Alun Wyn Jones - 15 Mai 2024
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol rhwng 13 ac 15 Mai 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, Alun Wyn Jones.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Mr Jones, tra'i fod wedi ei gyflogi fel Hyfforddwr Arddangoswr yng Ngholeg Sir Gâr, ar achlysuron rhwng 2020 a 2022, arddangos ymddygiad bygythiol a/neu amhriodol tuag at ddysgwyr, trwy ei fod wedi:
- dweud wrth Ddysgwr C eiriau gyda'r effaith o 'dwi ddim yn dy licio di, fe wna i wneud dy waith yn hunllef'
- wedi gofyn i ddysgwr gario ysgol ymestyn pren trwm, ac wedi gweiddi a/neu godi ei lais i ddweud geiriau gyda'r effaith o 'piga fe lan y llipryn'
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Jones fel athro addysg bellach, gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, gweithiwr cymorth dysgu ysgol, ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 15 Mai 2024 a 15 Mai 2026).
O'r herwydd bydd Mr Jones yn gallu gweithio fel person cofrestredig:
- gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, mewn sefydliadau AB yng Nghymru
- athro addysg bellach, sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru
- ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, sy'n darparu gwasanaethau ar ran corff dysgu'n seiliedig ar waith (heblaw fel gwirfoddolwr)
am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Jones yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.