Mae’r uwch dîm rheoli yn gweithio gyda’r Cyngor pan fydd yn datblygu strategaeth ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Nhw sy’n gyfrifol am weithgareddau’r sefydliad o ddydd i ddydd ac am ddarparu arweiniad corfforaethol.
Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr
Mae Hayden yn gyfrifol am arwain a rhoi cyfeiriad strategol i’r CGA, gan weithredu yn unol â’i gyfrifoldebau statudol fel y’u nodir yn Neddf Addysg (Cymru) 2014.
Mae’n ymrwymedig i weithio gyda chofrestreion a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, undebau llafur/cymdeithasau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru.
Yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Cyfrifyddu, ef sy’n gyfrifol am sicrhau bod CGA yn cynnig gwerth am arian i gofrestreion ac yn defnyddio’i adnoddau yn effeithlon.
Ymunodd Hayden â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngAC) wrth iddo gael ei sefydlu yn 2000, gan weithio fel Dirprwy Brif Weithredwr yn gyntaf, cyn ymgymryd â rôl Prif Weithredwr CGA yn 2014.
Lisa Winstone, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Lisa sy’n gyfrifol am gynllunio, monitro ac adrodd ar faterion ariannol, pob mater sy’n ymwneud â llywodraethu ariannol, gan gynnwys cynnal archwiliadau, adnoddau dynol, a chymorth corfforaethol a systemau gwybodaeth. Mae Lisa'n Ddirprwy Brif Weithredwr CGA hefyd.
Ymunodd Lisa â CGA yn 2018, yn dilyn ei rôl flaenorol fel Pennaeth Cynllunio a Dadansoddi Ariannol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
David Browne, Cyfarwyddwr Rheoleiddio
Mae David yn gyfrifol am gynnal a datblygu Cofrestr Ymarferwyr Addysg Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ein swyddogaeth priodoldeb i ymarfer, ymchwilio i a gwrando achosion a atgyfeirir i CGA, yn ogystal â dadansoddi ac adrodd data, a llywodraethu data.
Ymunodd David â CGA ym mis Tachwedd 2020, gan weithio fel Pennaeth Priodoldeb i Ymarfer i ddechrau, cyn symud i'w swydd bresennol ym mis Medi 2023. Swydd flaenorol David oedd fel uwch swyddog undeb llafur gydag undeb addysgu.
Bethan Holliday-Stacey, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi
Bethan sy’n gyfrifol am achredu rhaglenni proffesiynol a hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiwn addysg, datblygiad proffesiynol, cynllunio a chyfathrebu strategol, a datblygu polisi.
Ymunodd Bethan â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngAC) yn 2000, a bu'n Rheolwr Tîm Datblygiad Proffesiynol a Chyllido o 2006, cyn symud i’w swydd bresennol yn 2018.