Ystadegau Blynyddol CGA ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2024
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad manwl o’r gweithlu addysg yng Nghymru. Cynhyrchwyd yr ystadegau o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg.
Mae’r Gofrestr yn amser real ac mae’n ffynhonnell unigryw o ddata am y saith grwp addysg cofrestredig yng Nghymru. Nid oes data cyfatebol ar gael gan unrhyw gorff neu sefydliad arall. O ganlyniad, ni ddylid cymharu â ffynonellau eraill, fel Cyfrifiad Blynyddol y Gweithlu Ysgolion Llywodraeth Cymru (CBGY), a gyhoeddir yn flynyddol. Ar gyfer y sector ysgolion yn enwedig, ac yn wahanol i CBGY, mae data CGA yn cynnwys pob athro cyflenwi, gweithiwr peripatetig, gweithiwr llawrydd ac eraill sy’n cynnig addysg neu hyfforddiant mewn ysgol ynghyd â lleoliadau addysg eraill. Rydym hefyd yn cynnal data hanesyddol sy’n ein galluogi i ddarparu gwybodaeth tuedd.
Darllen
Ystadegau Blynyddol ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2024
.
Ystyriaethau wrth ddarllen yr adroddiad
Mae wedi bod yn ofynnol i ymarferwyr yn y sector dysgu oedolion ac egwyddorion neu uwch arweinwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach gofrestru gyda ni ers mis Mai 2024. Gan fod hyn ar ôl dyddiad ein hechdynnu data nid ydynt wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn, ond byddant yn cael eu cynnwys mewn cyhoeddiadau o 2025 ymlaen.
O dan y rheoliadau, rhaid i ymarferwyr gofrestru yn y categori neu’r categorïau ar gyfer y gwaith a wnânt, neu’r gwaith y bwriadant ei wneud. O ganlyniad, mae rhai ymarferwyr wedi’u cofrestru mewn mwy nag un categori.
Ers mis Mai 2023, ma deddfwriaeth newydd wedi ei gwneud yn ofynnol i athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a cholegau annibynnol I gofrestru gyda ni. O ganlyniad, am y tro cyntaf, mae data yn berthnasol I athrawon ysgolion annibynnol, gweithwyr cymorth ysgolion annibynnol, athrawon sefydliad annibynnol arbennig ôl-16 a gweithwyr cymorth sefydliad annibynnol arbennig ôl-16 wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn. Bydd athrawon ysgolion annibynnol yn cael eu cynnwys o fewn ‘eraill mewn gwasanaeth’ yn y tablau cyflogaeth yn y categoriau cofrestru athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu ysgol.
Rhifynnau'r gorffennol o ystadegau'r gweithlu addysg
This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. os oes angen ystadegau'r gweithlu hŷn, nad ydynt wedi eu rhestru yma.