Geraint Lloyd – 30 Ebrill 2026
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 28, 29 a 30 Ebrill 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athro addysg bellach, Mr Geraint Lloyd.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi fel Athro Addysg Bellach yng Ngrŵp Colegau NPTC (“y Coleg”), bod Mr Lloyd:
- ar neu o gwmpas 31 Awst 2023, wedi gwneud sylw wrth Gydweithiwr A
- ar neu o gwmpas 14 Medi 2023, wedi dweud wrth Gydweithiwr A “mae’r ddesg hon yn un dda i blygu rhywun drosti”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- rhwng mis Awst a mis Medi 2023, wedi gwneud sylwadau wrth Gydweithiwr A, gan gynnwys ei fod wedi dweud wrth Gydweithiwr A:
- ei bod hi wedi dwyn ei swydd, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- nad oedd neb yn y Coleg ei heisiau hi yn Rôl A, a bod pawb ei eisiau ef yn Rôl A, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- nad oedd staff eraill yn ei pharchu hi fel yr oeddent yn ei barchu ef, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- bod ei chydweithwyr blaenorol yn falch o gael gwared arni, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- nad oedd hi’n ddigon cryf ar gyfer Rôl A, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Mr Lloyd yn amhriodol mewn perthynas â pharagraffau 1 i 3 uchod, yn amhroffesiynol mewn perthynas â pharagraff 3 uchod, ac o natur rywiol mewn perthynas â pharagraffau 1 a 2 uchod.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Lloyd o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori athro addysg bellach am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Lloyd wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Lloyd yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 30 Ebrill 2031, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Lloyd hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



