Cyflwyniad
Mae cyfnodau sefydlu statudol yn berthnasol i’r holl athrawon a gyflawnodd statws athro cymwysedig (SAC) ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny. Rydym ni, ar ran Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am nifer o weithgareddau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen sefydlu, gan gynnwys:
- casglu, coladu, a chynnal ffynhonnell ganolog o ddata ar gyfer athrawon sy’n ymgymryd â’r rhaglen sefydlu, gan gynnwys manylion cyflogaeth wrth iddynt symud trwy’r broses sefydlu, cofnod o’u mentor sefydlu (MS) a’u dilysydd sefydlu (DS), a chofnod o’r sesiynau sefydlu a gwblhawyd
- rhannu’r wybodaeth hon â phartïon eraill sy’n gysylltiedig â’r rhaglen sefydlu, gan gynnwys yr athro newydd gymhwyso (ANG), yr MS, y DS, y cydlynydd sefydlu yn yr Awdurdod Lleol (ALl)/consortia rhanbarthol, a’r corff priodol (CP) ar gyfer sefydlu
- gweinyddu cyllid sefydlu i ysgolion
- gweinyddu cyllid ar gyfer y rôl DS i awdurdodau lleol/consortia addysg rhanbarthol
- cynnal a darparu mynediad at y proffil sefydlu statudol ar-lein trwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
- rhoi tystysgrifau sefydlu yn seiliedig ar ganlyniadau sefydlu a ddarparwyd gan y CP
- clywed apeliadau sefydlu, y mae canllawiau arnynt ar gael ar ein gwefan
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r camau y mae’n rhaid i’r holl bartïon perthnasol eu cymryd i sicrhau y gallwn gyflawni’r cyfrifoldebau hyn.
Mae’n bwysig nodi na allwn roi cyngor ac arweiniad ynglŷn â chyflwyno’r rhaglen sefydlu na’i chynnwys. Mae hyn ar gael trwy gysylltu â’r cydlynydd sefydlu yn eich awdurdod lleol.
Mae gwybodaeth am y trefniadau sefydlu yng Nghymru, gan gynnwys mynediad at y rheoliadau sefydlu, canllawiau Llywodraeth Cymru, a’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth, ar gael ar Hwb.
Llwybrau i sefydlu
Gellir ymgymryd â sefydlu yng Nghymru trwy ddau lwybr:
- cyflogaeth amser llawn neu ran-amser fel athro
- cronni sesiynau trwy gyflogaeth mewn swyddi cyflenwi hirdymor neu fyrdymor
ANGau sy’n ymgymryd â sefydlu ar sail amser llawn, rhan-amser, neu gyflenwi hirdymor
Os yw’r ANG yn ymgymryd â sefydlu tra’i fod mewn cyflogaeth reolaidd, ni waeth a yw’r gyflogaeth ar sail barhaol, dros dro, neu gyflenwi, mae gan yr ysgol rwymedigaeth statudol i ddarparu cymorth sefydlu i’r ANG.
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth i ysgolion sy’n cefnogi ANG ac yn sicrhau:
- ein bod yn casglu, coladu, a rhannu data cychwynnol gyda’r holl bartïon sy’n gysylltiedig â chyfnod sefydlu’r ANG
- bod yr holl bartïon perthnasol yn gallu cael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG
- bod ysgolion yn gallu cael at gyllid sefydlu
- bod data cywir yn cael ei gofnodi o ran nifer y sesiynau a gwblhawyd gan yr ANG
Os na fydd y ffurflen hysbysu’n cael ei chyflwyno:
- bydd yr ysgol yn colli cyllid sefydlu
- ni fydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn gallu cynnal cofnod cywir o’r sesiynau sefydlu a gwblhawyd, a allai gael effaith niweidiol ar gwblhau’r cyfnod sefydlu
- ni fydd partïon perthnasol yn gallu cael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG
Ar ddechrau’r cyfnod sefydlu
Mae’n rhaid i’r ffurflen hysbysu sefydlu gael ei chyflwyno i ni o fewn 10 niwrnod gwaith o’r dyddiad pan fo’r ANG yn dechrau gweithio yn yr ysgol. Wrth lenwi’r ffurflen, gwnewch yn siŵr:
- fod yr holl adrannau’n cael eu cwblhau’n llawn
- bod manylion yr MS a fydd yn rhoi’r cymorth sefydlu dydd i ddydd priodol i’r ANG, ac a fydd hefyd yn gyfrifol am gwblhau’r adran benodol o’r proffil sefydlu ar-lein, yn cael eu darparu
- bod y pennaeth, yr MS, a’r ANG wedi llofnodi’r datganiad (os cyflwynir y ffurflen trwy e-bost, dylid copïo’r holl bartïon yn y neges e-bost)
- bod ffurflenni wedi’u llenwi’n cael eu hanfon trwy e-bost at
This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
Os bydd yr ANG yn cael ei gyflogi yn yr un ysgol ar hyd ei gyfnod sefydlu, heb unrhyw seibiannau cyflogaeth, dim ond un ffurflen hysbysu sefydlu y bydd angen ei chyflwyno ar ddechrau’r cyfnod sefydlu.
Os bydd yr ANG yn newid ysgolion, neu’n cael seibiant cyflogaeth, bydd rhaid cyflwyno ffurflen hysbysu sefydlu newydd i ni o fewn 10 niwrnod gwaith o ddechrau pob cyfnod sefydlu. Fel yr amlinellir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i bob cyfnod cyflogaeth o un sesiwn ysgol neu fwy gyfrif tuag at sefydlu. Felly, yn dibynnu ar ba bryd y mae’r ANG yn dechrau gweithio yn yr ysgol, fe allai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen hysbysu fod unrhyw bryd yn ystod tymor academaidd.
Pan fyddwn yn derbyn y ffurflen hysbysu, byddwn yn:
- gwirio bod gan yr ANG statws athro cymwysedig (SAC) a’i fod wedi’i gofrestru gyda ni yn y categori athro ysgol (ni all unrhyw gyfnodau cyflogaeth a gafwyd cyn cofrestru yn y categori cywir gyfrif tuag at sefydlu)
- gwirio nad yw’r ANG wedi’i eithrio rhag y gofyniad i gwblhau cyfnod sefydlu, neu ei fod eisoes wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu
- gwirio a oes gan yr MS a gofnodwyd ar y ffurflen gyfrif ar-lein gyda ni er mwyn gallu cael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG (os bydd arno angen cyfrif, byddwn yn creu un iddo)
Byddwn yn prosesu ffurflenni hysbysu o fewn 25 niwrnod gwaith o dderbyn gwybodaeth gyflawn. Pan fydd y ffurflen wedi’i phrosesu, bydd neges e-bost yn cael ei hanfon at yr ANG a’r MS, gyda chopi at y pennaeth. Os bydd unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen hysbysu yn ystod cyfnod sefydlu’r ANG, rhowch wybod i ni ar unwaith.
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen hysbysu gyda’r cydlynydd sefydlu yn yr ALl/consortia rhanbarthol, sef y CP ar gyfer sefydlu.
Hawlio cyllid sefydlu
Ar ddiwedd pob tymor academaidd (neu’n gynt os bydd cyflogaeth yr ANG yn dod i ben), mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflen hawlio cyllid sefydlu i ni. Wrth lenwi’r ffurflen, gwnewch yn siŵr:
- fod pob rhan o’r ffurflen yn cael ei llenwi’n gywir ac yn llawn, gan roi gwybodaeth am yr union sesiynau yn adran tri y ffurflen gan y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r cyllid sy’n ofynnol
- bod y datganiad wedi cael ei lofnodi gan y pennaeth (yn absenoldeb y pennaeth, mae’n rhaid i’r ffurflen gael ei llofnodi gan aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth), yr MS, a’r ANG. Os cyflwynir y ffurflen trwy e-bost, dylid copïo’r holl bartïon yn y neges e-bost
- bod ffurflenni wedi’u llenwi’n cael eu hanfon trwy e-bost at
This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
Prosesir ffurflenni hawlio cyllid o fewn 25 niwrnod gwaith o dderbyn gwybodaeth gyflawn. Os na dderbynnir ffurflenni erbyn ein dyddiadau cau penodedig, ni allwn ryddhau cyllid i ysgolion ar gyfer cymorth sefydlu a ddarparwyd.
Pan fydd y ffurflen wedi’i phrosesu, byddwn yn rhyddhau cyllid i’r ysgol, ac yn diweddaru cofnod yr ANG â nifer y sesiynau a gwblhawyd yn ystod y tymor. Bydd gwybodaeth am nifer y sesiynau a gwblhawyd gan yr ANG yn cael ei rhannu gyda’r cydlynydd sefydlu yn yr ALl/consortia rhanbarthol, sef y CP ar gyfer sefydlu.
Cyfrifo cyllid a dulliau talu
Lefel y cyllid yw £3,900 fesul ANG, fesul cyfnod sefydlu. Mae ysgolion yn cael cyllid, gan Lywodraeth Cymru, i:
- gynorthwyo i ddarparu hawl statudol yr ANG i ostyngiad 10% yn ei amserlen (yn ychwanegol at ei amser Cynllunio, Paratoi ac Asesu (CPA))
- rhyddhau MSau i roi cymorth sefydlu dydd i ddydd priodol i ANGau ac i gwblhau adrannau penodol o broffil sefydlu ar-lein yr ANGau
Caiff cyllid ei ryddhau yn ôl-weithredol ar ddiwedd pob tymor academaidd yr ymgymerodd yr ANG gyfnod sefydlu ynddo, a chaiff ei ryddhau ni waeth faint o sesiynau a gwblhaodd yr ANG yn ystod y tymor. Cyfrifir cyllid fel a ganlyn:
- os bydd yr ANG yn cwblhau tymor llawn, ar sail amser llawn, bydd yr ysgol yn cael taliad o £1,300
- os bydd yr ANG yn dechrau cyfnod sefydlu ar adeg hanner tymor ar sail amser llawn, bydd yr ysgol yn cael taliad o £650
- os bydd yr ANG yn dechrau cyfnod sefydlu ar unrhyw adeg arall yn ystod y tymor academaidd, bydd y cyllid sydd i’w ryddhau yn cael ei gyfrifo fel ‘£3,900/380 sesiynau’ x ‘nifer y sesiynau a gwblhawyd yn ystod y tymor’
Os cyflwynir y ffurflen hawlio cyllid ac unrhyw wybodaeth ategol ychwanegol o fewn y graddfeydd amser sy’n ofynnol, bydd cyllid yn cael ei ryddhau ni waeth am gynnydd yr athro yn ystod y cyfnod sefydlu.
Bydd y dull a ddefnyddiwn i ryddhau cyllid sefydlu yn dibynnu ar statws cyfrif cyllideb yr ysgol:
- os yw’r ysgol yn ‘ysgol heb lyfr siec’, byddwn yn rhyddhau cyllid i Adran Gyllid yr ALl a fydd yn ei ddyrannu i gyllideb yr ysgol
- os yw’r ysgol yn ‘ysgol â llyfr siec’, byddwn yn rhyddhau cyllid i’r ysgol trwy BACS (os gwneir taliad yn uniongyrchol i’r ysgol, ni ddylid ei wneud i gyfrif cronfa breifat yr ysgol)
- ni fydd cyllid yn cael ei dalu’n uniongyrchol i unigolion
Byddwn yn anfon neges e-bost at yr ysgol pan fydd cyllid wedi cael ei ryddhau.
Amgylchiadau pan na fydd cyllid yn cael ei ryddhau
Os na dderbynnir y ffurflen hawlio erbyn ein dyddiadau cau penodedig, ni allwn ryddhau cyllid i’r ysgol ar gyfer cymorth sefydlu a ddarparwyd.
Ni allwn ryddhau cyllid ychwaith os nad yw’r ANG yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd i ymgymryd â sefydlu, sy’n cynnwys cofrestru gyda ni. Ni all unrhyw gyfnodau sefydlu yr ymgymerir â nhw tra nad yw’r ANG wedi’i gofrestru yn y categori athro ysgol gyfrif tuag at sefydlu, ac ni fyddant yn cael eu hariannu.
Sefydlu ar gyfer athrawon cyflenwi byrdymor
Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn berthnasol i ANGau sy’n ymgymryd â sefydlu trwy waith cyflenwi byrdymor ad hoc, ac mae’n sicrhau:
- ein bod yn casglu, coladu, a rhannu data cychwynnol gyda’r holl bartïon sy’n ymwneud â chyfnod sefydlu’r ANG
- bod cofnod cywir canolog o sesiynau a gwblhawyd gan ANGau sy’n ymgymryd â sefydlu tra’u bod yn gweithio fel athro cyflenwi byrdymor yn cael ei gynnal
- bod MS yn cael ei neilltuo i gefnogi’r ANG
- bod yr holl bartïon perthnasol yn gallu cael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG
Os na fyddwn yn derbyn y ffurflen hysbysu athro cyflenwi byrdymor:
- ni fydd partïon perthnasol yn gallu cael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG
- ni fydd CGA yn gallu cynnal cofnod cywir o’r sesiynau sefydlu a gwblhawyd, a allai gael effaith niweidiol ar gwblhau’r cyfnod sefydlu
Os bydd cyfnod o waith cyflenwi byrdymor yn dod yn drefniant mwy rheolaidd neu dymor hwy, ni waeth p’un a yw’r gyflogaeth ar sail gyflenwi o hyd, mae gan yr ysgol rwymedigaeth i ddarparu cymorth sefydlu i’r ANG. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflenwi hirdymor fel lleoliad o 11 diwrnod yn olynol neu fwy mewn un lleoliad.
Ar ddechrau’r cyfnod sefydlu
Mae’n rhaid i’r ANG gyflwyno’r ffurflen hysbysu sefydlu fel athro cyflenwi byrdymor i ni o fewn 10 niwrnod gwaith o ymgymryd â’r sesiwn gyntaf o waith cyflenwi. Mae’n rhaid llenwi pob rhan o’r ffurflen, a’i chyflwyno i
Os bydd y cyfnod sefydlu cyfan yn cael ei gwblhau trwy gyflenwi byrdymor, heb unrhyw seibiannau o’r proffesiwn neu newid i gwblhau’r cyfnod sefydlu yn ystod cyflogaeth reolaidd, dim ond un ffurflen hysbysu athro cyflenwi byrdymor y bydd angen ei chyflwyno.
Os bydd yr ANG yn cael seibiant o’r proffesiwn, neu’n newid rhwng cwblhau’r cyfnod sefydlu yn ystod cyflogaeth reolaidd a chyflenwi byrdymor, bydd rhaid cyflwyno ffurflen hysbysu newydd o fewn 10 niwrnod gwaith o ddechrau pob cyfnod sefydlu.
Pan fyddwn yn derbyn y ffurflen hysbysu, byddwn yn:
- gwirio bod gan yr ANG statws athro cymwysedig (SAC) a’i fod wedi’i gofrestru gyda ni yn y categori athro ysgol (ni all unrhyw gyfnodau cyflogaeth a gafwyd cyn cofrestru yn y categori cywir gyfrif tuag at sefydlu)
- gwirio nad yw’r ANG wedi’i eithrio rhag y gofyniad i gwblhau cyfnod sefydlu, neu ei fod eisoes wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu
- gweithio gyda’r ALl/consortiwm rhanbarthol i neilltuo MS. Pan fydd wedi’i neilltuo, gellir gweld ei enw trwy gyfrif FyCGA yr ANG
Bydd ffurflenni hysbysu’n cael eu prosesu o fewn 25 niwrnod gwaith o dderbyn gwybodaeth gyflawn. Pan fyddwn wedi derbyn a phrosesu’r ffurflen, anfonir neges e-bost at yr ANG. Byddwn hefyd yn darparu manylion am y camau y bydd angen i’r ANG eu cymryd i gofnodi ei sesiynau cyflenwi byrdymor.
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth a ddarparwyd ar y ffurflen hysbysu gyda’r cydlynydd sefydlu yn yr ALl/consortia rhanbarthol, sef y CP ar gyfer sefydlu.
Cofnodi sesiynau cyflenwi byrdymor
Rydym ni’n gyfrifol am gadw cofnod canolog, cywir o’r holl sesiynau cyflenwi byrdymor a gwblhawyd.
Mae’r ANG yn gyfrifol am sicrhau bod pob cyfnod cyflogaeth o sesiwn neu fwy yr ymgymerwyd ag ef fel athro cymwys yn cael ei gofnodi trwy ei gyfrif FyCGA, o fewn 15 niwrnod o gwblhau’r cyfnod cyflogaeth. Bydd sesiynau a gofnodwyd yn cael eu diweddaru ar gofnod yr ANG y diwrnod gwaith nesaf.
Yn ogystal â chofnodi sesiynau, mae’n ofynnol i ANGau hefyd gael eu sesiynau wedi’u dilysu gan eu hasiantaeth gyflenwi, neu eu prif gyswllt o ddydd i ddydd yn yr ysgol lle y gwnaethant gwblhau’r sesiynau. Dylai sesiynau gael eu dilysu ar y ffurflen cofnod presenoldeb sydd ar gael yn y proffil sefydlu. Dylai’r ffurflen gael ei chynnal all-lein a’i lanlwytho i’r proffil sefydlu o fewn y graddfeydd amser sy’n ofynnol. Nid ydym yn gyfrifol am ddilysu sesiynau a gofnodwyd, na’r rhai hynny a gofnodwyd ar y ffurflen cofnod presenoldeb.
Ar ddiwedd cyfnod sefydlu’r ANG
Bydd y CP yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â ph’un a yw’r ANG wedi llwyddo neu fethu ei gyfnod sefydlu, neu b’un a oes arno angen estyniad iddo, yn seiliedig ar y wybodaeth/y dystiolaeth a gofnodwyd yn y proffil sefydlu. Bydd y CP yn rhoi gwybod i ni am ei benderfyniad, y mae’r graddfeydd amser ar ei gyfer wedi’u hamlinellu yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru.
Bob tymor, byddwn yn cysylltu â’r CP i ofyn yn ffurfiol iddo gyflwyno canlyniadau sefydlu. Fodd bynnag, gall y CP gyflwyno canlyniadau sefydlu unrhyw bryd trwy ei fynediad ar-lein, hefyd.
O fewn 25 niwrnod gwaith o gyflwyno canlyniad sefydlu, byddwn yn diweddaru cofnod yr ANG ar y Gofrestr Ymarferwyr Addysg gyda chanlyniad y cyfnod sefydlu. Os yw’r ANG wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu’n llwyddiannus, bydd tystysgrif sefydlu’n cael ei rhoi iddo a fydd ar gael yn ei gyfrif FyCGA.
Ein gwasanaethau ar-lein
Fel yr amlinellir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, mae nifer o bartïon yn gysylltiedig â chyflwyno’r rhaglen sefydlu. Mae angen i’r partïon hyn weld a chyfnewid gwybodaeth benodol yn gysylltiedig â chyfnod sefydlu’r ANG. Mae’r wybodaeth yn dod o:
- ffurflenni hysbysu sefydlu a ffurflenni hysbysu athro cyflenwi byrdymor
- ffurflenni hawlio cyllid sefydlu
- sesiynau cyflenwi byrdymor a gofnodwyd trwy ein gwefan
Er mwyn hwyluso gweld a rhannu gwybodaeth, rydym wedi datblygu mynediad ar-lein penodol ar gyfer MSau, DSau, a chydlynwyr sefydlu a CPau, sy’n golygu y gellir cynnal a storio gwybodaeth yn ddiogel ar-lein. Bydd yr ANG, yr MS, y DS (os yw wedi’i neilltuo), a’r CP, gyda’r awdurdodiad priodol, yn cael mynediad diogel at y cyfleuster hwn. Bydd y mynediad hwn yn caniatáu iddynt weld manylion am gyfnodau cyflogaeth yr ymgymerodd yr ANG â nhw sy’n cyfrif tuag at sefydlu, a chael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG, hefyd.
Darperir manylion ynglŷn â sut i gael at y gwasanaethau ar-lein yn y gydnabyddiaeth ysgrifenedig a anfonir at yr ANG a’r MS ar ôl derbyn yr hysbysiad sefydlu cychwynnol.
Proffil sefydlu ar-lein
Drwy gydol y cyfnod sefydlu, mae’n ofynnol i ANGau gwblhau a chynnal eu proffil sefydlu ar-lein, sydd ar gael trwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). I gynorthwyo defnyddwyr y proffil sefydlu, rydym wedi datblygu canllawiau i helpu ANGau, MSau, a DSau i gwblhau pob cam ohono.
Gan ein bod yn cynnal y proffil sefydlu ar-lein, dylai unrhyw faterion neu broblemau technegol a brofir gan ddefnyddwyr, neu unrhyw adborth ynglŷn â phrofiad defnyddiwr, gael eu hanfon at
Cysylltiadau defnyddiol
Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â’r ddogfen hon, cysylltwch â’r tîm datblygiad proffesiynol a chyllid yn CGA:
Rhif ffôn: 029 20 460 099
E-bost:
Gwefan: www.ewc.wales
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynglŷn â chanllawiau sefydlu, cysylltwch â’r tîm sefydlu (y Gyfarwyddiaeth Addysg):
E-bost:
Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â chyfnod sefydlu athro penodol, cysylltwch â’r cydlynydd sefydlu yn eich ALl (mae rhestr o’r cydlynwyr sefydlu ar gael ar ein gwefan).
Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â chofrestru gyda CGA, cysylltwch â’r tîm Cymwysterau a Chofrestru yn CGA:
Rhif ffôn: 029 20 460 099
E-bost:
Gwefan: www.ewc.wales