldeb i Ymarfer - Elizabeth Brimble (tan iddi ymddeol ar 31 Awst 2023)
- Cyfarwyddwr Rheoleiddio – David Browne (o 1 Medi 2023)
- Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi - Bethan Holliday-Stacey
- Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol - Lisa Winstone
Amcanion strategol 2023-24
1. Bod yn rheoleiddiwr annibynnol effeithiol, sy’n gweithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg
1.1 Cynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg sy’n gywir ac yn hygyrch.
1.2 Gweithredu gweithdrefnau rheoleiddiol cadarn, teg a thryloyw sy’n sicrhau mai’r rhai yr ystyrir eu bod yn addas i ymarfer yn unig sy’n cael gwneud hynny.
1.3 Ffurfio ymarfer cofrestreion trwy ddatblygu a hyrwyddo safonau ymddygiad a phroffesiynoldeb uchel.
1.4 Achredu a sicrhau ansawdd rhaglenni a darpariaeth addysg yng Nghymru.
1.5 Dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n sail i’n swyddogaethau rheoleiddio yn ddigon cadarn.
2. Cefnogi dysgu a phroffesiynoldeb o fewn y gweithlu addysg
2.1 Darparu casgliad o ganllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol i gofrestreion.
2.2 Arwain a chefnogi mentrau i hyrwyddo ac annog dysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer cofrestreion.
2.3 Arwain a chefnogi mentrau i hyrwyddo ymgysylltu ag ymchwil a lledaenu arfer gorau i gofrestreion.
2.4 Sicrhau bod gwaith CGA i’w weld yn amlwg ac yn cael ei ddeall gan gofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, y cyhoedd a’n rhanddeiliaid trwy gyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol, hygyrch ac ymatebol.
3. Ceisio llywio, ffurfio, a dylanwadu ar bolisi addysgol yng Nghymru er budd y gweithlu addysg
3.1 Darparu cyngor, ymchwil a dadansoddiad annibynnol i lywio a dylanwadu ar ddatblygu a chyflawni polisi addysg yng Nghymru, gyda’r nod o wella safonau.
3.2 Gweithio gyda chofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, y cyhoedd a’n rhanddeiliaid i lywio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru, gan helpu i wella safonau.
3.3 Arwain mentrau i hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg a sbarduno gwelliant mewn recriwtio a chadw.
3.4 Gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC).
4. Bod yn sefydliad cydnerth, galluog, ac ariannol gynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion.
4.1 Rheoli adnoddau’n effeithiol ac yn gynaliadwy i fodloni anghenion y presennol a’r dyfodol, gan ddefnyddio technoleg yn briodol i annog effeithlonrwydd a gwella ein gwasanaethau.
4.2 Sefydlu prosesau effeithiol ar gyfer cynllunio, rheoli perfformiad, a chydymffurfio, gan sicrhau eu bod yn ymgorffori arfer gorau.
4.3 Bod yn gyflogwr rhagorol sy’n hyrwyddo diwylliant cefnogol a chynhwysol lle mae’r holl staff, aelodau’r Cyngor ac aelodau pwyllgorau/paneli yn teimlo eu bod yn werthfawr ac yn gallu cyfrannu’n llawn.
4.4 Dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n sail i’n hannibyniaeth, ein trefniadau llywodraethu, a’n cyllid yn addas i’r diben.
Edrych tua’r dyfodol
Mae ein Cynllun Strategol 2024-27 yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod ac yn adlewyrchu ein rôl a’n cylch gwaith statudol yng nghyd-destun ehangach addysg yng Nghymru.
Bydd gweithgareddau allweddol ar gyfer 2024-25 yn cynnwys:
- parhau i ymgymryd â’n cyfrifoldebau statudol yn effeithiol, yn effeithlon, ac yn gynaliadwy:
- darparu gwasanaeth cofrestru a rheoleiddio cadarn, sy’n golygu mai’r rhai hynny sy’n addas ac yn gymwys i ymarfer yn unig sy’n gallu gwneud hynny
- dechrau cofrestru a rheoleiddio penaethiaid ac uwch arweinwyr addysg bellach, ac ymarferwyr addysg oedolion yng Nghymru
- gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau model ffioedd cofrestru priodol ar gyfer y dyfodol
- cynorthwyo cofrestreion i gynnal y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol a chyflawni’r safonau proffesiynol uchaf trwy ddarparu a hyrwyddo gwybodaeth ddefnyddiol, adnoddau, a gwasanaethau a ddyluniwyd i gynnig arweiniad a chyfarwyddyd
- ffurfio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru er budd ein cofrestreion
- hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg yng Nghymru trwy’r wefan Addysgwyr Cymru a’r gwasanaeth cyngor a chymorth
- cyflawni gwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn unol â thargedau a graddfeydd amser cytunedig
- parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n sail i CGA yn gymesur ac yn cynnal ein hannibyniaeth
- gwella ein gwasanaethau digidol, gan gynnwys cronfa ddata cofrestru wedi’i huwchraddio
- parhau i gynyddu ymwybyddiaeth o’n rôl trwy gryfhau ein cyfathrebu â chofrestreion, rhanddeiliaid, a’r cyhoedd
Risgiau a heriau allweddol
Mae gennym weithdrefnau cadarn ar waith i reoli risg sefydliadol. Mae ein Cofrestr Risg yn sicrhau bod meysydd a amlygir yn cael eu harchwilio’n drylwyr a’u hadolygu’n rheolaidd gan reolwyr. Rydym yn darparu gwybodaeth bellach am reoli risg yn ein Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Mae mwyafrif y risgiau yn y Gofrestr Risg yn rhai parhaus, ond ystyrir bod y canlynol yn arbennig o berthnasol ar gyfer y flwyddyn i ddod:
- Oherwydd y cyfyngiadau ariannol rydym yn gweithio ynddynt (fel sefydliad y mae ei waith craidd yn cael ei ariannu gan ffioedd cofrestru), mae’n hanfodol i ni reoli arian yn dda. Nid yw ein ffioedd cofrestru wedi newid ers i ni gael ein sefydlu yn 2015 ac rydym yn ceisio eu cadw nhw mor isel â phosibl. Rydym yn ceisio taro cydbwysedd rhwng dal digon o gronfeydd wrth gefn i sicrhau ein cynaliadwyedd, gan ddarparu’r lefel uchaf o wasanaeth wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol. Rydym yn adolygu lefelau ffioedd a chronfeydd wrth gefn rheoleiddwyr eraill yn rheolaidd.
- Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fyddai’n darparu cyfraniad i gofrestreion tuag at eu ffioedd cofrestru (a adwaenir fel cymhorthdal) yn ystod 2024-25. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried modelau ariannu posibl ar gyfer y dyfodol a’u goblygiadau.
- Rydym wrthi’n uwchraddio ein cronfa ddata cofrestru er mwyn darparu system hunanwasanaeth gynhwysfawr ar gyfer cofrestreion, cyflogwyr, a’r cyhoedd. Byddwn yn monitro cynnydd y prosiect hwn yn ofalus i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar y gwasanaeth.
- Mae materion seiberddiogelwch yn fygythiad byd-eang ac mae sefydliadau’n agored i risg yn barhaus, ni waeth pa mor fawr yw’r busnes na pha fath o fusnes ydyw. Mae gennym ystod o gamau a mesurau diogelwch ar waith i sicrhau diogelwch ein rhwydwaith TG a’r data a gedwir ynddo. Bydd y dulliau hyn yn cael eu monitro a’u gwella ymhellach, fel y bo angen.
Dadansoddiad o berfformiad
Mae ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2023-24 yn amlinellu camau gweithredu a mesurau manwl ar gyfer pob un o’n hamcanion strategol. Neilltuwyd y cyfrifoldeb am gyflawni amcanion strategol i uwch swyddogion ac fe’i dirprwywyd ymhellach i dimau, fel y bo’n briodol. Craffwyd ar gynnydd gan y Cyngor, a’r UDRh trwy brosesau monitro misol, chwarterol, a blynyddol. Rhoddir manylion ein cyflawniadau yn erbyn pob un o’r amcanion isod.
Amcan 1: Bod yn rheoleiddiad annibynnol effeithiol, sy’n gweithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg
Cofrestru
Mae’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg (y Gofrestr) yn hanfodol i’n gwaith i sicrhau bod safonau uchel o broffesiynoldeb yn cael eu cynnal yn y gweithlu. Mae’n amddiffyn y cyhoedd trwy sicrhau mai dim ond y rhai sy’n cyrraedd a chynnal ein safonau all weithio mewn rolau wedi’u rheoleiddio yng Nghymru.
Ar 31 Mawrth 2024, roedd dros 90,000 o ymarferwyr addysg wedi’u cofrestru, yn rhychwantu 11 o grwpiau o fewn ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a gwaith ieuenctid. Gwnaethom brosesu 17,605 o geisiadau newydd am gofrestru eleni, a chafwyd y nifer fwyaf o geisiadau gan weithwyr cymorth dysgu ysgol (12,159).
Ym mis Mai 2023, daeth deddfwriaeth newydd i rym yn mynnu bod athrawon a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol a cholegau yn cofrestru gyda CGA. Yn ogystal, cyflwynodd ofyniad i weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig cyflogedig (gyda chofrestriad dros dro ar gyfer y rhai hynny sy’n gweithio tuag at statws cymwysedig) mewn unrhyw leoliad yng Nghymru gofrestru. Rydym wedi gweithio’n helaeth gyda chyflogwyr drwy gydol y flwyddyn i sicrhau eu bod yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol i benodi a chyflogi staff sydd wedi’u cofrestru gyda CGA, ac i’w cynghori ar sut gall eu mynediad at y Gofrestr helpu.
Mae’r Gofrestr ar gyfer y cyhoedd, sydd ar gael trwy ein gwefan, yn galluogi cyflogwyr, aelodau’r cyhoedd, ac eraill i wirio statws cofrestru ymarferwyr addysg. Mae hyn yn allweddol i ddiogelu dysgwyr. Gwnaed dros 151,000 o wiriadau ar-lein rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 (i fyny o 144,000 o wiriadau yn y flwyddyn flaenorol).
Cynhaliwyd 32 o sesiynau rhithwir gyda phrifysgolion a cholegau addysg bellach i sicrhau bod myfyrwyr sy’n bwriadu ymuno â’r gweithlu addysg ar ôl cymhwyso yn deall y gofynion cyfreithiol arnynt i gofrestru.
Yn ogystal, cynhaliwyd sawl ymarfer eleni i wella cyflawnder cofnodion ar y Gofrestr.
Astudiaeth achos: cofrestru ymarferwyr sy’n gweithio yn y sector annibynnol
Yn dilyn blynyddoedd lawer o lobïo gan CGA i ymarferwyr yn y sector annibynnol gael eu cofrestru a’u rheoleiddio, daeth deddfwriaeth newydd i rym ym mis Mai 2023.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom weithio’n agos gydag arweinwyr y sector, gan gynnwys Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru (WISC), i groesawu ymarferwyr o fwy nag 80 o leoliadau annibynnol yng Nghymru i’n Cofrestr. Mae gennym bellach 2,185 o gofrestreion unigol o ysgolion annibynnol a sefydliadau arbennig ôl-16. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y gall y cyhoedd fod yn sicr bod ymarferwyr sy’n gweithio yn y sector hwn yn briodol o gymwys, yn dilyn ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, ac yn cael eu rheoleiddio.
Priodoldeb i gofrestru
Rydym yn mynnu bod pob ymgeisydd yn datgan eu hanes troseddol, disgyblu, neu reoleiddiol yn rhan o’u cais i gofrestru er mwyn sicrhau eu priodoldeb i ymarfer. Yn ystod 2023-24, gwnaethom gwblhau cyfanswm o 218 o asesiadau lle’r oedd ymgeiswyr wedi datgan materion penodol. Arweiniodd hyn at ystyried bod un unigolyn yn anaddas i ymarfer yn y proffesiynau cofrestredig yng Nghymru. Ym mhob achos, rydym wedi cadw at y graddfeydd amser a’r safonau a amlinellir yn ein gweithdrefnau cyhoeddedig..
Priodoldeb i ymarfer
Mae gennym gyfrifoldeb statudol i ymchwilio i achosion honedig o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu euogfarn am drosedd berthnasol, a’u clywed os oes angen. Rydym yn ymgymryd â’r gwaith hwn er budd y cyhoedd i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, ac i gynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg. Mae’n sicrhau mai dim ond y rhai sydd â’r sgiliau, y wybodaeth, a’r ymddygiadau angenrheidiol sy’n gallu cofrestru a gweithio yn y proffesiynau addysg yng Nghymru.
Eleni, gwnaethom gwblhau 74 o achosion priodoldeb i ymarfer. Roedd y rhain yn cynnwys 52 o wrandawiadau priodoldeb i ymarfer, y cynhaliwyd 49 ohonynt ar-lein, a thri wyneb yn wyneb. Mae amrywiaeth o gosbau y gellir eu gosod o ganlyniad i’r gwaith hwn. Yn yr achosion mwyaf difrifol cafodd 20 o unigolion eu dileu o’r Gofrestr gyhoeddus, sy’n golygu nad ydynt yn gallu ymarfer yn y proffesiynau cofrestredig yng Nghymru.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2023-24 yn rhoi gwybodaeth fanwl am dueddiadau yn ein gwaith achos a phroffil y rhai hynny sy’n ymddangos.
Gorchmynion atal dros dro interim
Pan fydd perygl diogelu i ddysgwyr, pobl ifanc, neu’r cyhoedd, mae gennym bwerau statudol i osod gorchmynion atal dros dro interim. Mae’r rhain yn caniatáu i ni ddileu unigolion o’r Gofrestr am gyfnod dros dro, tra’n disgwyl ymchwiliad. Yn ystod 2023-24, gwnaethom osod naw gorchymyn atal dros dro interim a chynnal naw adolygiad o orchmynion atal dros dro interim presennol.
Apeliadau sefydlu
Rydym yn gyfrifol am wrando ar apeliadau gan athrawon ysgol newydd gymhwyso sy’n methu’r cyfnod sefydlu statudol, ond sy’n anfodlon ar y penderfyniad. Ym mis Gorffennaf 2023, cawsom apêl a glywyd ac a gynhaliwyd gan banel annibynnol ym mis Rhagfyr 2023, yn unol â’n gweithdrefnau.
Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) yn amlinellu’r safonau a ddisgwylir gan ein cofrestreion, a bwriedir iddo lywio unrhyw ddyfarniadau a phenderfyniadau a wnânt. Mae hefyd yn rhoi gwybod i ddysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, cyflogwyr, a’r cyhoedd am y safonau y gallant eu disgwyl gan ymarferydd cofrestredig.
Gallai methiant i gydymffurfio â’r Cod godi amheuon ynglŷn â chofrestriad unigolyn (gweler yr adran Priodoldeb i Ymarfer). Felly, mae’n bwysig ein bod yn cynorthwyo ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid i ddeall gofynion y Cod. Yn ystod 2023-24, gwnaethom:
- gyflwyno 38 o sesiynau hyfforddi ar y Cod
- ychwanegu at ein casgliad o ganllawiau arfer da sy’n cydategu’r Cod a rhoi cyngor ychwanegol i gofrestreion ynglŷn â meysydd ymarfer allweddol
- datblygu a chyhoeddi gweminar fer ynglŷn â rôl reoleiddio a chofrestru CGA, a chyngor ynglŷn â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel
SAC a sefydlu statudol
Er mwyn ymarfer fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir, mae’n rhaid i gofrestreion feddu ar gymhwyster proffesiynol SAC a chwblhau cyfnod sefydlu statudol yn llwyddiannus. Eleni, fe wnaethom roi tystysgrifau i 1,198 i bobl a gyflawnodd SAC yng Nghymru. Gwnaethom hefyd asesu 64 o geisiadau am gydnabyddiaeth SAC gan ymgeiswyr a gyflawnodd gymwysterau y tu allan i Gymru. Fe wnaethom roi 1,395 o dystysgrifau i athrawon ysgol a gwblhaodd eu cyfnod sefydlu’n llwyddiannus.
Achredu AGA
Mae’n rhaid i’r holl raglenni AGA a gynigir yng Nghymru gael eu hachredu gan CGA a’u monitro drwy gydol y cyfnod achredu. Rydym yn dirprwyo’r swyddogaeth hon i’n Bwrdd Achredu AGA (y bwrdd). Wrth benderfynu p’un ai rhoi achrediad, mae’r bwrdd yn ystyried p’un a yw’r rhaglen yn bodloni’r meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni AGA yng Nghymru (y meini prawf). Yn 2023-24, roedd 15 o raglenni’n weithredol ar draws saith partneriaeth.
Yn ystod y flwyddyn, cynhaliodd y bwrdd ddau ymweliad monitro (pedair rhaglen), pedwar ymweliad ailachredu (wyth rhaglen), ac un ymweliad achredu (un rhaglen). O ganlyniad i’r gwaith hwn, penderfynwyd peidio ag ailachredu/achredu dwy raglen.
Mae CGA wedi gweithio’n agos gyda phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru drwy gydol y flwyddyn i roi cyngor a chymorth parhaus. Ym mis Hydref 2023, cynhaliom ein digwyddiad blynyddol ar gyfer partneriaethau AGA yn canolbwyntio ar rannu syniadau ac arferion newydd. Am y tro cyntaf, fe’i cynhaliwyd ar y cyd ag Estyn.
Ym mis Mai 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru feini prawf diwygiedig yn dilyn ymgynghoriad llawn. Diben y meini prawf diwygiedig oedd adlewyrchu’r hyn a ddysgwyd o’r rownd achredu gyntaf, a datblygiadau yng nghyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru.
Dyrannu niferoedd derbyn AGA
Ym mis Tachwedd 2023, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, dyrannom niferoedd derbyn AGA i bartneriaethau AGA ar gyfer rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi 2024. Gan gydnabod prinder athrawon penodol yng Nghymru, gwnaethom hefyd amlinellu gofynion penodol Llywodraeth Cymru i recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Byddwn yn parhau i fonitro recriwtio i raglenni yn 2024-25 ac yn adrodd ar gynnydd i Lywodraeth Cymru bob mis.
Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Ers mis Ionawr 2020, bu gennym gontract ar gyfer darparu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (y Marc Ansawdd), mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru.
Yn 2023-24, fe wnaethom asesu a dyfarnu’r Marc Ansawdd i 19 o sefydliadau (10 efydd, chwe arian, tri aur). Yn gyfan gwbl, mae 36 o sefydliadau bellach yn dal y Marc Ansawdd.
Fe wnaethom ymgysylltu’n helaeth â’r sector a darparu cyngor ac arweiniad i sefydliadau ac unigolion sy’n ystyried gwneud cais am y Marc Ansawdd. Rydym wedi datblygu a darparu hyfforddiant ar y Marc Ansawdd i weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid.
Rydym hefyd wedi cynyddu ymwybyddiaeth o’r Marc Ansawdd yn ehangach, gan gynnwys ymhlith pobl ifanc. Eleni, fe wnaethom ddatblygu cyflwyniad i’r Marc Ansawdd sy’n ‘gyfeillgar i bobl ifanc’ sydd ar gael fel fideo ar ein gwefan.
Astudiaeth achos: y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Roeddem yn falch iawn o gael ein hailgomisiynu gan Lywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru i ddarparu a datblygu’r Marc Ansawdd hyd at fis Mawrth 2025.
Mae’r Marc Ansawdd yn wobr genedlaethol sy’n cefnogi a chydnabod gwella safonau o ran darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwasanaethau gwaith ieuenctid. Er mwyn derbyn yr achrediad, mae’n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunanasesu yn erbyn cyfres o safonau ansawdd, a chael asesiad allanol llwyddiannus.
Ers ennill y contract am y tro cyntaf yn 2020, mae CGA wedi:
- cwblhau 60 o asesiadau
- hyfforddi 297 o weithwyr ieuenctid/gweithwyr cymorth ieuenctid
- hyfforddi cronfa o 48 o aseswyr (31 gweithredol)
Gwella safonau mewn addysgu a dysgu
Yn ystod 2023-24, fe wnaethom barhau i ymgymryd â gwaith a ariennir gan grant, ar ran Llywodraeth Cymru, i helpu i gefnogi a gwella proffesiynoldeb y gweithlu ôl-16 yng Nghymru. Ym mis Gorffennaf 2023, lansiwyd fframwaith datblygiad proffesiynol o ganlyniad i’r gwaith hwn. Ar y cyd â’r sector, fe wnaethom greu offer/cynnwys ar gyfer y fframwaith i helpu i gefnogi staff ac arweinwyr sy’n gweithio ym maes Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith i ymgysylltu â’r safonau proffesiynol.
Materion deddfwriaethol
Yn ogystal â’r ddeddfwriaeth newydd a ddaeth i rym ym mis Mai 2023 a ehangodd gofrestriad â CGA (gweler yr adran cofrestru), ymgynghorodd Llywodraeth Cymru eleni ar gynigion i ymestyn yr ystod o ymarferwyr y mae’n ofynnol iddynt gofrestru â ni ymhellach. Bydd y ddeddfwriaeth hon, a ddaw i rym ym mis Mai 2024, yn gweld dau gategori newydd yn cael eu hychwanegu at y Gofrestr ac yn cyflwyno lleiafswm cymwysterau ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr addysg oedolion.
Yn dilyn y cynnydd yng nghategorïau cofrestru CGA ym mis Mai 2023, fe wnaethom fynegi pryderon gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â rhai o’r gofynion yn y ddeddfwriaeth bresennol ynglŷn â chyfansoddiad paneli priodoldeb i ymarfer. O ganlyniad, yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2023, daeth deddfwriaeth i rym ar 1 Mawrth 2024 yn rhoi mwy o hyblygrwydd i CGA yn hyn o beth.
Rydym wedi parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill ynglŷn â chynigion ar gyfer cofrestru’r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn broffesiynol. Ym mis Mawrth 2024, fe wnaethom ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r mater. Amlygwyd pwysigrwydd sefydlu dealltwriaeth glir o’r gwaith a wneir gan yr ymarferwyr er mwyn pennu p’un a allai fod angen iddynt gael eu cofrestru gyda CGA, Gofal Cymdeithasol Cymru, neu’r ddau sefydliad.
Amcan 2: Cefnogi dysgu a phroffesiynoldeb o fewn y gweithlu addysg
Cefnogi ymarfer proffesiynol cofrestreion
Sefydlu
Rydym yn gweinyddu trefniadau cyllido, cofnodi, ac olrhain ar gyfer sefydlu statudol athrawon ysgol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, y consortia rhanbarthol, mentoriaid, athrawon newydd gymhwyso (ANG), a Llywodraeth Cymru. Yn 2023-24, roedd y gwaith hwn yn cynnwys:
- cynorthwyo 2,846 o athrawon newydd, 1,035 o fentoriaid sefydlu, 479 o wirwyr allanol a dros 850 o ysgolion yn rhan o’r rhaglen sefydlu
- dosbarthu dros £4.21 miliwn o gyllid ar gyfer sefydlu i ysgolion, sy’n cyfateb i 3,828 o daliadau
- rhyddhau dros £2.63 miliwn i’r consortia rhanbarthol i gefnogi gwirwyr allanol
- darparu cymorth gweinyddol wedi’i deilwra i gefnogi pob un o’r consortia rhanbarthol
- darparu gwasanaethau ar-lein, cyfleusterau desg gymorth, ac arddangosiadau i bob ymarferydd cofrestredig sy’n cael at ei broffil sefydlu, gwirwyr allanol, y consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, ac ysgolion
E-bortffolio cenedlaethol – Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Parhaom i ddatblygu a chynnal e-bortffolio cenedlaethol ar gyfer ein cofrestreion i’w cynorthwyo i gynllunio, cofnodi, a myfyrio ar eu profiadau a’u dysgu proffesiynol, a rhyngweithio â’u safonau proffesiynol. Ers iddo gael ei lansio ym mis Medi 2016, mae dros 42,000 o ymarferwyr wedi creu eu PDP, gyda bron 5,800 o gyfrifon ers 1 Ebrill 2023.
Rydym wedi darparu hyfforddiant a chymorth ar-lein drwy gydol y flwyddyn i helpu cofrestreion i ddefnyddio’r PDP, gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu llawlyfrau pwrpasol yn y PDP, a datblygu animeiddiad byr (a gyhoeddwyd ar ein gwefan) sy’n hyrwyddo buddion y PDP.
Digwyddiadau i gefnogi ymarfer proffesiynol cofrestreion
Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i gofrestreion sy’n canolbwyntio ar eu cefnogi mewn meysydd ymarfer allweddol a’u helpu i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i ddefnyddio ein digwyddiadau i arddangos syniadau arloesol a siaradwyr o’r radd flaenaf ar draws amrywiaeth o bynciau.
Ym mis Ionawr 2024, roeddem yn falch o groesawu’r Athro Shaaron Ainsworth i gyflwyno ein darlith flynyddol, Siarad yn Broffesiynol. Mynychwyd y digwyddiad gan fwy na 240 o bobl a glywodd Shaaron yn siarad ar bwnc ‘Datgloi dirgelion dysgu’, gan daflu goleuni ar fyd gwyddor wybyddol ac addysg.
Astudiaeth achos: Dosbarth Meistr CGA 2023 – deall a mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysgol
Ym mis Mai 2023, fe wnaethom gynnal Dosbarth Meistr (a fynychwyd gan fwy na 175 o bobl) ar ddeall a mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a chreu ymagweddau ataliol a rhagweithiol ar draws y sefydliad cyfan i fynd i’r afael â’r mater. Prif siaradwr y digwyddiad oedd EJ Renold, Athro Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymunwyd â nhw gan siaradwyr o NEU Cymru, yr NSPCC, Brook, Barnardo’s Cymru, Cymorth i Ferched Cymru, ac Estyn.
Yn dilyn y digwyddiad, recordiwyd rhifyn arbennig o’n podlediad, ‘Sgwrsio gyda CGA’, yn canolbwyntio ar aflonyddu rhwng cyfoedion. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi canllaw arfer da yn rhoi gwybodaeth i gofrestreion ar sut i atal, adnabod, ac ymateb i ddigwyddiadau aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion a mathau eraill o ymddygiad rhywiol niweidiol (a gefnogwyd gan Brook, yr NSPCC, a Barnardo’s Cymru).
Cefnogi ymchwil gan ymarferwyr
Yn unol â’n strategaeth ymchwil, rydym wedi parhau i hyrwyddo a chefnogi ymgysylltu ag ymchwil ar draws ein grwpiau o gofrestreion. Llinyn arall o’n gwaith i helpu ein cofrestreion i gydymffurfio ag agweddau penodol ar ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
Rydym yn cynnig ystod o adnoddau ar-lein i gofrestreion er mwyn annog ymchwil agos i ymarfer, gan gynnwys darparu mynediad am ddim at becyn EBSCO o gyfnodolion ac e-lyfrau academaidd. Rydym yn defnyddio Meddwl Mawr, ein clwb llyfrau a chyfnodolion, i godi ymwybyddiaeth o EBSCO, ac yn annog cofrestreion i droi at yr adnodd rhad ac am ddim hwn. Yn ystod 2023-24, gwnaethom argymell 18 o lyfrau yn ymdrin â phynciau fel ymwybyddiaeth ofalgar, cefnogi dysgwyr â dyslecsia, cynllunio gwersi, ac addysg deg.
Cyfathrebu ac ymgysylltu
Rydym wedi parhau i gryfhau ein gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ym mis Ebrill 2024, gwnaethom lansio ymgyrch i godi ein proffil ymhellach ymhlith cofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, y cyhoedd, a’n rhanddeiliaid. Yn rhan o’r ymgyrch, fe wnaethom gynnal adolygiad llawn o’n llenyddiaeth gorfforaethol, mynychu pum digwyddiad cenedlaethol, lansio cyfres o bodlediadau ‘Sgwrsio gyda CGA’, a chynnal tri digwyddiad CGA. Bydd y gwaith hwn yn cael ei adolygu a bydd yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae ein hyfforddiant, sesiynau cymorth, a chyflwyniadau ar-lein wedi cael eu hategu ymhellach trwy ychwanegu fideos hyfforddi ar gais, a dau animeiddiad corfforaethol sy’n rhoi trosolwg o’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol a’r Pasbort Dysgu Proffesiynol. Mae hyn wedi ein helpu i ddenu 852,841 o edrychiadau ar dudalennau ein gwefan.
Ailddyluniwyd ac ail-lansiwyd y wefan ei hun ym mis Mai 2023, gan ymgorffori gwelliannau i hygyrchedd, taith y defnyddiwr, brandio, llywio, a gosodiad. Ceisiwyd adborth parhaus gan ddefnyddwyr ers i ni fynd yn fyw a gweithredwyd arno, lle y bo’n briodol.
Cawsom sylw helaeth yn y cyfryngau eleni, gyda diddordeb arbennig yn ein gwaith priodoldeb i ymarfer. Fodd bynnag, roedd gan y wasg ddiddordeb mewn pynciau eraill hefyd fel y Marc Ansawdd, canlyniadau ein harolwg 2023 o’r Gweithlu Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig Ar Waith, a’n cydweithrediad â sefydliadau eraill i wella amrywiaeth y gweithlu addysg.
- 16,182 o alwadau ffôn wedi’u derbyn
- 260+ o gyflwyniadau a sesiynau cymorth wedi’u darparu
- 852,841 o edrychiadau ar dudalennau ar ein gwefan
- 9,657 o ddilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol
- 7 blog gwadd wedi’u cyhoeddi gan unigolion amlwg ym myd addysg
- 8 cylchlythyr wedi’u cyhoeddi
Astudiaeth achos: podlediad Sgwrsio gyda CGA
Ym mis Mehefin 2023, lansiwyd ein podlediad newydd ‘Sgwrsio gyda CGA’ ac rydym wedi rhyddhau pedair pennod yn y gyfres hyd yma. Nod y podlediad yw ymdrin ag ystod o faterion sydd o ddiddordeb i’n cofrestreion, gan rannu profiadau, syniadau, safbwyntiau, a rhoi mewnwelediadau sy’n procio’r meddwl i’w helpu â’u hymarfer o ddydd i ddydd. Rydym eisoes wedi ymdrin ag ystod o bynciau, gan gynnwys:
- y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
- aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion
- amrywiaethu gweithlu addysg Cymru
- y Gymraeg yn y gweithle
Cyfrannodd nifer o westeion amlwg at benodau ein podlediad i rannu eu harbenigedd a’u profiadau bywyd, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, cynrychiolwyr o DARPL, Brook, Barnardo’s Cymru, yr NSPCC, ac Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Yn 2024-25, edrychwn ymlaen at ymdrin â phynciau fel lles a thechnoleg addysg.
Amcan 3: Ceisio llywio, ffurfio, a dylanwadu ar bolisi addysgol yng Nghymru er budd y gweithlu addysg
Cefnogi polisi addysgol
Rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at ddatblygu polisi er budd ein cofrestreion, a dylanwadu arno.
Mae’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr, a’r uwch swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â phobl allweddol ym myd addysg yng Nghymru, gan gynnwys Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, ac arweinwyr addysg pob un o’r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn Senedd Cymru. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gydag ystod o sefydliadau fel undebau llafur, y consortia rhanbarthol, cyflogwyr, Estyn, Cymwysterau Cymru, yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Colegau Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid, DARPL, a Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.
Rydym wedi cyfranogi mewn a chyfrannu at dros 45 o grwpiau cenedlaethol â phroffil uchel sydd â chylchoedd gwaith yn ymestyn ar draws ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a gwaith ieuenctid. Mae’r rhain wedi ymdrin â materion allweddol y gweithlu fel llwyth gwaith, recriwtio a chadw, dysgu proffesiynol, lles, ac ymgysylltu ag ymchwil.
Rydym yn ymateb yn rheolaidd i ymgynghoriadau i eiriol ar ran y gweithlu addysg a defnyddiwn ein gwybodaeth a’n harbenigedd i ddylanwadu’n gadarnhaol ar y system addysg yng Nghymru. Yn 2023-24, ymatebom i naw ymgynghoriad ffurfiol ac 12 cais am dystiolaeth neu gyngor. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar gofrestru ymarferwyr o’r sector annibynnol gyda CGA, tystiolaeth ysgrifenedig i ymgynghoriad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar weithredu cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, tystiolaeth lafar i Lywodraeth Cymru ar ymgysylltu i gryfhau’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, a galwad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am dystiolaeth i adolygu’r cymorth sydd ar gael i’r gweithlu addysg i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Cyngor polisi wedi'i seilio ar dystiolaeth
Data a dadansoddi
Mae ein Cofrestr yn cynnig cyfoeth o wybodaeth i lywio a dylanwadu ar bolisi a chynllunio’r gweithlu yng Nghymru. Dyfynnir ohoni a chyfeirir ati’n aml yn y Senedd, gan undebau llafur, a chan y cyfryngau.
Ym mis Medi 2023, cyhoeddasom ein Hystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru. Mae’n manylu ar gyfansoddiad y gweithlu cofrestredig ar draws ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a lleoliadau gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae dadansoddiadau data ychwanegol a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi ymdrin â materion fel y Gymraeg, canlyniadau AGA, ac ANG.
Mae ein Cofrestr hefyd yn rhoi gwybodaeth werthfawr am yr heriau recriwtio a chadw presennol sy’n wynebu lleoliadau addysg yng Nghymru. Gallwn ddefnyddio hyn i roi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill. Rydym hefyd wedi darparu nifer sylweddol o becynnau data i gefnogi Llywodraeth Cymru ac eraill, fel CACAC a chonsortia rhanbarthol.
Ym mis Mehefin 2024, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar Arolwg 2023 o’r Gweithlu Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith (a gynhaliwyd ar ran y grŵp llywio llwyth gwaith darlithwyr addysg bellach cenedlaethol, sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Colegau Cymru, a’r undebau llafur ar y cyd). Mae’r adroddiad manwl hwn ar yr arolwg yn ymdrin ag ystod o feysydd gan gynnwys canfyddiadau ymarferwyr o’u rôl a’u gyrfa, patrymau gwaith a llwyth gwaith, lles, a dysgu proffesiynol.
Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac iechyd a lles
Rydym yn gwybod bod proffesiwn addysg amrywiol yn hanfodol i greu amgylchedd cynhwysol i ymarferwyr a dysgwyr. Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y gweithlu addysg. Mae hyn wedi cynnwys:
- gweithio mewn partneriaeth â DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol) a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a hyrwyddo eu cynhadledd genedlaethol gyntaf
- cynhyrchu pennod o bodlediad ar amrywiaethu gweithlu addysg Cymru, a oedd yn cynnwys siaradwyr arbenigol yn myfyrio ar eu profiadau bywyd
- ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gefnogi eu cynigion ar gyfer Cymru wrth-hiliol
- cadarnhau ein safbwynt ar hiliaeth trwy lofnodi addewid Dim Hiliaeth Cymru Race Council Cymru
Astudiaeth achos: Gweithio mewn partneriaeth â DARPL
Fe wnaethom ffurfio partneriaeth â DARPL i helpu i drefnu a hyrwyddo eu cynhadledd amrywiaeth ac arweinyddiaeth wrth-hiliol genedlaethol gyntaf, a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2023.
Denodd y digwyddiad fwy na 250 o fynychwyr, gan ddwyn ynghyd arweinwyr ar draws addysg gynradd ac uwchradd, y blynyddoedd cynnar, a gwaith ieuenctid. Fe wnaeth y digwyddiad ganolbwyntio ar gefnogi ymarferwyr i symud oddi wrth arferion anhiliol i wrth-hiliol a’r newidiadau ymarferol y gall addysgwyr yng Nghymru eu gwneud.
Rhoddodd ein Prif Weithredwr sylwadau i gloi yn y digwyddiad, gan amlygu ymrwymiad CGA i hyrwyddo arferion gwrth-hiliol a chefnogi’r broses o weithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.
Hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg
Mae gennym swyddogaeth statudol i hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg yng Nghymru ac rydym wedi parhau i ddatblygu brand a phlatfform Addysgwyr Cymru i gefnogi recriwtio a chamu ymlaen.
Rhoddwyd cynnwys newydd a diddorol ar wefan Addysgwyr Cymru Mae ei phorth swyddi wedi cael ei wella i ddarparu cymorth gwell i gyflogwyr hysbysebu swyddi gwag, gan ei gwneud yn haws i addysgwyr ddod o hyd i’w rôl nesaf. Eleni, ymwelwyd â’r wefan 687,300 o weithiau ac, am y tro cyntaf, mae porth swyddi Addysgwyr Cymru wedi hysbysebu mwy o swyddi gwag yn gyson nag unrhyw ddarparwr tebyg yng Nghymru.
Rydym hefyd wedi parhau i weithio gyda phartneriaid i roi cynlluniau gweithredu penodol ar waith ar gyfer meysydd recriwtio blaenoriaethol, gan gynnwys cefnogi partneriaethau AGA â’u cynlluniau i recriwtio i bynciau blaenoriaethol, a denu addysgwyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ac iaith Gymraeg.
Trwy ein gwasanaeth hyrwyddo ac eirioli, rydym wedi cynnig cymorth i unigolion, cyflogwyr, a sefydliadau addysg trwy fynychu 205 o ddigwyddiadau ac ymgysylltu â miloedd o unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd addysg.
- 687,300 o ymwelwyr â gwefan Addysgwyr Cymru
- 6,982 o swyddi gwag wedi’u postio ar y porth swyddi
- 682 o ymholiadau neu geisiadau am gyngor
- 205 o ddigwyddiadau recriwtio wedi’u mynychu
- 87 oarddangosiadau o’r platfform i sefydliadau a chyflogwyr
Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC)
Fel yr ysgrifenyddiaeth annibynnol i CACAC, chwaraeom rôl allweddol wrth hwyluso gwaith y bwrdd adolygu. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd hyn yn cynnwys cynorthwyo CACAC i gynhyrchu adroddiad ar athrawon cyflenwi, a gyflwynwyd i Weinidog y Gymraeg ac Addysg ym mis Ebrill ac a ailgyflwynwyd ym mis Hydref 2023 yn dilyn ymarfer ymgynghori, ac adolygiad strategol o strwythur cyflog ac amodau athrawon ac arweinwyr yng Nghymru a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2023.
Amcan 4: Bod yn sefydliad cydnerth, galluog ac ariannol gynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion
Cyllid
Cyflwynwyd ein Hadroddiad Blynyddol a’n Cyfrifon gerbron y Senedd ym mis Awst 2023. Cawsom farn archwilio ddiamod ac, ar gyfer pob un o’r pum adolygiad archwilio mewnol a gwblhawyd yn 2023-24, cawsom y farn archwilio uchaf o sicrwydd sylweddol ac ni wnaed unrhyw argymhellion.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024, adroddom warged o £135,000 (gwarged o £247,000 yn 2022-23) a chyfanswm asedau net o £5,603,000 (£5,535,000 ar 31 Mawrth 2023).
Rydym hefyd wedi cynnal digon o gronfeydd ariannol wrth gefn i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwn yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw risgiau a allai godi o ddigwyddiadau annisgwyl.
Gwasanaethau cost-effeithiol
Gan fod ein swyddogaethau craidd, sef cofrestru a rheoleiddio, yn cael eu hariannu gan ffioedd cofrestru, mae’n hanfodol nad ydym yn gwario mwy na’n hincwm a’n bod yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithlon. Rydym yn ceisio cadw ffioedd cofrestru mor isel â phosibl, gan ddarparu’r lefel uchaf o wasanaeth ar yr un pryd wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol.
Rydym wedi parhau i wneud gwelliannau i’n seilwaith TG a’n cyfleusterau i sicrhau ein bod yn cynnig gwerth am arian i’n cofrestreion am eu ffioedd blynyddol. Er enghraifft, mae 99% o geisiadau cofrestru’n cael eu gwneud ar-lein bellach, ac mae mwyafrif ein gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer yn cael eu cynnal ar-lein erbyn hyn hefyd.
Ein pobl
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac mae ein hagweddau at recriwtio, datblygu, a dyrchafu staff wedi hen ennill eu plwyf. Mae prosesau recriwtio’n cael eu monitro a’u profi’n barhaus i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a chyfrifoldebau cydraddoldeb. Yn 2023-24, fe wnaethom 12 o benodiadau, yr oedd pedwar ohonynt yn fewnol.
Datblygiad staff
Rydym yn cydnabod mai ein staff yw ein prif ased. I’r perwyl hwnnw, rydym yn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i’w galluogi i ffynnu. Mae gennym raglen hyfforddi staff gynhwysfawr, sy’n cyd-fynd ag amcanion sefydliadol. Yn ystod 2023-24, cynaliasom sesiynau ar ymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant, a niwrowahaniaeth. Mae aelodau staff unigol yn gallu gofyn am hyfforddiant hefyd yn rhan o’r broses adolygu perfformiad a datblygiad.
Lles staff
Ein nod yw creu amgylchedd ffisegol a diwylliant gweithle sy’n hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol cadarnhaol, a lles. Rydym yn sicrhau bod gan staff fynediad am ddim at linell gymorth gyfrinachol sy’n rhoi cymorth i weithwyr a chyfres o weminarau gan Care First sy’n ymdrin ag ystod o bynciau iechyd a lles. Mae pedwar swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl o fewn y sefydliad hefyd sydd wedi’u hyfforddi i gynorthwyo eu cydweithwyr.
Yn ogystal, mae gennym raglen lles staff barhaus sy’n annog cydweithwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a ddyluniwyd i hyrwyddo eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Cefnogi aelodau
Gwneir penodiadau i’r Cyngor bob pedair blynedd, drwy broses penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Penodwyd ein Cyngor newydd ar 1 Ebrill 2023 gyda chwe phenodiad newydd a chwe aelod yn parhau am gyfnod arall o bedair blynedd. Cefnogwyd yr holl aelodau trwy raglen sefydlu ac adolygu a datblygu perfformiad. Mae gweithgarwch recriwtio ychwanegol yn parhau ar gyfer y ddwy swydd wag sy’n weddill. Yn dilyn ymarfer recriwtio, penodwyd aelod lleyg newydd o’n Pwyllgor Archwilio a Chraffu hefyd, a ddechreuodd ar 1 Ebrill 2023. Mae gan aelodau’r Cyngor brofiad helaeth, ac mae eu gwybodaeth yn rhychwantu pob un o’r 11 o grwpiau cofrestreion y Cyngor yn ogystal â phresenoldeb lleyg.
Rydym hefyd yn cynnal ac yn cefnogi cronfa o aelodau annibynnol y panel priodoldeb i ymarfer, aelodau’r Bwrdd Achredu AGA, ac aseswyr y Marc Ansawdd. Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi cynnal nifer o ymarferion recriwtio i sicrhau bod gennym niferoedd digonol o aelodau sydd â’r wybodaeth a’r arbenigedd priodol. Rydym hefyd wedi darparu hyfforddiant i’r holl aelodau drwy gydol y flwyddyn i’w cynorthwyo i gyflawni eu rôl.
Diogelwch TG
Mae gennym fecanweithiau cadarn ar waith i sicrhau diogelwch ein rhwydwaith TG a’r data a gedwir ynddo. Cyflawnom ardystiad Cyber Essentials ym mis Mai 2023, a chynhaliom wiriadau cydymffurfio â safonau diogelwch data’r diwydiant cardiau talu yn chwarterol. Rydym yn darparu hyfforddiant seiberddiogelwch ar-lein i’n holl staff a chynhaliom brofion gwe-rwydo rheolaidd i gynnal ymwybyddiaeth staff o faterion seiber.
Diogelu data
Mae polisïau a gweithdrefnau cadarn ar waith gennym i fonitro diogelwch data a sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion diogelu data.
Darperir hyfforddiant ar ddiogelu data i’r holl staff, aelodau’r Cyngor, a phanelwyr. Mae’r ddarpariaeth yn cael ei theilwra i weddu i ofynion y gynulleidfa ac fe’i hadolygir yn flynyddol.
Cynhaliodd ein tîm data adolygiad llawn yn ystod y flwyddyn a arweiniodd at ddiweddaru, cydgrynhoi, a byrhau ein polisïau diogelu data er mwyn darparu cyfres glir a chryno o ddogfennau i’r holl staff eu defnyddio. Rhannwyd y rhain, ac unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau eraill, gyda staff trwy ein gweithgor diogelu data (a fynychir gan yr holl reolwyr tîm) a thrwy fewnrwyd y staff.
Yn 2023-24, ymatebom i chwe chais am fynediad at ddata gan y testun a 22 o geisiadau rhyddid gwybodaeth.
Y Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg ac yn falch o weithredu fel sefydliad dwyieithog, sy’n cynnig gwasanaethau i gofrestreion yn Gymraeg a Saesneg.
Mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â 148 o Safonau’r Gymraeg, sy’n ymdrin â darparu gwasanaeth, materion gweithredol, llunio polisïau, a chadw cofnodion. Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r safonau hyn.
Cyhoeddom ein hadroddiad monitro blynyddol ar Safonau’r Gymraeg ym mis Gorffennaf 2023, a oedd yn amlinellu ein hymrwymiad i’r safonau a’n cydymffurfedd â nhw.
Cydraddoldeb
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb o fewn y sector a sicrhau ein bod ni, fel cyflogwyr, yn hyrwyddo tegwch ac amrywiaeth, ac yn gweithio’n effeithiol tuag at greu Cymru decach. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu sut byddwn yn gweithio tuag at y nod o gyflawni cyfle cyfartal, o fewn ein sefydliad, ac ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.
Byddwn yn cyhoeddi ein Hadroddiad Cydraddoldeb Blynyddol ym mis Awst 2024, sy’n adolygu ein cynnydd yn erbyn yr amcanion yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24.
Astudiaeth Achos: Ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, a’r Gymraeg
Er ein bod wedi adrodd ar ein cydymffurfedd deddfwriaethol yn y meysydd hyn, rydym wedi ymrwymo i fynd y tu hwnt i gydymffurfio, fel cyflogwr, ac fel rhan o’n rhyngweithiadau ehangach o fewn y gweithlu addysg. Rydym yn falch o adrodd bod gweithgareddau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi cynnwys:
- defnyddio’r data unigryw o’n Cofrestr i amlygu materion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, a’r Gymraeg
- gweithio mewn partneriaeth â DARPL i drefnu a hyrwyddo cynhadledd amrywiaeth ac arweinyddiaeth wrth-hiliol genedlaethol
- hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg ymhlith unigolion o gymunedau du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol, ac mewn addysg cyfrwng Cymraeg
- cyflwyno cylchlythyr cydraddoldeb rheolaidd ar gyfer staff a chyhoeddi ein cylchlythyr ‘Cymraeg ar Waith’ chwarterol
- gwella hygyrchedd gwefan CGA
- lansio mewnrwyd ddwyieithog ar gyfer staff, gan alluogi cydweithwyr i dderbyn a rhannu’r holl gyfathrebiadau mewnol trwy eu dewis iaith
- llofnodi addewid gwrth-hiliaeth Race Council Cymru, sef Dim Hiliaeth Cymru, ym mis Medi 2023
- cynnwys staff, cofrestreion, a rhanddeiliaid sy’n cynrychioli un neu fwy o’r grwpiau gwarchodedig, mewn ffurfio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024-28
Materion amgylcheddol a chymunedol
Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd i’r eithaf, yn unol â’r dyletswyddau a amlinellir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y Ddyletswydd Adran 6 ar Fioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau ar ein gwefan, a adolygwyd gennym eleni.
Ymgynghori â gweithwyr a rhanddeiliaid
Cyflogeion
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu â’r holl gyflogeion, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddatblygiadau mewnol ac allanol.
Yn ogystal â’n trefniadau ffurfiol ar gyfer adolygu staff yn flynyddol, mae gennym amrywiaeth o ddulliau mwy anffurfiol o gydweithio, gan gynnwys calendr o gyfarfodydd a diweddariadau, llyfrgell staff, a mewnrwyd. Rydym hefyd yn cynnal diwrnod cynllunio blynyddol ar gyfer staff, lle mae staff yn trafod a chyfrannu at ddatblygu ein cyfres o gynlluniau sefydliadol.
Mae’r fforwm cyflogeion yn rhoi cyfle i staff drafod a dylanwadu ar waith CGA mewn meysydd fel iechyd a diogelwch, lles, a’r Gymraeg.
Rhanddeiliaid
Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â’n rhanddeiliaid a’n partneriaid yn y sector addysg, gan ddefnyddio amrywiaeth o sianeli i ymgysylltu ac ymgynghori ar ystod o weithgareddau.
Rydym wedi arwain dau ymgynghoriad ffurfiol eleni yn gysylltiedig â’n Cynllun Strategol 2024-27 a’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28.
Rydym hefyd wedi ymgysylltu’n eang â chofrestreion a rhanddeiliaid, ar draws pob sector, yn rhan o’r prosiectau niferus rydym wedi’u harwain drwy gydol y flwyddyn.
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr
1 Awst 2024
Adroddiad llywodraethu corfforaethol
Adroddiad y Cyfarwyddwyr
Y Cyngor
Mae gan y Cyngor 14 o aelodau, yn cynnwys saith aelod a benodir gan Weinidogion Cymru o enwebeion sefydliadau fel yr amlinellir yn Atodlen 2 Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014, a saith aelod a benodir yn uniongyrchol gan Weinidogion Cymru. Ymdrinnir â strwythur pwyllgorau a llywodraethu’r Cyngor yn fanylach yn yr adroddiad ar berfformiad.
Yr aelodau yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2023 tan 31 Mawrth 2024 oedd:
- Eithne Hughes, Cadeirydd (a etholwyd i’r swydd o 15 Mai 2023)
- Kelly Edwards
- Bethan Thomas
- Nicola Stubbins
- David Williams
- Rosemary Jones
- Geraint Williams
- Sue Walker
- Gwawr Taylor
- Theresa Evans-Rickards
- Jane Jenkins
- Kathryn Robson
- Swydd wag (ers 1 Ebrill 2023)
- Swydd wag (ers 1 Ebrill 2023)
Yn ogystal, mae’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu yn cynnwys un aelod lleyg (Alison Jarvis).
Uwch swyddogion
Yr uwch swyddogion ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 tan 31 Mawrth 2024 oedd:
- Prif Weithredwr - Hayden Llewellyn
- Cyfarwyddwr Cymwysterau, Cofrestru a Phriodoldeb i Ymarfer - Elizabeth Brimble (tan iddi ymddeol ar 31 Awst 2023)
- Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol - Lisa Winstone
- Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi - Bethan Holliday-Stacey
- Cyfarwyddwr Rheoleiddio - David Browne (o 1 Medi 2023)
Mae’r Cyngor yn cynnal Cofrestr o Fuddiannau Aelodau, sydd ar gael ar y wefan, sy’n rhoi manylion unrhyw fuddiannau sy’n berthnasol i’w gwaith fel aelod o’r Cyngor, neu a allai fod yn berthnasol i hynny. Mae’n ofynnol i uwch swyddogion beidio â dal unrhyw swydd y cânt gydnabyddiaeth ariannol am ei chyflawni a fyddai’n gwrthdaro â’u dyletswyddau ar gyfer y Cyngor, ac adroddir am unrhyw swyddi di-dâl eraill hefyd. Datgelir manylion trafodion â phartïon cysylltiedig, gan gynnwys aelodau’r Cyngor ac uwch swyddogion, yn Nodyn 19 i’r Cyfrifon.
Datganiad o gyfrifoldebau’r Cyngor a’r Prif Weithredwr
O dan Baragraff 21 Atodlen 1 Deddf Addysg (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i CGA baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol, ar y ffurf a’r sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa CGA ar ddiwedd y flwyddyn a’i incwm a’i wariant a’i lifoedd arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n ofynnol i CGA gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth, ac yn benodol i:
- ddilyn y Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson
- gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
- datgan a yw’r safonau cyfrifyddu perthnasol, fel y’u nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth, wedi’u dilyn, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriad o bwys yn y datganiadau ariannol
- paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol
Amlinellir cyfrifoldebau’r Prif Weithredwr yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw’n cynnwys cyfrifoldeb am y canlynol: - priodoldeb a rheoleidd-dra’r cyllid cyhoeddus y mae’r Prif Weithredwr yn atebol amdano
- cadw cofnodion priodol
- diogelu asedau CGA
Fel Prif Weithredwr, cadarnhaf: - hyd y gwn i, nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw archwilwyr CGA yn ymwybodol ohoni
- yr wyf wedi cymryd yr holl gamau gofynnol i ddod i wybod am unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod archwilwyr CGA yn ymwybodol o’r wybodaeth honno
- bod yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon hyn yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys, ac yn ddealladwy, ac fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon hyn a’r dyfarniadau gofynnol ar gyfer pennu eu bod yn deg, yn gytbwys, ac yn ddealladwy
Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Mae CGA wedi ymrwymo i gyflawni safonau uchel o lywodraethu wrth gyflawni ei amcanion corfforaethol, gan gynnwys rheoli ei adnoddau yn briodol. Mae’r datganiad hwn yn disgrifio’r trefniadau llywodraethu ar gyfer CGA yn 2023-24 a fframwaith risg a rheoli CGA, gan gloi gydag asesiad o’u heffeithiolrwydd yn ystod y flwyddyn.
Ac yntau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol a chorff cyhoeddus, nid yw CGA wedi’i gyfrwymo’n ddeddfwriaethol gan God Llywodraethu Corfforaethol y llywodraeth ganolog, er ei fod yn dewis dilyn llawer o’i egwyddorion i gyfoethogi ei arferion. Yn rhan o’u telerau penodi a’r gyfres ddilynol o weithdrefnau llywodraethu, mae’n ofynnol i aelodau’r Cyngor fabwysiadu egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus trwy God Ymddygiad ac Ymarfer Gorau ar gyfer Aelodau CGA. Dylanwadir ar y Cod hwn gan y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Bwrdd Corff Cyhoeddus (a gyhoeddwyd gan swyddfa’r Cabinet yn 2011 ac a adolygwyd yn 2019), y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (Pwyllgor Nolan) a’r egwyddorion ychwanegol a amlinellir yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001.
Rôl Cyngor y Gweithlu Addysg
Prif nodau a swyddogaethau CGA yw:
- cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru
- cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon ac eraill sy’n cefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru
- diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg
Fframwaith llywodraethu
Mae’r fframwaith llywodraethu yn cynnwys y systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gyflawni ei weithgareddau, ac mae’n seiliedig ar genhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd CGA. Mae’n galluogi CGA i fonitro a rheoli ei weithrediadau.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gorff corfforaethol, a sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 a Rheoliadau amrywiol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015. Mae’n ofynnol i aelodau’r Cyngor (cyfeiriwch at adroddiad y cyfarwyddwyr am wybodaeth ychwanegol) gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Gorau ar gyfer Aelodau.
Mae’r aelodau yn aelodau o un o dri o bwyllgorau sefydlog y Cyngor: y Pwyllgor Gweithredol, y Pwyllgor Cofrestru a Rheoleiddio, a’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu. Mae’r Cyngor yn cyfarfod teirgwaith y flwyddyn (er y cynhaliwyd chwe chyfarfod yn 2023-24 i ystyried eitemau ychwanegol), ac fel arfer bydd pob pwyllgor hefyd yn cyfarfod teirgwaith y flwyddyn, ac adroddir busnes y pwyllgor i gyfarfod nesaf y Cyngor. Yn ogystal, mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Adolygu Perfformiad, yn cynnwys y Cadeirydd a dau aelod arall, sy’n cytuno ar yr asesiad o berfformiad y Prif Weithredwr, yn cadarnhau dyfarnu unrhyw gynyddran, ac yn gosod yr amcanion ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Caiff y fframwaith llywodraethu ei ffurfioli drwy Reolau Sefydlog CGA, sy’n nodi sut mae’r Cyngor a’r pwyllgorau yn gweithredu. I gefnogi hynny, ceir cyfres o bolisïau a gweithdrefnau sy’n nodi sut mae CGA yn gweithredu a’r broses ar gyfer cyflawni amcanion corfforaethol. Y rhain sy’n ffurfio system reoli fewnol CGA.
Y Cadeirydd sy’n gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth strategol effeithiol ar faterion fel ffurfio strategaeth CGA ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau statudol, annog safonau uchel o briodoldeb, a hybu defnydd effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill ym mhob rhan o CGA, a sicrhau bod CGA, wrth wneud penderfyniadau, yn rhoi ystyriaeth briodol i’w gyfrifoldebau statudol.
Mae rolau’r aelodau yn strategol ac maent yn cynnwys canolbwyntio ar strategaeth gorfforaethol, amcanion a thargedau strategol allweddol, cymeradwyo dogfennau polisi o bwys, a phenderfyniadau o bwys sy’n ymwneud â defnyddio adnoddau ariannol ac adnoddau eraill. O dan y Rheolau Sefydlog, caiff y Cyngor ddirprwyo cyfrifoldebau am faterion penodol i bwyllgorau’r Cyngor, y Cadeirydd, neu’r Prif Weithredwr. Mae gan aelodau’r Cyngor a swyddogion gyfrifoldebau sy’n ategu ei gilydd o ran ffurfio a gweithredu polisïau’r Cyngor.
Mae’r cyfrifoldeb am reolaeth o ddydd i ddydd wedi’i ddirprwyo i’r Prif Weithredwr ac uwch aelodau staff, o fewn fframwaith rheoli strategol clir gan aelodau’r Cyngor. Y Prif Weithredwr sydd â’r cyfrifoldeb, o dan y Cyngor, am brosesau trefnu, rheoli, a staffio cyffredinol CGA, gan gynnwys:
- sicrhau bod CGA yn cydymffurfio a’r holl ddeddfwriaeth berthnasol
- monitro cydymffurfedd â rheoliadau a pholisïau mewnol CGA
- ymddygiad a disgyblaeth y staff.
Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am lywodraethu corfforaethol priodol CGA, rheoli ei swyddogion gweithredol yn effeithiol, rheoli ariannol, a chyfathrebu â rhanddeiliaid. Mae’r Prif Weithredwr wedi sefydlu trefniadau dirprwyo os bydd yn absennol a bydd y Cyfarwyddwr Cymwysterau, Cofrestru a Phriodoldeb i Ymarfer (tan iddi ymddeol a 31 Awst 2023) a’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol (o 1 Medi 2023) yn ymgymryd â’r rôl.
Cefnogir y Prif Weithredwr gan ei Uwch Dîm Rheoli (UDRh), sy’n cynnwys tri chyfarwyddwr fel uwch swyddogion, a restrir yn Adroddiad y Cyfarwyddwyr. Mae’r UDRh yn cyfarfod yn fisol. Ei gylch gwaith yw cynghori’r Prif Weithredwr ar gynnydd yn unol â’i brif weithgareddau, cadarnhau dyraniad adnoddau, monitro a rheoli cyfrifon rheoli yn seiliedig ar gyllidebau y cytunwyd arnynt, adolygu a diwygio’r Gofrestr Risg, ac adolygu a chymeradwyo polisïau newydd a diwygiedig sy’n effeithio ar bob agwedd ar weithrediadau CGA.
Yn 2023-24, ymrwymodd CGA i bedwar amcan corfforaethol, sef:
- bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol effeithiol sy’n gweithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg
- cefnogi dysgu a phroffesiynoldeb o fewn y gweithlu addysg
- ceisio llywio, ffurfio a dylanwadu ar bolisi addysgol yng Nghymru er budd y gweithlu addysg
- bod yn sefydliad cydnerth, galluog, ac ariannol gynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion
Dehonglir amcanion yn weithgareddau drwy’r cynllun strategol tair blynedd a’r cynllun gweithredol blynyddol. Goruchwylir perfformiad gweithredol ac ariannol gan y Pwyllgor Gweithredol drwy adolygiadau chwarterol, sy’n adrodd ar gyflawniadau yn unol ag amcanion ar gyfer y cyfnod adrodd. Cyflawnir atebolrwydd ariannol drwy’r prosesau pennu cyllideb flynyddol, yn seiliedig ar gynlluniau sydd wedi eu cymeradwyo, a chynhyrchir cyfrifon rheoli misol, y mae’r Uwch Dîm Rheoli yn craffu arnynt. Seilir fformat y cyfrifon blynyddol ar Lawlyfr Adroddiadau Ariannol y Trysorlys. Mae hyn yn sicrhau eglurder ynghylch datgelu perfformiad ariannol. Yna, caiff y Cyfrifon hyn, a’r systemau ariannol ategol, eu harchwilio’n allanol, i gadarnhau eu bod yn gywir a’u bod yn cydymffurfio â gofynion datgelu, a rheoleidd-dra trafodion ariannol.
Fframwaith risg a rheoli
Mae’r fframwaith risg a rheoli yn seiliedig ar y polisi rheoli risg sy’n ffurfio haen allweddol o drefniadau rheoli mewnol a llywodraethu corfforaethol CGA. Mae’r polisi’n ategu’r prif egwyddorion a amlinellir yn Llyfr Oren Trysorlys EM, er nad yw hyn wedi cael ei fabwysiadu’n ffurfiol fel ymagwedd ar gyfer CGA. Mae’r polisi’n cydnabod nad yw’n bosibl dileu pob risg, ond, drwy’r Gofrestr Risg, mae’n cofnodi’r prosesau a ddefnyddir i leihau risg i lefel dderbyniol. Mae hefyd yn nodi bod yr holl staff yn chwarae rhan mewn nodi risgiau posibl newydd, er mai’r UDRh sy’n gyfrifol am reoli’r risgiau. Mae’r polisi’n cael ei adolygu ddwywaith y flwyddyn, ac fe’i hadolygwyd ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2023.
Mae’r Gofrestr Risg yn rhoi manylion yr holl fygythiadau allweddol i gyflawni’r amcanion corfforaethol, y cytunwyd arnynt yn y cynllun strategol a’r cynllun gweithredol. Rhoddir sgôr i bob risg allweddol yn seiliedig ar ei heffaith bosibl ar fusnes CGA a’r tebygolrwydd y bydd yn digwydd. Mae’r strategaeth reoli yn cynnwys derbyn, osgoi, lleihau neu drosglwyddo risgiau mewn ymateb i hynny. Mae camau penodol sy’n ofynnol yn cael eu hamlygu, eu dyrannu i uwch reolwr a’u gweithredu yn unol â therfynau amser penodol. Mae’r Gofrestr Risg yn cynnwys gwerthusiad o lefel y ’risg weddilliol’ ar ôl gweithredu’r dull rheoli. Caiff risgiau agoriadol a gweddilliol eu cynrychioli drwy ddefnyddio system rybuddio goleuadau traffig, ac mae iddynt liw sy’n unol â hynny (Coch/ Melyn/ Gwyrdd). Ystyriwyd yr holl risgiau ar adeg yr adolygiad chwarterol.
Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd y Gofrestr Risg yn cynnwys y prif risgiau canlynol:
Prif risg | Mesurau lliniaru allweddol | |
---|---|---|
Risg gynhenid Risg weddilliol |
Os nad ydym yn cofrestru a rheoleiddio grwpiau cofrestreion yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, byddai niwed yn cael ei achosi i’n henw da ac fe allai arwain at gymryd camau cyfreithiol. |
|
Risg gynhenid Risg weddilliol |
Os yw gweithgareddau gweithredol yn golygu bod gwariant CGA yn fwy na’r incwm o ffioedd cofrestru, mae’n bosibl na fydd digon o arian i gyflawni ein hamcanion. |
|
Risg gynhenid Risg weddilliol | Os bydd Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer yn gwneud penderfyniad sy’n cael ei herio yn yr Uchel Lys a’i golli, bydd goblygiadau i’r sefydliad o ran arian ac enw da. |
|
Risg gynhenid Risg weddilliol | Ar ôl i CGA gael ei ddosbarthu fel Corff Cyhoeddus gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a’i gynnwys wedi hynny yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig), gallai adnoddau CGA fod yn destun rheolaethau Senedd Cymru gan olygu bod y Senedd yn ‘pleidleisio’ ar ein cyllideb ac nid yw CGA yn rheoli ei gronfeydd wrth gefn mwyach. |
|
Risg gynhenid Risg weddilliol | Methiant i fod â chronfa ddata cofrestru ar waith sy’n addas i’r diben, gan arwain at anallu i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol. |
|
Caiff y Gofrestr Risg ei hadolygu bob chwarter gan uwch swyddogion, ac mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu, sydd â chylch gwaith i oruchwylio polisi rheoli risg CGA. Adroddir ar gynnydd a nodir risgiau a dulliau rheoli newydd yn ystod yr adolygiad rheolaidd gan yr Uwch Dîm Rheoli. Ni ychwanegwyd unrhyw risgiau newydd at y gofrestr yn 2023-24.
Bydd y Cyngor yn gweld ac yn ystyried y Gofrestr Risg unwaith y flwyddyn, pan fydd aelodau’n cadarnhau bod yr asesiad cyffredinol yn gyson â pharodrwydd cyffredinol y Cyngor i dderbyn risg. Ystyrir bod y Cyngor yn wrth-risg ar hyn o bryd, ac adolygwyd hyn ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2023.
Caiff risgiau ariannol eu rheoli gan gyfres fanwl o weithdrefnau rheoli ariannol sy’n nodi’r rheolaethau, ac yn pennu cyfrifoldebau a lefelau dirprwyo. Mae cydymffurfio â’r gweithdrefnau hyn yn hyrwyddo safonau uchel o lywodraethu da. Cafodd y rhain eu hadolygu ddiwethaf ym mis Mawrth 2024 i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn addas i’r diben.
Mae CGA a’r Cyngor yn benderfynol o sicrhau na chaiff twyll ei dderbyn na’i oddef. Mae nifer o gamau ar waith i sicrhau bod twyll yn cael ei atal, gan gynnwys gwahanu’r swyddogaethau a nodir yn y gweithdrefnau rheoli ariannol, cysoni a monitro ariannol rheolaidd, Cod Ymddygiad Staff sy’n disgrifio’r safonau a ddisgwylir gan swyddogion CGA, systemau rheoli llinell clir, a Pholisi Chwythu’r Chwiban. Ni fu unrhyw achosion o chwythu’r chwiban yn ystod y flwyddyn, ac ni fu unrhyw honiadau o gamymddwyn fel arall.
Mae’r system reoli fewnol wedi’i chynllunio i reoli risg i lefel resymol (yn hytrach na dileu pob risg o fethu) er mwyn cyflawni polisïau, nodau, ac amcanion. Felly, dim ond sicrwydd rhesymol o effeithiolrwydd y gall ei ddarparu, nid sicrwydd llwyr. Mae’r system reoli fewnol yn seiliedig ar broses barhaus sydd wedi ei chynllunio i:
- nodi a blaenoriaethu’r risgiau i gyflawni polisïau, nodau, ac amcanion CGA
- gwerthuso’r tebygolrwydd o wireddu’r risgiau hynny a’r effaith pe byddent yn cael eu gwireddu
- eu rheoli’n effeithiol, yn effeithlon, ac yn ddarbodus.
Mae’r system reoli fewnol wedi bod ar waith yn CGA yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon, ac mae’n cydymffurfio â chanllawiau’r Trysorlys.
Mae cynllun parhad busnes ac adfer yn sgil trychineb CGA yn ymdrin â’r risgiau allweddol i’r sefydliad pe byddai bygythiad i barhad y busnes o ran adeiladau neu systemau gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys cynnal prawf blynyddol ar y cynllun. Roedd senario eleni wedi’i seilio ar daliad twyllodrus gan gyflenwr a pha gamau tymor byr, tymor canolig, a thymor hir y dylid eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater.
Mae CGA yn sefydliad sydd â llawer iawn o ddata ar y gweithlu addysg yng Nghymru. Caiff y data ei gynnwys yng nghronfeydd data CGA gyda’r mesurau diogelu priodol ar waith a, lle y bo’n berthnasol, caiff ei rannu â chofrestreion unigol, a chaiff gwybodaeth benodol ei rhannu â chyflogwyr/sefydliadau eraill. Cedwir data mewnol arall yn ddiogel ac fe’i rheolir yn unol â’r egwyddorion diogelu data. Ni fu unrhyw achosion tor-data adroddadwy i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ystod y flwyddyn, fel y cadarnhawyd mewn cyfarfodydd misol o’r Uwch Dîm Rheoli.
Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein seilwaith TG i sicrhau bod ein systemau mewnol ac allanol yn aros yn gadarn. Caiff diogelwch gwybodaeth ei ategu drwy gadw data CGA bob nos ar wasanaeth cadw data wrth gefn mewn cwmwl oddi ar y safle. Gwnaethom uwchraddio’r system gyllid, sef Access Dimensions, yn ystod y flwyddyn ac mae bellach yn cael ei chynnal ar gwmwl yn hytrach nag ar y safle.
Mae CGA wedi cyhoeddi dogfen safonau gwasanaeth sydd â system ac amserlen ar gyfer ymdrin â chwynion. Ni chafwyd unrhyw gwynion yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Mae CGA yn ymrwymo i ddefnyddio ei adnoddau dynol i hybu llywodraethu corfforaethol cryf. Mae’n ymrwymo i ddatblygu pobl gymwys sydd wedi’u hyfforddi’n dda i gyflawni’r swyddogaethau amrywiol. Yn ystod y flwyddyn, parhaodd â rhaglen hyfforddi’r holl staff, gan ymdrin â phynciau penodol a chyffredinol. Mae hyn yn ychwanegol at ddarpariaeth hyfforddiant a nodwyd ar gyfer unigolion, gan gynnwys cymorth i astudio tuag at gymwysterau proffesiynol perthnasol.
Cynhaliwyd diwrnod sefydlu gydag aelodau newydd a phresennol y Cyngor ym mis Ebrill 2023 a aeth i’r afael ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys trosolwg gan swyddogion ar CGA, cofrestru a rheoleiddio, polisi, ymgysylltu, gwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru, llywodraethu a chymorth i aelodau, a chyllid a chydymffurfio. Yn ogystal, cynhaliwyd sesiynau gyda siaradwyr allanol yn ymdrin â chydraddoldeb ac arfer gorau ar gyfer aelodau’r bwrdd. Mae diwrnod hyfforddi blynyddol wedi’i gynllunio ar gyfer 25 Ebrill 2024, hefyd.
Mae gan CGA ei raglen Adolygu Perfformiad a Datblygiad blynyddol ei hun, sy’n asesu perfformiad swyddogion yn ystod y flwyddyn flaenorol ac yn nodi amcanion penodol ac anghenion hyfforddi ar gyfer y flwyddyn ddilynol.
Mae’n rhaid i’r holl swyddogion gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer cyflogeion CGA. Mae gan CGA amrywiaeth o bolisïau adnoddau dynol i sicrhau bod lefelau cymorth a disgwyliadau cyson ar waith. Mae polisi chwythu’r chwiban ac aelodau penodedig o’r Cyngor ar gael i’r staff pe byddai angen yn codi. Ni chodwyd unrhyw faterion yn ystod 2023-24.
Adolygiad o effeithiolrwydd y Cyngor
Nodir presenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod 2023-24 yn y tabl canlynol:
Aelod | Presenoldeb yn y Cyngor (mae’r cyfanswm posibl mewn cromfachau) | Presenoldeb mewn Pwyllgorau Sefydlog (mae’r cyfanswm posibl mewn cromfachau) | ||
---|---|---|---|---|
Gweithredol | Cofrestru a Rheoleiddio | Archwilio a Chraffu | ||
Eithne Hughes | 5(6) | 3(3) | ||
Bethan Thomas | 5(6) | 3(3) | ||
David Williams | 5(6) | 1(3) | ||
Geraint Williams | 6(6) | 2(3) | ||
Gwawr Taylor* | 6(6) | 4(4) | ||
Jane Jenkins | 6(6) | 2(3) | ||
Kathryn Robson | 5(6) | 1(3) | ||
Kelly Edwards | 6(6) | 4(4) | ||
Nicola Stubbins | 6(6) | 3(3) | ||
Rosemary Jones | 6(6) | 4(4) | ||
Sue Walker | 4(6) | 3(3) | ||
Theresa Evans-Rickards | 6(6) | 3(3) |
*Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Chraffu
Mae’r aelodau yn cymryd rhan mewn proses adolygu aelodau flynyddol sy’n cynnwys hunanasesiad blynyddol o berfformiad gan yr aelodau eu hunain, a hefyd asesiad o berfformiad yr holl aelodau gan y Cadeirydd. Mae hyn wedi ei gwblhau’n ddiweddar ar gyfer y flwyddyn 2023-24 ac mae’n parhau i fod yn llwyddiannus iawn.
Caiff cyflawniadau yn unol ag amcanion gweithredol eu hadrodd a’u hadolygu’n rheolaidd ar hyd y flwyddyn trwy Adolygiadau Chwarterol. Mae’r adolygiadau hyn yn nodi cyflawniad o ran canlyniadau tymor byr, ac yn amlygu unrhyw gamau gweithredu sy’n weddill. Ystyrir y ddogfen hon gan y Prif Weithredwr a’r UDRh a chaiff ei goruchwylio gan y Pwyllgor Gweithredol. Rhoddir crynodeb o gyflawni amcanion CGA yn ystod 2023-24 yn yr adroddiad ar berfformiad.
Yn ogystal â hyn, o ran gweithgareddau a ariennir yn gyhoeddus, cynhelir cyfarfodydd rheolaidd â swyddogion Llywodraeth Cymru i fonitro cyflawniad yr amcanion gweithredol penodol hynny. Cyflawnwyd yr holl dargedau gweithredol.
Pwyllgor Archwilio a Chraffu
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu yn chwarae rhan bwysig yn y strwythur llywodraethu corfforaethol, a thrwy ei adolygiadau, mae’n cynghori’r Prif Weithredwr ar effeithiolrwydd polisïau, systemau a gweithdrefnau. Mae ei gylch gwaith wedi’i gynnwys yn rheolau sefydlog CGA.
Yn ystod y flwyddyn, mae wedi cael ac adolygu amryw adroddiadau gan archwilwyr mewnol ac allanol, wedi cwblhau asesiad o berfformiad archwilwyr mewnol ac allanol ac wedi adolygu’r Gofrestr Risg ym mhob cyfarfod. Mae’r pwyllgor hefyd wedi cael adroddiad blynyddol ar gydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data, ac adroddiad blynyddol ar wasanaethau TG.
Mae holl weithgareddau’r pwyllgor wedi cefnogi asesiad cadarnhaol o drefniadau llywodraethu CGA.
Archwilio mewnol
Gweithredodd TIAA fel archwilwyr mewnol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024. O fewn cynllun tair blynedd cyffredinol sy’n sicrhau bod pob maes yn cael sylw yn ei dro, cytunir ar raglen waith flynyddol cyn y flwyddyn ariannol. Wrth i adolygiadau gael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn, cyflwynir adroddiadau i’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu. Caiff canlyniadau’r flwyddyn eu crynhoi mewn adroddiad blynyddol.
Cwblhawyd cyfanswm o bum adroddiad yn 2023-24:
- yn cwmpasu rheoli risgiau – rheolaethau lliniarol
- llywodraethu – rheolaeth strategol
- cyfathrebu â rhanddeiliaid
- systemau ariannol – rheolaeth gyllidebol, bancio a rheoli arian parod a’r cyfriflyfr cyffredinol
- statws athro cymwysedig a thystysgrifau sefydlu.
Mae’r tabl canlynol yn crynhoi lefel y sicrwydd, ac argymhellion o bob adolygiad
Maes | Sicrwydd | Argymhellion: Blaenoriaeth | ||
---|---|---|---|---|
Uchel | Canolig | Isel | ||
Rheoli Risgiau – Rheolaethau Lliniarol | Sylweddol | - | - | - |
Llywodraethu – Rheolaeth Strategol | Sylweddol | - | - | - |
Cyfathrebu â Rhanddeiliaid | Sylweddol | - | - | - |
Cyllid: Rheolaeth Gyllidebol, Bancio a Rheoli Arian Parod a’r Cyfriflyfr Cyffredinol | Sylweddol | - | - | - |
Statws Athro Cymwysedig a Thystysgrifau Sefydlu | Sylweddol | - | - | - |
Daeth yr adroddiad blynyddol i’r casgliad “…ar gyfer y meysydd a adolygwyd yn ystod y flwyddyn, mae prosesau rhesymol ac effeithiol gan Gyngor y Gweithlu Addysg ar waith ar gyfer rheoli risg, rheoli a llywodraethu.”
Archwilio allanol
Mae asesu effeithiolrwydd y fframwaith llywodraethu hefyd ymhlyg yng nghanfyddiadau ac adroddiadau’r archwiliad ariannol. Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol statudol Cyngor y Gweithlu Addysg, a benodwyd o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014. Cwblhawyd yr archwiliad o Gyfrifon Blynyddol 2023-24 ar ei ran gan Archwilio Cymru.
Roedd sylwadau ar yr archwiliad o Gyfrifon Blynyddol 2022-23 yn gadarnhaol, a chyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru farn archwilio ddiamod yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion o bwys wedi codi o ganlyniad i brofion yr archwiliad, a nodwyd nad oedd yr archwilwyr wedi dod o hyd i unrhyw achosion o bwys lle na ddefnyddiwyd a chyfrifwyd adnoddau yn briodol.
Materion llywodraethu o bwys
Nid yw’r Cyngor wedi nodi unrhyw faterion llywodraethu o bwys yn ystod y flwyddyn. Ni nodwyd ychwaith unrhyw feysydd sy’n peri pryder y mae angen eu cryfhau neu eu gwella.
Bu fy mhwyslais gweithredu ar:
(a) gofrestru a rheoleiddio pob un o’r 11 grŵp o gofrcymestreion a nodir mewn deddfwriaeth, gan gynnwys derbyn ymarferwyr o ysgolion annibynnol a cholegau i’r gofrestr o fis Mai 2023 am y tro cyntaf
(b) gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gychwyn newidiadau ychwanegol i ddeddfwriaeth yn 2024-25 ym meysydd cofrestru a rheoleiddio
(c) gweithredu prosesau achredu AGA fel y’u hamlinellir mewn deddfwriaeth
(ch) cyflawni’r holl weithgareddau a ariennir gan grantiau Llywodraeth Cymru yn unol â’r safonau y cytunwyd arnynt
(d) deall y goblygiadau i CGA o ganlyniad i gael ei ddosbarthu’n gorff cyhoeddus a’i ddynodi gan Lywodraeth Cymru yng Ngorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023
(dd) adolygu’r effaith ar gronfeydd wrth gefn CGA o ganlyniad i ddileu’r cymhorthdal ar gyfer ffioedd cofrestreion gan Lywodraeth Cymru ac adolygu opsiynau ar gyfer adolygiad o ffioedd yn y dyfodol
(e) Cefnogi’r Cadeirydd newydd ac aelodau newydd y Cyngor trwy hyfforddiant a’r broses sefydlu a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lenwi’r swyddi gwag sy’n weddill ar y Cyngor
Ni fu unrhyw golledion na thaliadau arbennig yn ystod y flwyddyn.
Yn ogystal, fu unrhyw atgyfeiriadau i’r Comisiynydd Gwybodaeth o ran y gweithgareddau yn ystod y flwyddyn ac ni wnaed unrhyw gwynion.
Datganiad gan y Prif Weithredwr
I grynhoi, rwy’n fodlon bod fframwaith llywodraethu CGA yn ystod y flwyddyn wedi bod yn effeithiol, gan roi sicrwydd ei fod wedi stiwardio adnoddau’n briodol wrth gyflawni ei amcanion.
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr
1 Awst 2024
Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff
Polisi cydnabyddiaeth ariannol
Mae’r adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff yn nodi manylion yr arferion cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau a staff CGA.
Contractau gwasanaeth
Penodir staff yn unol â pholisi recriwtio a dethol CGA, sy’n mynnu bod penodiadau’n cael eu gwneud ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored, ond mae hefyd yn cynnwys yr amgylchiadau pan fo’n bosibl penodi mewn modd arall.
Mae penodiadau’r uwch staff a nodir yn yr adroddiad hwn yn rhai penagored. Pe byddai’r swydd yn cael ei dirwyn i ben yn gynnar, ac eithrio o ganlyniad i gamymddwyn, byddai’r unigolyn yn cael ei ddigolledu fel y nodir yng Nghynllun Digolledu y Gwasanaeth Sifil.
Ac eithrio’r Prif Weithredwr, mae cyflogau’r holl staff wedi’u seilio ar raddfeydd cyflog Llywodraeth Cymru. Mae cydnabyddiaeth ariannol y Prif Weithredwr wedi’i seilio ar raddfa gynyddrannol, a chaiff unrhyw gynnydd ei gymeradwyo gan y Cadeirydd a’i gadarnhau gan y Pwyllgor Adolygu Perfformiad. Nid oes unrhyw daliadau bonws yn daladwy.
Cydnabyddiaeth ariannol yr aelodau*
Y Cadeirydd yw’r unig aelod o’r Cyngor y ceir rhoi cydnabyddiaeth ariannol iddo; nid oes gan ddeiliad y swydd yr hawl i fod yn aelod o gynllun pensiwn y Cyngor.
Etholwyd Eithne Hughes yn Gadeirydd i wasanaethu hyd at fis Mawrth 2027 ar ôl i gyfnod Angela Jardine yn y swydd ddod i ben ar 31 Mawrth 2023. Gan ei bod yn gynrychiolydd Undeb Llafur sy’n gwasanaethu, caiff y penodiad hwn ei drin fel secondiad ac ad-delir cyfran o’i chyflog i’w chyflogwr. Ni chafodd Mrs Hughes unrhyw gydnabyddiaeth ariannol yn uniongyrchol, nac unrhyw fuddiannau cyfatebol. Amcangyfrifir mai un diwrnod a hanner yr wythnos ar gyfartaledd yw ymrwymiad y Cadeirydd.
Telir treuliau holl aelodau eraill y Cyngor, gan gynnwys ad-dalu’r costau a ysgwyddwyd wrth deithio i gyfarfodydd a thalu costau staff cyflenwi neu’r costau cyfatebol i’w cyflogwyr, fel sy’n briodol. Adroddir y gwariant hwn fel costau Aelodau yn Nodyn 3 (costau uniongyrchol y rhaglen).
23-24 £000oedd | 22-23 £000oedd | |
---|---|---|
Ad-dalu costau i’r cyflogwr - Cadeirydd | ||
Angela Jardine | - | 37 |
Eithne Hughes | 30 | - |
*Mae’r wybodaeth hon yn destun archwiliad
Cydnabyddiaeth ariannol uwch aelodau staff
Roedd cyflog, hawliau pensiwn a gwerth unrhyw fuddion cyfatebol trethadwy swyddogion uchaf CGA fel a ganlyn:
Un ffigur cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol* | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyflog (£’000oedd) | Taliadau bonws (£’000oedd) | Buddion pensiwn (£’000oedd) [1] | Cyfanswm (£’000) | |||||
23-24 | 22-23 | 23-24 | 22-23 | 23-24 | 22-23 | 23-24 | 22-23 | |
Hayden Llewellyn (G) Prif Weithredwr | 105-110 | 100-105 | - | - | 27 | -12 | 130-135 | 90-95 |
Elizabeth Brimble (B)* Cyfarwyddwr Cymwysterau, Cofrestru a Phriodoldeb i Ymarfer | 40-45 | 85-90 | - | - | 16 | 6 | 55-60 | 90-95 |
Lisa Winstone (B) Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol | 85-90 | 75-80 | - | - | 19 | 30 | 105-110 | 105-110 |
Bethan Holliday-Stacey (B) Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu & Pholisi | 80-85 | 75-80 | - | - | 21 | 16 | 105-110 | 95-100 |
David Browne (G)* Cyfarwyddwr Rheoleiddio | 40-45 | - | - | - | 16 | - | 55-60 | - |
*Ymddeolodd Elizabeth Brimble ar 31 Awst 2023 a dyrchafwyd David Browne yn Gyfarwyddwr ar 1 Medi 2023. Nid oedd yn cael ei gyflogi mewn rôl cyfarwyddwr cyn hynny. Mae’r costau uchod yn ymwneud â’r cyfnod pan oedd yn cael ei gyflogi fel Cyfarwyddwr yn unig[1] The value of pension benefits accrued during the year is calculated as (the real increase in pension multiplied by 20) plus (the real increase in any lump sum) less (the contributions made by the individual). The real increase excludes increases due to inflation or any increase or decrease due to a transfer of pension rights.
Cyflog
Mae ‘cyflog’ yn cynnwys cyflog gros; goramser; hawliau neilltuedig i bwysoliad Llundain neu lwfansau Llundain; lwfansau recriwtio a chadw; lwfansau swyddfa breifat ac unrhyw lwfans arall i’r graddau y mae’n ddarostyngedig i drethi’r Deyrnas Unedig. Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar daliadau a wnaed gan CGA ac a gofnodir felly yn y cyfrifon hyn.
Nid oes taliadau bonws yn daladwy gan CGA.
*Mae’r wybodaeth hon yn destun archwiliad.
Datgeliadau tâl teg*
Mae’n ofynnol i gyrff sy’n adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf yn eu sefydliad a chydnabyddiaeth ariannol gweithlu’r sefydliad.
23-24 | 22-23 | |
---|---|---|
Band yr unigolyn sydd â’r gydnabyddiaeth ariannol uchaf (£000oedd) | 105-110 | 100-105 |
% y newid o’r flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf | 4.88% | 5.13% |
Cyflog a lwfansau cyfartalog (heblaw’r cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf) | £38,816 | £37,372 |
% y newid o’r flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer yr holl gyflogeion | 3.86% | 2.62% |
Y gydnabyddiaeth ariannol wedi’i bandio ar gyfer y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf yn CGA yn ystod y flwyddyn ariannol 2023-24 oedd £105,000 - £110,000 (2022-23, £100,000 - £105,000). Canran y newid o’r flwyddyn ariannol flaenorol yw 4.88% (2022-23 5.13%). Mae’r cyflog a’r lwfansau cyfartalog (heblaw’r cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf) wedi codi 3.86% (2022-23 2.62%) o ganlyniad i weithredu dyfarniad cyflog i’r holl staff o 1 Ebrill 2023 a thaliad costau byw anghyfunol o £1,500 i’r holl staff a wnaed ym mis Awst 2023..
Cymarebau cyflog | 23-24 | 22-23 |
---|---|---|
Cyfanswm cyflog a buddion y 25ain ganradd | £29,999 | £30,610 |
Cymhareb cyflog y 25ain ganradd | 3.6 | 3.4 |
Cyfanswm cyflog a buddion canolrifol | £32,141 | £31,535 |
Cymhareb cyflog canolrifol | 3.3 | 3.3 |
Cyfanswm cyflog a buddion y 75ed canradd | £41,675 | £39,690 |
Cymhareb cyflog y 75ed canradd | 2.6 | 2.6 |
Roedd cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf 3.6 gwaith (2022-23 3.4) cydnabyddiaeth ariannol 25ain canradd y gweithlu, sef £29,999 (2022-23 £30,610), 3.3 gwaith (2022-23 3.3) cydnabyddiaeth ariannol canolrifol y gweithlu, sef £32,141 (2022-23 £31,535); a 2.6 gwaith (2022-23 2.6) cydnabyddiaeth ariannol 75ed canradd y gweithlu, sef £41,675 (2022-23 £39,690). Mae cymhareb cyflog y 25ain canradd wedi cynyddu ychydig eleni tra bod y cymarebau eraill wedi aros yn gymharol sefydlog. Rhoddwyd dyfarniad cyflog 5% i’r holl staff ar 1 Ebrill 2023
Yn 2023-24, ni chafodd unrhyw gyflogeion (2022-23, dim) gydnabyddiaeth ariannol a oedd yn fwy na’r cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf (y Prif Weithredwr). Roedd y gydnabyddiaeth ariannol yn amrywio o £26,901 i £106,056 (2022-23, £25,620 i £101,006).
Mae cyfanswm cydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl sy’n gysylltiedig â pherfformiad anghyfunol, a buddion cyfatebol. Nid yw’n cynnwys cyfraniadau pensiwn cyflogwyr na gwerthoedd trosglwyddo sy'n gyfwerth ag arian parod pensiynau.
Buddion cyfatebol
Mae gwerth ariannol buddion cyfatebol yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarparwyd gan CGA ac y mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn eu trin fel enillion trethadwy. Ni thalwyd unrhyw fuddion cyfatebol yn ystod y flwyddyn.
Buddion pensiwn*
Pensiwn a gronnwyd ar oedran pensiwn ar 31/3/24 a'r cyfandaliad perthnasol | Cynnydd gwirioneddol yn y pensiwn a’r cyfandaliad perthnasol ar oedran pensiwn | Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) ar 31/3/24 | Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) ar 31/3/23 | Cynnydd gwirioneddol mewn CETV | |
---|---|---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | |
Hayden Llewellyn (G) Prif Weithredwr | 40 – 45 ynghyd â chyfandaliad 115-120 | 0 – 2.5 ynghyd â chyfandaliad 0 | 1020 | 920 | 15 |
Elizabeth Brimble (B) Cyfarwyddwr Cymwysterau, Cofrestru a Phriodoldeb i Ymarfer | 0-5 | 0-2.5 | 42 | 27 | 10 |
Lisa Winstone (B) Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol | 20 – 25 | 0 – 2.5 | 339 | 290 | 9 |
Bethan Holliday-Stacey (B) Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi | 30 – 35 ynghyd â chyfandaliad 85 – 90 | 0 – 2.5 ynghyd â chyfandaliad 0 | 663 | 597 | 10 |
David Browne (G Cyfarwyddwr Rheoleiddi | 5 – 1 | 0 – 2. | 7 | 6 | 1 |
Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil
Darperir buddion pensiwn trwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cyn 1 Ebrill 2015, yr unig gynllun oedd Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sydd wedi’i rannu’n ambell adran wahanol – mae classic, premium, a classic plus yn darparu buddion ar sail cyflog terfynol, tra bod nuvos yn darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. Ar 1 Ebrill 2015, cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd i weision sifil - Cynllun Pensiwn y Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. Ymunodd yr holl weision sifil newydd eu penodi a mwyafrif y rhai hynny a oedd eisoes yn y gwasanaeth â’r cynllun newydd.
Mae’r PCSPS ac alpha yn gynlluniau statudol heb eu hariannu. Mae cyflogeion a chyflogwyr yn gwneud cyfraniadau (mae cyfraniadau cyflogeion yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05%, yn dibynnu ar gyflog). Mae balans costau’r buddion sy’n daladwy yn cael ei thalu gan arian a bleidleisir gan Senedd San Steffan bob blwyddyn. Cynyddir pensiynau sy’n daladwy bob blwyddyn yn unol â’r ddeddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Yn lle’r trefniadau buddion diffiniedig, caiff cyflogeion ddewis pensiwn cyfraniadau diffiniedig gyda chyfraniad gan y cyflogwr, sef y cyfrif pensiwn partneriaeth.
Yn alpha, mae pensiwn yn cronni ar gyfradd o 2.32% o enillion pensiynadwy bob blwyddyn, ac mae’r cyfanswm a gronnir yn cael ei addasu’n flynyddol yn unol â chyfradd a osodir gan Drysorlys EF. Caiff aelodau ddewis ildio (cymudo) pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a osodir gan Ddeddf Cyllid 2004. Cafodd buddion PCSPS yr holl aelodau a newidiodd i alpha o’r PCSPS eu ‘bancio’, a bydd y rhai hynny â buddion cynharach yn un o rannau cyflog terfynol PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha.
Y pensiynau cronedig a ddangosir yn yr adroddiad hwn yw’r pensiwn y mae gan yr aelod yr hawl i’w dderbyn pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn arferol, neu ar unwaith ar ôl peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun, os yw eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol neu’n hŷn na hynny. 60 yw’r oedran pensiwn arferol ar gyfer aelodau classic, premium a classic plus, 65 ar gyfer aelodau nuvos, ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau alpha. Mae’r ffigurau pensiwn yn yr adroddiad hwn yn dangos y pensiwn a enillwyd yn y PCSPS neu alpha, fel y bo’n briodol. Pan fydd gan aelod fuddion yn y PCSPS ac alpha, mae’r ffigurau’n dangos cyfuniad o werth ei fuddion yn y ddau gynllun, ond sylwer y gallai rhan o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau.
Pan gyflwynodd y Llywodraeth gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus newydd yn 2015, roedd trefniadau pontio a oedd yn trin aelodau presennol cynlluniau’n wahanol yn seiliedig ar eu hoedran. Arhosodd aelodau hŷn y PCSPS yn y cynllun hwnnw, yn hytrach na symud i alpha. Yn 2018, penderfynodd y Llys Apêl fod y trefniadau pontio yn y cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn aelodau iau.
O ganlyniad, mae camau’n cael eu cymryd i unioni diwygiadau 2015, gan wneud darpariaethau’r cynllun pensiwn yn deg i’r holl aelodau. Mae’r rhwymedi pensiynau gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys dwy ran. Caeodd y rhan gyntaf y PCSPS ar 31 Mawrth 2022, a daeth yr holl aelodau gweithredol yn aelodau o alpha ar 1 Ebrill 2022. Mae’r ail ran yn dileu’r gwahaniaethu ar sail oed ar gyfer cyfnod y rhwymedi, rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, trwy symud aelodaeth aelodau cymwys yn ystod y cyfnod hwn yn ôl i’r PCSPS ar 1 Hydref 2023. Adwaenir hyn fel ‘dirwyn yn ôl’.
O ran aelodau sy’n gymwys ar gyfer y rhwymedi pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, mae’r cyfrifiad o’u buddion at ddiben cyfrifo eu Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod a chyfanswm unigol eu cydnabyddiaeth ariannol, ar 31 Mawrth 2023 a 31 Mawrth 2024, yn adlewyrchu’r ffaith bod aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 wedi cael ei dirwyn yn ôl i’r PCSPS. Er y bydd aelodau’n cael dewis p’un a ddylai’r cyfnod hwnnw gyfrif tuag at fuddion PCSPS neu alpha maes o law, mae’r ffigurau’n dangos y sefyllfa wedi’i dirwyn yn ôl h.y., buddion PCSPS ar gyfer y cyfnod hwnnw.
Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn galwedigaethol cyfraniad diffiniedig sy’n rhan o’r Legal & General Mastertrust. Mae’r cyflogwr yn rhoi cyfraniad sylfaenol rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oedran yr aelod). Nid oes rhaid i’r cyflogai gyfrannu, ond pan fydd yn gwneud cyfraniadau, bydd y cyflogwr yn eu cyfateb hyd at derfyn o 3% o’r cyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Bydd cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% arall o gyflog pensiynadwy i dalu’r gost o yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad o ganlyniad i salwch).
Ceir rhagor o fanylion am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar eu gwefan.
Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod
Gwerth Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf a aseswyd yn actiwaraidd y buddion cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw’r buddion y mae’r aelod wedi eu cronni ac unrhyw bensiwn gŵr neu wraig ddibynnol sy’n daladwy o’r cynllun. CETV yw taliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddion a gronnwyd yn ei gynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â’r buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth o’r cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swyddogaeth uwch y mae’r datgeliad yn berthnasol iddo.
Mae’r ffigurau yn cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i’r Dreth Lwfans Gydol Oes a allai fod yn ddyledus pan gymerir buddion pensiwn.
Cynnydd gwirioneddol mewn CETV
Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd mewn CETV a gyllidir gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd mewn pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant, cyfraniadau a delir gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a gaiff eu trosglwyddo o gynllun neu drefniant pensiwn arall), ac mae’n defnyddio ffactorau prisio’r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.
Digolledu am golli swydd
Ni wnaed unrhyw daliadau digolledu am golli swydd yn ystod y flwyddyn i’r staff hynny sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ar gydnabyddiaeth ariannol a staff hwn, nac unrhyw gyflogeion eraill.
Adroddiad staff
Nifer y bobl a gyflogir yn ôl math o gyflogaeth*
Yn ystod 2023-24, cyflogodd CGA 56.3 o staff~ ar gyfartaledd (2022-23 – 55.1) (gan gynnwys swyddogion ar gyfnod mamolaeth), fel a ganlyn:
CGA | LlC | Cyfanswm | 2022-23 | |
---|---|---|---|---|
Contract parhaol | 37 | 18.3 | 55.3 | 54.1 |
Contract cyfnod penodol | 1 | 0 | 1 | 1 |
Dros dro | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 38 | 18.3 | 56.3 | 55.1 |
~Cyfwerth ag amser llawn
Roedd cyfansoddiad y staff yn ôl rhywedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol fel a ganlyn:
Yn ôl rhywedd | 31 Mawrth 2024 | 31 Mawrth 2023 | ||||
---|---|---|---|---|---|---|
Staff | Cwyrw | Benyw | Cyfanswm | Gwryw | Benyw | Cyfanswm |
Uwch | 2 | 2 | 4 | 1 | 3 | 4 |
Cyffredinol | 16 | 36 | 52 | 19 | 34 | 53 |
Dros dro | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | |
Cyfanswm | 18 | 38 | 56 | 20 | 37 | 57 |
Oedran cyfartalog staff CGA ar 31 Mawrth 2024 oedd 41 oed (41 oed, ar 31 Mawrth 2023).
Absenoldeb oherwydd salwch
Mae CGA yn monitro absenoldeb oherwydd salwch yn barhaus, gan adolygu absenoldebau cronnol a hirdymor. Yn 2023-24, adroddodd cyflogeion gyfanswm o 265.5 o ddiwrnodau o absenoldeb oherwydd salwch (218.5 o ddiwrnodau, 2022-23) ac roedd 32.7% o’r rhain yn salwch hirdymor (20.6%, 2022-23).
Mae absenoldeb oherwydd salwch yn uwch na’r flwyddyn adrodd flaenorol, ond yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol, oherwydd adroddir 4.73 o ddiwrnodau fesul cyflogai ar gyfartaledd (4.01 o ddiwrnodau, 2022-23). Y cyfartaledd cenedlaethol a adroddwyd yn fwyaf diweddar oedd 5.7 o ddiwrnodau fesul gweithiwr yn 2022 (ONS, 2023). Ym mis Chwefror 2024, adroddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig mai’r cyfartaledd ar gyfer staff y gwasanaeth sifil yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 oedd 8.1 o ddiwrnodau fesul gweithiwr (Llywodraeth y Deyrnas Unedig, 2024). Ni fu unrhyw ymddeoliadau ar sail iechyd gwael.
Cafodd y Prif Weithredwr gyfnod o salwch hirdymor yn ystod y flwyddyn o 24 Gorffennaf 2023 tan 25 Awst 2023. Ymgymerodd y Dirprwy Brif Weithredwr â’i ddyletswyddau yn ystod y cyfnod hwn.
Costau staff*
CGA | Gweithgareddau LlC | 2023-24 | 2022-23 | |||
---|---|---|---|---|---|---|
Staff parhaol | Staff eraill | Staff parhaol | Staff eraill | Cyfanswm | Cyfanswm | |
£000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | |
Cyflogau | 1,549 | 0 | 724 | 0 | 2,273 | 2,065 |
Costau Nawdd Cymdeithasol | 166 | 0 | 78 | 0 | 244 | 231 |
Costau pensiwn | 401 | 0 | 191 | 0 | 592 | 563 |
Cyfanswm | 2,116 | 0 | 993 | 0 | 3,109 | 2,859 |
Costau asiantaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 2,116 | 0 | 993 | 0 | 3,109 | 2,859 |
Ni ddefnyddiwyd unrhyw staff asiantaeth yn ystod 2023-24 (2022-23, dim).
Cynlluniau buddion diffiniedig aml-gyflogwr nad ydynt yn cael eu cyllido yw Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac Eraill (CSOPS) (a elwir yn alpha), ond ni all CGA nodi ei gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol. Cynhaliwyd prisiad gan actiwari’r cynllun ar 31 Mawrth 2020. Mae manylion ar gael yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Pensiynau Sifil.
Ar gyfer 2023-24, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £592,347 yn daladwy i’r PCSPS (2022-23, £563,185) ar un o bedair cyfradd yn yr ystod 26.6% i 30.3% o enillion pensiynadwy, ar sail bandiau cyflog. Fel arfer, mae actiwari’r cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr bob pedair blynedd yn dilyn prisiad o’r cynllun cyfan. Caiff cyfraddau cyfraniadau eu gosod i dalu costau’r buddion sy’n cronni yn ystod 2023-24 i’w talu pan fydd yr aelod yn ymddeol, ac nid y buddion sy’n cael eu talu yn ystod y cyfnod hwn i bensiynwyr presennol.
Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Ni ddewiswyd yr opsiwn hwn gan yr un o gyflogeion CGA, ac felly ni wnaed unrhyw gyfraniadau cyflogwr.
Trefniadau oddi ar y gyflogres
Ni wnaed unrhyw daliadau o dan drefniadau oddi ar y gyflogres yn ystod y flwyddyn (2022-23, dim).
Pecynnau ymadael
Ni fu unrhyw gostau dileu swydd na chostau ymadael eraill yn ystod y flwyddyn (2022-23, £dim).
*Mae’r wybodaeth uchod yn destun archwiliad.
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr
1 Awst 2024
Adroddiad archwilio
Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd
Barn amy datganiadau ariannol
Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Cyngor y Gweithlu Addysg (y Cyngor) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 2023-24 o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Incwm Cynhwysfawr, y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifoedd Arian Parod, a’r Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr, a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd gan y Deyrnas Unedig fel y’u dehonglwyd a’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol:
- yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2024 a’i warged ar weithgareddau arferol, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
- wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd gan y Deyrnas Unedig fel y’u dehonglwyd a’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF;
- wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a roddwyd o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014
Barn am reoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Sail y farn
Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y Deyrnas Unedig (ISAs (UK)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau’r Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yn yr adran o’m tystysgrif ar gyfrifoldebau’r archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol.
Rwyf innau a’m staff yn annibynnol ar y corff yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio a gefais yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i’m barn.
Casgliadau ynglŷn â busnes gweithredol
Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod y defnydd o’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.
Ar sail y gwaith a gyflawnais, nid wyf wedi amlygu unrhyw ansicrwydd perthnasol yn ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol am allu’r corff i barhau i fabwysiadu sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o’r dyddiad pan gaiff y datganiadau ariannol eu hawdurdodi i’w cyhoeddi.
Mae fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Prif Weithredwr mewn perthynas â busnes gweithredol wedi’u disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon.
Defnyddir y sail gyfrifyddu busnes gweithredol ar gyfer y Cyngor gan ystyried y gofynion a amlinellir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF, sy’n mynnu bod endidau’n defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol pan ddisgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau yn y dyfodol.
Gwybodaeth arall
Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys y wybodaeth a geir yn yr adroddiad blynyddol heblaw am y datganiadau ariannol a’m hadroddiad archwilydd arnynt. Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am y wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall a, heblaw i’r graddau a nodir yn benodol yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried p’un a yw’r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gafwyd wrth gynnal yr archwiliad, neu ei bod yn ymddangos fel arall ei bod wedi’i chamddatgan yn berthnasol. Os nodaf unrhyw anghysondebau perthnasol neu gamddatganiadau perthnasol ymddangosiadol, mae’n ofynnol i mi benderfynu p’un a yw hyn yn peri camddatgan perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os deuaf i’r casgliad, ar sail y gwaith a gyflawnais, fod camddatgan perthnasol o ran y wybodaeth arall hon, mae’n ofynnol i mi adrodd y ffaith honno.
Barn am faterion eraill
Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol sydd i’w harchwilio wedi cael ei pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad:
- mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sydd i’w harchwilio wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014; ac
- mae’r wybodaeth a roddwyd yn y Rhagair, yr Adroddiad ar Berfformiad a’r Adroddiad Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Materion yr adroddaf arnynt drwy eithriad
Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r corff a’i amgylchedd a gafwyd wrth gynnal yr archwiliad, nid wyf wedi canfod camddatganiadau o bwys yn y Rhagair, yr Adroddiad ar Berfformiad a’r Adroddiad Atebolrwydd.
Nid oes gennyf unrhyw beth i adrodd yn ei gylch mewn perthynas â’r materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i:
- nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae arnaf eu hangen ar gyfer fy archwiliad;
- nad oes cofnodion cyfrifyddu priodol wedi cael eu cadw neu nad oes ffurflenni sy’n ddigonol i’m harchwiliad wedi cael eu derbyn gan ganghennau nad yw fy nhîm wedi ymweld â nhw;
- nad yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Atebolrwydd a archwiliwyd yn cytuno â’r cofnodion a’r datganiadau cyfrifyddu;
- nad yw gwybodaeth a bennwyd gan Weinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodion eraill wedi’i datgelu;
- na ddatgelir cydnabyddiaeth ariannol benodol a nodir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF neu nad yw’r rhannau o’r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio yn cytuno â’r cofnodion a’r datganiadau cyfrifyddu; neu
- nad yw’r Datganiad Llywodraethu yn adlewyrchu cydymffurfedd â chanllawiau Trysorlys EF.
Cyfrifoldebau’r Prif Weithredwr am y datganiadau ariannol
Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Cyngor a’r Prif Weithredwr, mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am:
- gynnal cofnodion cyfrifyddu priodol;
- paratoi’r datganiadau ariannol a’r Adroddiad Blynyddol yn unol â’r fframwaith adrodd perthnasol a bod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg;
- sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
- sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
- y cyfryw reolaethau mewnol ag y mae’r Prif Weithredwr yn penderfynu eu bod yn angenrheidiol i allu paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd rhag camddatganiadau o bwys, boed hynny o ganlyniad i dwyll neu wall;
- asesu gallu’r Cyngor i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, materion sy’n gysylltiedig â busnes gweithredol a defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Prif Weithredwr yn disgwyl na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.
Cyfrifoldebau’r Archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol
Fy nghyfrifoldeb yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Addysg (Cymru) 2014.
Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynglŷn â ph’un a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd rhag camddatgan perthnasol, p’un a achoswyd hynny trwy dwyll neu wall, a chyhoeddi adroddiad archwilydd sy’n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (UK) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi o dwyll neu wall ac ystyrir eu bod yn berthnasol pe gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wnaed ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Mae afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau. Rwyf yn dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a amlinellwyd uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.
Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:
- holi rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol yr endid sy’n cael ei archwilio a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol yn ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor sy’n ymwneud â’r canlynol:
- nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau a ph’un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
- canfod ac ymateb i risgiau twyll a ph’un a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth o dwyll neu dwyll honedig; a’r
- rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau.
- ystyried, fel tîm archwilio, sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Yn rhan o’r drafodaeth hon, amlygais bosibilrwydd ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, cydnabod gwariant, a phostio cyfnodolion anarferol;
- cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod y Cyngor yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae’r Cyngor yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith hanfodol ar weithrediadau’r Cyngor;
- cael dealltwriaeth o’r berthynas â phartïon cysylltiedig.
- Yn ogystal â’r uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:
- adolygu’r hyn a ddatgelwyd yn y datganiad ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfedd â’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
- holi rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a chynghorwyr cyfreithiol ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
- darllen cofnodion cyfarfodydd y rheiny sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Uwch Dîm Rheoli;
- wrth fynd i’r afael â risg twyll drwy ddiystyru rheolaethau gan reolwyr, profi pa mor briodol yw cofnodion dyddlyfrau ac addasiadau eraill; asesu a yw’r barn a luniwyd wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu sydd y tu allan i’r busnes arferol.
Roeddwn hefyd wedi cyfleu’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd a’r risgiau posibl o ran twyll i holl aelodau’r tîm archwilio, ac roeddwn yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.
Effeithir ar y graddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu canfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid i ganfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau’r Cyngor, a natur, amseriad a graddau’r gweithdrefnau archwilio a gyflawnir.
Mae disgrifiad pellach o gyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol ar gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o’m hadroddiad archwilydd.
Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd
Rwyf yn cael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Rwyf yn cyfathrebu â’r rhai hynny sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith materion eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol a nodaf yn ystod fy archwiliad.
Adroddiad
Nid oes gennyf sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.
Adrian Compton
Archwilydd Cyffredinol Cymru
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
7 Awst 2024
Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am gynnal gwefan y Cyngor a sicrhau ei chyfanrwydd; nid yw’r gwaith a gynhelir gan yr archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw’r archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno ar y wefan yn y lle cyntaf.
Datganiadau ariannol
Datganiad o incwm cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024
23-24 | 22-23 | |||
---|---|---|---|---|
Nodyn | £000oedd | £000oedd | ||
Incwm | ||||
Grant gan Lywodraeth Cymru | 9,252 | 9,389 | ||
Ffioedd cofrestru | 2,756 | 2,644 | ||
Incwm arall | 2 | 101 | 103 | |
Arian a ryddhawyd o Gronfeydd wrth Gefn | 15 | 67 | 53 | |
Cyfanswm incwm | 12,176 | 12,189 | ||
Gwariant | ||||
Costau staff | * | 3,109 | 2,859 | |
Costau rhaglen uniongyrchol | 3 | 1,677 | 1,546 | |
Costau rhaglenni sefydlu | 4 | 6,406 | 6,615 | |
Costau gweithredu eraill | 5 | 424 | 383 | |
Dibrisiad | 7 | 68 | 84 | |
Amorteiddiad | 8 | 449 | 424 | |
Dibrisiad prydles hawl defnyddio | 9 | 121 | 122 | |
Taliadau cyllid – prydles | 17 | 6 | 7 | |
Cyfanswm gwariant | 12,260 | 12,040 | ||
Gwarged/(Diffyg) ar weithgareddau arferol | (84) | 149 | ||
Llog derbyniadwy | 6 | 219 | 98 | |
Incwm net ar gyfer y flwyddyn a drosglwyddwyd i gronfeydd wrth gefn | 135 | 247 |
Mae’r holl weithgareddau a ariennir gan CGA yn parhau.
*Mae dadansoddiad o gostau staff wedi’i gynnwys yn yr adroddiad staff.
Mae’r nodiadau rhan o’r cyfrifon hyn.
Datganiad o’r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2024
31 Mawrth 2024 | 31 Mawrth 2023 | ||
---|---|---|---|
Asedau anghyfredol | Nodyn | £000oedd | £000oedd |
Eiddo, offer a chyfarpar | 7 | 34 | 89 |
Asedau anniriaethol | 8 | 648 | 904 |
Ased hawl defnyddio – prydles | 9 | 517 | 638 |
Cyfanswm asedau anghyfredol | 1,199 | 1,631 | |
Asedau cyfredol | |||
Buddsoddiadau tymor byr | 2,503 | 2,503 | |
Masnach a symiau derbyniadwy eraill | 10 | 469 | 723 |
Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod | 11 | 5,237 | 5403 |
Cyfanswm asedau cyfredol | 8,209 | 8,629 | |
Cyfanswm asedau | 9,408 | 10,260 | |
Rhwymedigaethau cyfredol | |||
Masnach a symiau taliadwy eraill | 12 | (3,143) | (3,829) |
Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau | 13 | - | - |
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol | (3,143) | (3,829) | |
Asedau anghyfredol +/- asedau cyfredol net/rhwymedigaethau | 6,265 | 6,431 | |
Rhwymedigaethau anghyfredol | |||
Incwm grant gohiriedig | 12 | (242) | (351) |
Credydwr gohiriedig | 12 | - | - |
Rhwymedigaeth prydles hawl defnyddio | 17 | (420) | (545) |
Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredol | (662) | (896) | |
Asedau llai rhwymedigaethau | 5,603 | 5,535 | |
Ariannwyd gan: | |||
Ecwiti trethdalwyr | |||
Cronfa wrth gefn gyffredinol | 4,536 | 4,401 | |
Cronfa wrth gefn y gronfa ddata | 15 | 767 | 797 |
Cronfa wrth gefn Priodoldeb i Ymarfer | 15 | 300 | 300 |
ronfa wrth gefn llety | 5 | 7 | |
CYFANSWM CYFALAF A CHRONFEYDD WRTH GEFN | 5,603 | 5,535 |
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr
1 Awst 2024
Mae’r nodiadau rhan o’r cyfrifon hyn.
Datganiad o lifoedd arian parod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024
23-24 | 22-23 | ||
---|---|---|---|
Nodyn | £000oedd | £000oedd | |
Llifoedd arian parod o weithgareddau gweithredu | 14 | (48) | 1,052 |
Llifoedd arian parod o weithgareddau buddsoddi | |||
Llog a dderbyniwyd | 6 | 219 | 98 |
Prynu eiddo, offer a chyfarpar | 7 | (13) | (30) |
Prynu asedau anniriaethol | 8 | (192) | (488) |
Cynnydd mewn buddsoddiadau tymor byr | (0) | (0) | |
Ased hawl defnyddio: taliadau prydles | 17 | (131) | (95) |
Cynnydd/(Gostyngiad) net mewn arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod | (166) | 531 | |
Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod ar 1 Ebrill | 5,403 | 4,872 | |
Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod ar 31 Mawrth | 5,237 | 5,403 |
Datganiad o newidiadau yn ecwiti trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024
Cronfa wrth gefn gyffredinol | Cronfeydd wrth gefn penodedig | Cyfanswm | 2022-23 | |
---|---|---|---|---|
Balans ar 1 Ebrill | 4,401 | 1,134 | 5,535 | 5,296 |
Gwarged ar gyfer y flwyddyn | 135 | - | 135 | 247 |
Trosglwyddiadau i/(o) gronfeydd wrth gefn penodedig (Nodyn 15) | - | (67) | (67) | (8) |
Balans ar 31 Mawrth | 4,536 | 1,067 | 5,603 | 5,535 |
Mae’r nodiadau rhan o’r cyfrifon hyn.
Nodiadau i'r cyfrifon
1. Polisïau cyfrifyddu
1.1 Confensiwn cyfrifyddu
Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) 2023-24, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r polisïau cyfrifyddu a gynhwysir yn y FReM yn cymhwyso Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y cânt eu haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus. Lle bydd y FReM yn caniatáu dewis o bolisi cyfrifyddu, dewiswyd y polisi cyfrifyddu y bernir mai ef yw’r mwyaf priodol i amgylchiadau penodol Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) er mwyn rhoi darlun cywir a theg. Caiff y polisïau penodol a fabwysiadwyd gan CGA eu disgrifio isod. Maent wedi’u cymhwyso’n gyson wrth ddelio ag eitemau yr ystyrir eu bod yn berthnasol i’r cyfrifon.
Safonau cyfrifyddu a gyhoeddwyd, nad ydynt mewn grym eto:
Nid yw IFRS 17 Contractau Yswiriant wedi cael ei mabwysiadu eto gan y sector cyhoeddus a’r dyddiad mabwysiadu yw 1 Ebrill 2025. Nod sylfaenol IFRS 17 yw gwneud contractau trosglwyddo risg yn debycach rhwng gwahanol endidau. Gan nad oes gan CGA unrhyw gontractau yswiriant, mae hyn yn annhebygol o effeithio ar ddatganiadau ariannol CGA pan gaiff ei fabwysiadu.
1.2 Incwm ffioedd cofrestru
Mae’r flwyddyn gofrestru’n mynd o 1 Ebrill tan 31 Mawrth bob blwyddyn, ac mae’r ffi’n ddyledus ar 1 Ebrill bob blwyddyn. Mae’n ofynnol i’r ffi gael ei thalu’n llawn, ni waeth ar ba ddyddiad y mae ymarferydd yn cofrestru gyda CGA mewn gwirionedd – ni roddir gostyngiad am gofrestru am ran o’r flwyddyn.
Cafodd incwm ffioedd ei gredydu i’r Datganiad o Incwm Cynhwysfawr ar sail gronnol, gydag unrhyw ffioedd a dderbyniwyd ymlaen llaw ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol yn cael eu trin fel incwm wedi’i dalu ymlaen llaw a’u cofnodi yn y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol fel rhwymedigaeth.
1.3 Gwariant ar sefydlu
Caiff gwariant ar y rhaglen sefydlu ei gydnabod ar sail y tymor academaidd pan gwblhawyd y gweithgaredd hyfforddi. Caiff gwariant ac incwm grant sy’n ddyledus ar gyfer tymor y gwanwyn ei gynnwys o dan Groniadau (gwariant grant sy’n ddyledus i ysgolion) a Symiau sy’n dderbyniadwy (grant sy’n ddyledus gan Lywodraeth Cymru) gan ddibynnu ar amser y taliad a derbyn grantiau perthnasol. Weithiau, gallai tymor y gwanwyn rychwantu dwy flynedd academaidd, er nad yw hyn bob amser yn wir gan fod dyddiad diwedd tymor y gwanwyn yn cael ei bennu gan y Pasg. Am y rheswm hwn, ac fel y cymeradwywyd gan archwiliadau blaenorol, cyfrifir am dymor y gwanwyn, ni waeth pryd y mae’n gorffen, yn y flwyddyn y mae’r holl sesiynau, neu fwyafrif y sesiynau yn digwydd ynddi.
1.4 Asedau anghyfredol
Diffinnir asedau anghyfredol fel unrhyw ddarn unigol o offer sy’n costio mwy na £1,000 (gan gynnwys TAW) sydd ag oes economaidd/ weithredol amcangyfrifedig o fwy na blwyddyn. Lle y bo’n fwy cyffredin ystyried cydrannau unigol fel grŵp, caiff y rhain eu trin fel asedau cyhyd â bod eu gwerth at ei gilydd yn fwy na’r trothwy cyfalafu.
Mae asedau anghyfredol wedi’u prisio ar sail cost hanesyddol ar ddiwedd y flwyddyn gan nad yw unrhyw addasiadau ailbrisio’n berthnasol ym marn CGA.
1.5 Dibrisiad
Darperir dibrisiad ar bob ased anghyfredol ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu’r gost, llai gwerth gweddilliol amcangyfrifedig pob ased, yn gyfartal dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig fel a ganlyn:
- caiff yr holl offer trydanol, gan gynnwys cyfrifiaduron ac offer swyddfa, ei ddibrisio ar sail linol dros dair blynedd
- caiff dodrefn a gosodiadau a ffitiadau eu dibrisio ar sail linol dros bum mlynedd
Ym mhob achos, bydd dibrisiad yn dechrau o'r mis ar ôl prynu.
1.6 Asedau anniriaethol
Cyfalafir gwaith datblygu meddalwedd, cynnwys y wefan a thrwyddedau sy’n costio mwy na £1,000 (gan gynnwys TAW) ac sydd ag oes economaidd/weithredol amcangyfrifedig o fwy na blwyddyn.
Darperir amorteiddiad ar asedau anniriaethol ar gyfraddau a gyfrifir i ddileu cost pob ased dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig:
- caiff y gwaith o ddatblygu'r gronfa ddata a’r wefan ei amorteiddio ar sail linol dros dair blynedd
- chaiff trwyddedau meddalwedd eu hamorteiddio ar sail linol dros eu hoes.
Yn y ddau achos, bydd yr amorteiddio'n dechrau o’r mis ar ôl prynu.
1.7 Grantiau’r Llywodraeth
Mae CGA yn cael incwm grant ar gyfer prosiectau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y meysydd canlynol:
- gweinyddu dyfarnu SAC
- gweinyddu trefniadau cyllido, olrhain a chofnodi ar gyfer sefydlu
- datblygu a chynnal y PDP
- cyhoeddi tystysgrifau sefydlu
- datblygu gwefan Addysgwyr Cymru
- gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth i CACAC
- dadansoddi data
- arwain ystod o fentrau cenedlaethol a phrosiectau ymchwil ar faterion addysgu a dysgu penodol
Yn ogystal â chyllid grant ar gyfer prosiectau, mae CGA hefyd yn cael Cymorth Grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y meysydd canlynol:
- cymhorthdal i gofrestreion ar gyfer y ffi gofrestru
- hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg
Caiff yr holl grantiau a dderbynnir eu credydu i'r Datganiad o Incwm Cynhwysfawr yn y flwyddyn y maent yn dod i law (ar sail croniadau), a chaiff unrhyw falansau sy'n weddill eu credydu i incwm cronedig neu ohiriedig ar ddiwedd y flwyddyn yn unol â hynny.
Lle y ceir cyllid mewn perthynas â phrynu asedau anghyfredol ac anniriaethol, ymdrinnir ag incwm grant fel incwm gohiriedig (Rhwymedigaeth Hirdymor), ac fe'i rhyddheir yn gymesur â gwerth yr ased a ddefnyddir bob blwyddyn.
1.8 Costau pensiwn
Mae cyflogeion blaenorol a phresennol yn cael eu cynnwys yn narpariaethau Cynlluniau Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a ddisgrifir yn yr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staffyr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff. Nid yw elfennau buddion diffiniedig y cynlluniau’n cael eu hariannu. Mae CGA yn cydnabod costau disgwyliedig yr elfennau hyn ar sail systematig a rhesymegol dros y cyfnod y mae’n elwa ar wasanaethau cyflogeion drwy dalu symiau i Brif Gynlluniau Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a gyfrifir ar sail croniadau. Rhwymedigaeth y PCSPS a Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac Eraill (CSOPS) yw talu unrhyw fuddion yn y dyfodol. O ran elfennau cyfraniadau diffiniedig y cynlluniau, mae CGA yn cydnabod y cyfraniadau sy’n daladwy am y flwyddyn.
1.9 Treth ar Werth (TAW)
Mae’r rhan fwyaf o weithgareddau CGA y tu hwnt i gwmpas TAW ac, yn gyffredinol, nid yw treth wrth werthu yn berthnasol ac ni ellir adennill treth wrth brynu ar bryniannau. Codir TAW na ellir ei hadennill i’r categori gwariant perthnasol neu caiff ei chyfalafu os yw’n ymwneud ag ased sefydlog. Pan godir treth wrth werthu neu pan ellir adennill TAW wrth brynu, caiff y symiau eu datgan heb gynnwys TAW.
1.10 Asedau hawl defnyddio
Yn unol ag IFRS 16, ar ddechrau contract, rydym yn asesu p’un a yw’r contract yn brydles ai peidio, neu b’un a yw’n cynnwys prydles ai peidio. Mae contract neu rannau o gontract sy’n trosglwyddo’r hawl i ddefnyddio ased yn gyfnewid am ystyriaeth yn cael eu dosbarthu’n brydlesi a chyfrifir amdanynt yn unol ag IFRS 16.
Mae contract yn brydles, neu’n cynnwys prydles:
- os yw’r contract yn cynnwys defnyddio ased a nodwyd
- os oes gennym yr hawl i gael yr holl fudd economaidd, i raddau helaeth, o ddefnyddio’r ased drwy gydol y cyfnod defnyddio
- os oes gennym yr hawl i ddefnyddio’r ased yn uniongyrchol
Pan gydnabyddir prydles mewn contract, cydnabyddwn ased hawl defnyddio a rhwymedigaeth prydles ar y dyddiad dechrau. Mesurir yr ased hawl defnyddio ar gost i ddechrau, sy’n cynnwys swm cychwynnol y rhwymedigaeth prydles wedi’i addasu ar gyfer costau uniongyrchol cychwynnol, rhagdaliadau, a chymhellion.
Mae’r ased hawl defnyddio’n cael ei ddibrisio gan ddefnyddio’r dull llinol o’r dyddiad dechrau i ddiwedd oes ddefnyddiol yr ased hawl defnyddio, neu ddiwedd cyfnod y brydles, pa un bynnag sydd cynharaf. Pennir oes ddefnyddiol amcangyfrifedig asedau hawl defnyddio ar yr un sail ag oes ddefnyddiol asedau eiddo, offer a chyfarpar.
Mesurir y rhwymedigaeth prydles i ddechrau yn ôl gwerth presennol y taliadau prydles nad ydynt yn cael eu talu ar y dyddiad dechrau, wedi’i ddisgowntio gan ddefnyddio’r gyfradd llog sydd ymhlyg yn y brydles neu, os na ellir pennu’r gyfradd honno’n rhwydd, gan ddefnyddio’r gyfradd fenthyca gynyddrannol a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF.
Rydym wedi eithrio contractau ar gyfer eitemau gwerth isel sy’n costio llai na £5,000 a chontractau â chyfnod byrrach na deuddeg mis.
1.11 Rhagdaliadau
Mae CGA wedi mabwysiadu trothwy de minimis o £1,200 (cost sy’n gyfwerth â £100 bob mis) ar gyfer cydnabod rhagdaliadau. Ac eithrio ar gyfer rhagdaliadau mis llawn, bydd y tâl a amlinellwyd yn dechrau o’r mis ar ôl y taliad.
1.12 Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau
Mae CGA yn darparu ar gyfer yr holl rwymedigaethau cyfreithiol neu ffurfiannol na ellir eu rhagnodi o ran amser na swm ar ddyddiad y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol ar sail yr amcangyfrif gorau o’r gwariant y mae ei angen i setlo’r goblygiad. Yn unol ag IAS 37, cydnabyddir darpariaethau dim ond lle bydd mantais economaidd yn debygol o gael ei throsglwyddo, a lle gellir amcangyfrif y swm yn rhesymol.
1.13 Buddsoddiadau tymor byr
Yn unol â’i bolisi ar Reoli Arian Parod, mae CGA yn dal buddsoddiadau tymor byr, am hyd at 12 mis, ar adnau gydag un o brif fanciau’r Stryd Fawr.
1.14 Buddion cyflogeion
Yn ôl y gofyn, mae CGA yn cydnabod cost buddion cyflogeion, gan gynnwys:
- buddion cyflogeion tymor byr, sef “cost” gwyliau blynyddol heb eu cymryd ar ddiwedd y flwyddyn
- buddion ôl-gyflogaeth, o ran buddion terfynu
1.15 Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod
Mae swyddogaethau craidd CGA yn cael eu cyllido gan incwm o ffioedd cofrestru blynyddol statudol ymarferwyr, ac mae gweithgareddau eraill a gwblheir ar ran Llywodraeth Cymru yn cael eu cyllido gan grant. Derbynnir incwm ffioedd ymlaen llaw bob blwyddyn a chaiff cymorth grant ei dynnu i lawr bob tri mis ac yna bob mis, yn ôl yr angen. Oherwydd natur anfasnachol y gweithgareddau hyn a'r ffynonellau cyllid hyn, nid yw CGA yn agored i unrhyw risg ariannol.
Cedwir ei falansau arian mewn cyfrifon banc masnachol: felly mae CGA yn agored i gyn lleied o risg â phosibl o ran cyfraddau llog. Er bod CGA yn gallu cael benthyg arian, ni fu angen iddo wneud hynny yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
1.16 Cyfnewid tramor
Mae trafodion mewn arian tramor yn cael eu newid i sterling ar y gyfradd gyfnewid ar ddyddiad y trafodyn.
2. Incwm arall
23-24 | 22-23 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Incwm amrywiol | 27 | 27 |
Contract y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid gyda Llywodraeth Cymru | 74 | 76 |
Cyfanswm | 101 | 103 |
Mae CGA dan gontract i Lywodraeth Cymru i weinyddu a datblygu ymhellach y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Daeth y contract i ben ar 14 Chwefror 2024 ac, yn dilyn ymarfer aildendro, dyfarnwyd y contract i CGA tan fis Mawrth 2025.
3. Costau rhaglenni uniongyrchol
23-24 | 22-23 | |||
---|---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | |
CGA | LlC | Cyfanswm | Cyfanswm | |
Costau aelodau | 37 | 5 | 42 | 39 |
Costau aelodau paneli | 116 | - | 116 | 94 |
Costau’r bwrdd achredu AGA | 56 | - | 56 | 58 |
Pasbort Dysgu Proffesiynol | - | 150 | 150 | 117 |
Ysgrifenyddiaeth CACAC | - | 140 | 140 | 140 |
Hyrwyddo Gyrfaoedd/ Addysgwyr Cymru | - | 194 | 194 | 251 |
Cynnal a datblygu’r gronfa ddata | 12 | 2 | 14 | 14 |
Ffioedd cyfreithiol a phroffesiynol – Priodoldeb i Ymarfer | 901 | - | 901 | 784 |
Costau cyfieithu | 31 | - | 31 | 16 |
Costau argraffu, postio, hyrwyddo a ffioedd proffesiynol | 33 | - | 33 | 33 |
Cyfanswm | 1,186 | 491 | 1,677 | 1,546 |
Mae costau aelodau paneli Priodoldeb i Ymarfer, ffioedd cyfreithiol, a chostau cyfieithu yn uwch eleni oherwydd bod mwy o wrandawiadau wedi cael eu cynnal (52 o gymharu â 46 a gynhaliwyd yn 22/23). Mae costau Hyrwyddo Gyrfaoedd/Addysgwyr Cymru yn is eleni o ganlyniad i gostau eirioli a recriwtio is.
4. Costau rhaglenni sefydlu
Holl wariant Llywodraeth Cymru | 23-24 | 22-23 |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Gweinyddu | 80 | 85 |
Gwariant grant sefydlu | 6,326 | 6,530 |
Cyfanswm | 6,406 | 6,615 |
Yn ystod tymor yr hydref 2021, cynyddodd Llywodraeth Cymru lefel y cyllid y mae CGA yn ei ryddhau i ysgolion sy’n darparu cymorth sefydlu i ANG o uchafswm o £700 y tymor i £900 y tymor, a sicrhawyd bod £350 y tymor ar gael hefyd i’r rhai sy’n ymgymryd â rôl mentor sefydlu. Eleni, bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr ANG sy’n cael cyllid sefydlu, ac mae hyn wedi effeithio ar lefel y grant a dalwyd. Er bod nifer gyffredinol yr ANG wedi lleihau, bu cynnydd parhaus yn nifer y taliadau a wnaed ar uchafswm y gyfradd fesul tymor.
Ar ran Llywodraeth Cymru, mae CGA yn gweinyddu cyllid i’r consortia rhanbarthol/awdurdodau lleol/ysgolion ar gyfer darparu rôl y dilyswr allanol. Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai ANG cyflenwi tymor byr yn cael eu cefnogi trwy’r broses sefydlu gan fentor allanol sy’n cyflawni rôl ddeuol, sef mentor sefydlu a dilyswr allanol. Ariennir y rôl mentor allanol ar gyfradd o £817 fesul ANG a gynorthwyir, ac ariennir y rôl dilyswr allanol ar gyfradd o £467 fesul ANG a gynorthwyir.
Fel y nodwyd yn flaenorol, er bod nifer yr ANG y mae arnynt angen cymorth dilyswr allanol wedi gostwng, bu cynnydd sylweddol yn ystod y flwyddyn academaidd hon yn nifer yr ANG sy’n ymgymryd â’r cyfnod sefydlu trwy waith cyflenwi tymor byr. Mae hyn wedi effeithio ar lefel y cyllid a dalwyd a’r grant sy’n ofynnol i gefnogi rolau mentoriaid allanol/dilyswyr allanol.
5. Costau gweithredu eraill
23-24 | 21-22 | |||
---|---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | |
CGA | LlC | Cyfanswm | Cyfanswm | |
Treuliau swyddogion | 8 | - | 8 | 6 |
Hyfforddi a recriwtio | 32 | - | 32 | 32 |
Rhent ac ardrethi | 68 | - | 68 | 54 |
Tâl am wasanaeth a chyfleustodau | 92 | - | 92 | 59 |
Ffioedd proffesiynol | 8 | - | 8 | 49 |
Yswiriant | 21 | - | 21 | 20 |
Argraffu a deunydd ysgrifennu | 5 | - | 5 | 3 |
Postio | 9 | - | 9 | 23 |
Costau cyfrifiaduron | 85 | - | 85 | 67 |
Hurio lleoliadau | 8 | - | 8 | 3 |
Ffioedd archwilio | 24 | - | 24 | 18 |
Cynnal a chadw | 4 | - | 4 | 1 |
Costau eraill | 59 | 1 | 60 | 48 |
Cyfanswm | 423 | 1 | 424 | 383 |
Y llynedd, cawsom dri mis heb rent yn rhan o drefniant prydles i ddileu’r cymal torri ar gyfer llety swyddfa, felly mae costau rhent ac ardrethi’n uwch eleni. Mae tâl am wasanaeth a chyfleustodau’n uwch eleni o ganlyniad i gynnydd cyffredinol mewn costau a thalu cost fantoli ychwanegol mewn perthynas â thâl gwasanaeth blwyddyn flaenorol. Mae costau cyfrifiaduron yn uwch eleni hefyd o ganlyniad i uwchraddio’r system gyllid, a symudodd y trefniant lletya o’r safle i’r cwmwl, gan arwain at ffioedd lletya ychwanegol.
Mae ffioedd proffesiynol yn is eleni oherwydd bod rhai’r llynedd yn cynnwys cost comisiynu prosiect darganfod ar gyfer cronfa ddata cofrestru newydd. Mae costau postio’n is eleni hefyd oherwydd bod rhai’r llynedd yn cynnwys costau ymarfer postio ar gyfer y Cod Ymddygiad.
6. Llog derbyniadwy
Derbyniwyd £219,072 (2022-23: £97,819) o log yn ystod y cyfnod mewn perthynas â chyfrifon banc CGA, gan gynnwys croniad o £6,754 (2022-23, £2,558).
7. Asedau anghyfredol
Offer swyddfa | Offer cyfrifiadurol | Dodrefn a ffitiadau | Cyfanswm | |
---|---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | £000oedd | £000oedd | |
Cost neu brisiad | ||||
Ar 1 Ebrill 2023 | 46 | 227 | 322 | 595 |
Ychwanegiadau | 3 | 8 | 2 | 13 |
Gwarediadau | (5) | (10) | - | (15) |
Ar 31 Mawrth 2024 | 44 | 225 | 324 | 593 |
Dibrisiad | ||||
Ar 1 Ebrill 2023 | 42 | 182 | 282 | 506 |
Cost am y flwyddyn | 3 | 26 | 39 | 68 |
Gwarediadau | (5) | (10) | - | (15) |
Ar 31 Mawrth 2024 | 40 | 198 | 321 | 559 |
Gwerth Net ar Bapur ar 31 Mawrth 2024 | 4 | 27 | 3 | 34 |
Gwerth Net ar Bapur ar 1 Ebrill 2023 | 5 | 45 | 40 | 89 |
O’r Gwerth Net ar Bapur ar 31 Mawrth 2024, roedd £1,400 i gefnogi gweithgareddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru (£3,600, ar 31 Mawrth 2023).
8. Asedau anniriaethol
Datblygiadau’r gronfa ddata | Cyfanswm | ||
---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | ||
Cost neu brisiad | |||
Ar 1 Ebrill 2023 | 2,818 | 2,818 | |
Ychwanegiadau | 192 | 192 | |
Gwarediadau | - | - | |
Ar 31 Mawrth 2024 | 3,010 | 3,010 | |
Amorteiddiad | |||
Ar 1 Ebrill 2023 | 1,913 | 1,913 | |
Cost am y flwyddyn | 449 | 449 | |
Gwarediadau | - | - | |
Ar 31 Mawrth 2024 | 2,362 | 2,362 | |
Gwerth Net ar Bapur ar 31 Mawrth 2024 | 648 | 648 | |
Gwerth Net ar Bapur ar 1 Ebrill 2023 | 904 | 904 |
O’r Gwerth Net ar Bapur ar 31 Mawrth 2024, roedd £553,000 i gefnogi gweithgareddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru (£777,000, ar 31 Mawrth 2023), yn ymwneud yn bennaf â pharhau i ddatblygu platfform Addysgwyr Cymru a’r PDP.
Ni amharwyd ar asedau anghyfredol nac anniriaethol, sydd wedi’u dangos yn unol â’u cost ac sy’n cael eu hystyried yn ’werth teg’.
9. Ased hawl defnyddio - prydles
Prydles Swyddfa | Cyfanswm | ||
---|---|---|---|
£000oedd | £000oedd | ||
Cost neu brisiad | |||
Ar 1 Ebrill 2023 | 760 | 760 | |
Ychwanegiadau | - | - | |
Ar 31 Mawrth 2024 | 760 | 760 | |
Dibrisiad | |||
Ar 1 Ebrill 2023 | 122 | 122 | |
Cost am y flwyddyn | 121 | 121 | |
Ar 31 Mawrth 2024 | 243 | 243 | |
Gwerth Net ar Bapur ar 31 Mawrth 2024 | 517 | 517 | |
Gwerth Net ar Bapur ar 1 Ebrill 2023 | 638 | 638 |
Daeth IFRS16: Prydlesi i rym ar 1 Ebrill 2022. Mae CGA wedi cydymffurfio â’r safon hon ac wedi mabwysiadu’r dull syml o gyflwyno asedau hawl defnyddio. Yr unig ased hawl defnyddio yw’r brydles swyddfa ar gyfer lloriau 9 a 10 Tŷ Eastgate. Daw’r brydles i ben ar 30 Mehefin 2028.
10. Symiau masnach a symiau eraill derbyniadwy
31 Mawrth 2024 | 31 Mawrth 2023 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn | ||
Symiau derbyniadwy eraill | 289 | 590 |
Rhagdaliadau | 180 | 133 |
Cyfanswm | 469 | 723 |
Mae’r gostyngiad mewn symiau derbyniadwy eraill i’w briodoli’n bennaf i amseriad a gwerth dyledwr diwedd y flwyddyn Llywodraeth Cymru.
11. Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod
23-24 | 22-23 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Balans ar 1 Ebrill | 5,403 | 4,872 |
Newid net mewn balansau arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod | (166) | 531 |
Balans ar 31 Mawrth | 5,237 | 5,403 |
Cadwyd balansau arian parod CGA mewn banc masnachol ar ddiwedd y flwyddyn. Ni chadwyd unrhyw falansau gyda Swyddfa Tâl-feistr Cyffredinol EF.
12. Symiau masnach a symiau taladwy eraill
31 Mawrth 2024 | 31 Mawrth 2023 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn | ||
Ffioedd cofrestru a ragdalwyd | 762 | 815 |
Symiau taladwy eraill | 804 | 372 |
Rhwymedigaethau prydles hawl defnyddio | 126 | 125 |
Treth arall a nawdd cymdeithasol | 66 | 74 |
Pensiwn | 60 | 58 |
Incwm gohiriedig: grant Llywodraeth Cymru | 350 | 555 |
Croniadau | 975 | 1,830 |
Cyfanswm | 3,143 | 3,829 |
Symiau sy’n ddyledus ar ôl un flwyddyn | ||
Incwm gohiriedig: grant Llywodraeth Cymru | 242 | 351 |
Rhwymedigaethau prydles hawl defnyddio | 420 | 545 |
Cyfanswm | 662 | 896 |
Mae croniadau’n is eleni yn bennaf oherwydd gwerth y croniad Sefydlu ar ddiwedd y flwyddyn (cyfeiriwch at nodyn 4).
Derbyniodd CGA incwm grant gan Lywodraeth Cymru tuag at gost asedau anghyfredol. Oherwydd y bydd yr asedau hyn yn cael eu dibrisio dros eu hoes economaidd ddefnyddiol, cydnabyddir rhwymedigaeth ohiriedig adeg y prynu, a gaiff ei rhyddhau dros oes yr asedau.
13. Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau
Caiff darpariaethau eu cydnabod yn y datganiadau ariannol pan fydd CGA yn ystyried bod ganddo rwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol a fydd, yn ôl pob tebyg, yn arwain at drosglwyddo budd economaidd ac y gellir ei amcangyfrif yn ddibynadwy.
Adnewyddu adeiladau | Cyfanswm | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Balans ar 1 Ebrill | - | - |
Darparwyd yn y flwyddyn | - | - |
Rhyddhawyd yn y flwyddyn | - | - |
Balans ar 31 Mawrth | - | - |
14. Nodiadau i’r datganiad llif arian parod
Cysoni gwarged ar weithgareddau cyffredin â mewnlif arian net o weithgareddau cyffredin
23-24 | 22-23 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
(Diffyg)/Gwarged ar weithgareddau cyffredin | (84) | 149 |
Dibrisiad | 68 | 206 |
Amorteiddiad | 449 | 424 |
Dibrisiad ased hawl defnyddio | 121 | |
Llog ased hawl defnyddio | 6 | |
Cynnydd/(Gostyngiad) mewn Symiau masnach a symiau taladwy eraill | (686) | 345 |
(Cynnydd)/Gostyngiad mewn Symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill | 253 | 57 |
(Cynydd)/Gostyngiad mewn Credydwr gohiriedig | - | (43) |
Cynnydd/(Gostyngiad) mewn Rhwymedigaeth ohiriedig | (108) | (79) |
Cynnydd/(Gostyngiad) mewn darpariaethau | - | - |
Rhyddhau i/o gronfeydd wrth gefn | (67) | (8) |
Mewnlif/(all-lif) arian net o weithgareddau cyffredin | (48) | 1,052 |
Nid oes credydwyr gohiredig yn 2023-24 gan fod yn yn berthynol o lês yr adeilad oedd wedi ei drin yn flaenorol fel lês gweithredol, ac nid yw hyn yn berthnasol bellach o dan IFRS16.
Dadansoddiad o newidiadau mewn cronfeydd net yn ystod y cyfnod
23-24 | 22-23 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Cronfeydd net ar 1 Ebrill | 5,403 | 4,872 |
Mewnlif/(all-lif) arian net | (166) | 531 |
Cronfeydd net ar 31 Mawrth | 5,237 | 5,403 |
Cafodd yr holl falansau ar 31 Mawrth 2024 eu dal gyda banc masnachol (gan gynnwys swm o £2,503,279 a gadwyd mewn cyfrif â 95 diwrnod o rybudd), ac mewn arian parod.
15. Cronfeydd wrth gefn penodedig
Yn unol â strategaeth ariannol CGA, mae'r cronfeydd wrth gefn penodedig canlynol wedi eu sefydlu:
Cronfa wrth gefn Priodoldeb i Ymarfer – er mwyn lleihau effaith amrywiad yn nifer yr achosion a atgyfeirir ar sefyllfa ariannol CGA i’r eithaf, ac i ddarparu ar gyfer costau unrhyw her gyfreithiol uwchben a thu hwnt i’r costau hynny a delir gan Yswiriant Indemniad Proffesiynol.
Cronfa wrth gefn y gronfa ddata – er mwyn ariannu amnewid y gronfa ddata Cofrestr Ymarferwyr Addysg.
Cronfa wrth gefn llety – er mwyn cefnogi costau CGA yn y dyfodol o ran ei anghenion llety, gan gynnwys y gofyniad ar gyfer gofod ychwanegol i gynnal gwrandawiadau Priodoldeb i Ymarfer yn fewnol.
Cronfa wrth gefn y gronfa ddata £000oedd | Cronfa wrth gefn Priodoldeb i Ymarfer £000oedd | Cronfa wrth gefn llety £000oedd | Cyfanswm £000oedd | |
---|---|---|---|---|
Balans ar 1 Ebrill | 797 | 300 | 37 | 1,134 |
Rhyddhau o’r cronfeydd wrth gefn | (30) | - | (37) | (67) |
Ychwanegu at y cronfeydd wrth gefn | - | - | - | - |
Balans ar 31 Mawrth | 767 | 300 | - | 1,067 |
16. Ymrwymiadau Cyfalaf
Ar 31 Mawrth 2024, roedd gan CGA ymrwymiadau cyfalaf gwerth £643,530 (2022-23, £559,179). Mae hyn yn ymwneud â gwaith parhaus i uwchraddio’r gronfa ddata Cofrestru, datblygu cynnwys digidol ar gyfer Addysgwyr Cymru, a cham dau’r gwelliannau i’r swyddogaeth adrodd o fewn y PDP.
17. Rhwymedigaethau Prydles Hawl Defnyddio
31 Mawrth 2024 | 31 Mawrth 2023 | |
---|---|---|
£000oedd | £000oedd | |
Balans ar 1 Ebrill | 671 | 760 |
Ad-daliadau | (131) | (95) |
Costau cyllid | 6 | 6 |
Cyfanswm | 546 | 671 |
Ymrwymiad blynyddol ar brydlesi adeiladau yn ôl blwyddyn: | ||
O fewn blwyddyn | 126 | 125 |
Rhwng blwyddyn a phum mlynedd | 420 | 515 |
Mwy na phum mlynedd | - | 31 |
420 | 546 | |
Cyfanswm | 546 | 671 |
18. Deilliannau ac Offerynnau Ariannol eraill
Nid oes gan CGA unrhyw fenthyciadau, ac mae’n lliniaru’r posibilrwydd o fod yn agored i risg hylifedd drwy reoli ei adnoddau.
Caiff pob ased a rhwymedigaeth ei nodi mewn arian sterling, felly nid yw’n agored i risgiau arian cyfred.
19. Trafodion â phartïon cysylltiedig
Ystyrir Llywodraeth Cymru yn barti cysylltiedig ac, yn ystod y flwyddyn, derbyniodd CGA grant a ddaeth i gyfanswm o £9,252,000 (£9,389,000 2022-23). Mae hyn yn cynnwys balans dyledwyr ar ddiwedd y flwyddyn o £253,514, (£545,860 2022-23) ar gyfer swm terfynol y grant a dynnir i lawr ar gyfer 2023-24, a gyflwynir i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin. Yn ogystal, yn unol â nodyn 2, mae gan CGA gontract gyda Llywodraeth Cymru i weinyddu a datblygu ymhellach y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn, cafodd CGA £73,791 (£75,766 2022-23) gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith hwn dan gontract. Ni fu unrhyw drafodion gwariant gyda Llywodraeth Cymru yn ystod 2023-24 (£dim 2022-23).
Caiff aelodau o'r Cyngor hefyd fod â swyddogaethau mewn sefydliadau y mae CGA yn ymdrin â nhw. Fodd bynnag, nid oes gan aelodau o'r Cyngor unrhyw ddylanwad ar y trafodion hyn gan eu bod yn digwydd yn rhan o weithgareddau arferol CGA.
Yn ystod 2023-24, nid oedd aelodau’r Cyngor, nac uwch swyddogion CGA, nac unrhyw aelodau o'u teuluoedd, yn gysylltiedig ag unrhyw drafodion gyda CGA, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, ar wahân i dalu treuliau a chyflogau fel arfer.
20. Rhwymedigaethau digwyddiadol
Nid oes unrhyw rwymedigaethau digwyddiadol (2022-23, £dim).
21. Digwyddiadau ers diwedd y cyfnod adrodd
Nid oes unrhyw ddigwyddiadau i’w hadrodd ar ddyddiad llofnodi’r Cyfrifon hyn.
Awdurdododd y Prif Weithredwr y Cyfrifon hyn i’w cyhoeddi ar 1 Awst 2024.