Ni yw'r rheoleiddiwr annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, ac addysg oedolion, a dysgu'n seiliedig ar waith.
Sefydlwyd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, a daeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 2015.
Ein gweledigaeth yw edrych tua'r dyfodol a bod yn ymatebol, a bod ein cofrestreion, dysgwyr, pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid a'r cyhoedd yn ymddiried ynom.
Rheoleiddio
Ein swyddogaeth graidd yw rheoleiddio ym mudd y cyhoedd. I wneud hyn, yn gyntaf rydym yn cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg sy'n gymwys i ymarfer mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid a dysgu yn y gweithle. Yn ail rydym yn cyhoeddi Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy'n gosod y safon a ddisgwylir gan gofrestreion. Yn drydydd rydym yn ymchwilio i, a chlywed honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwyster proffesiynol difrifol neu droseddau perthnasol.
Mae gennym gyfrifoldeb statudol i achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon, a monitro eu bod yn cydymffurfio gyda meini prawb cenedlaethol.
Cefnogaeth
Yn ogystal â'n gwaith rheoleiddiol, rydym yn cefnogi cofrestreion i allu cyflawni'r safonau proffesiynol uchaf drwy ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol, adnoddau, a gwasanaethau i gynnig canllaw a chyfarwyddyd.
Dylanwad
Rydym yn ceisio cyfleoedd drwy'r amser i lywio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru er budd ein cofrestreion. Mae ein cyfrifoldeb statudol i ddarparu cyngor annibynnol, dadansoddi ymchwil, a deallusrwydd, yn golygu ein bod yn gallu cefnogi'r gwaith o gynllunio'r gweithlu yng Nghymru, gan greu amgylchedd cynhwysol ar gyfer yr holl broffesiwn.
Hyrwyddo
Rydym yn hyrwyddo gyrfaoedd addysg yng Nghymru trwy wefan Addysgwyr Cymru a'r gwasanaeth cyngor. Mae Addysgwyr Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a ddatblygwyd gan CGA, yn cynnwys nifer o wasanaethau sy'n dod â chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a swyddi yn sector addysg Cymru ynghyd.