Dee Jones - 15 Mai 2024
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 14 a 15 Mai 2024, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi’u profi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach a’r gweithiwr cymorth dysgu ysgol, Dee Jones.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Mrs Jones:
- Ar neu oddeutu 13 Tachwedd 2018, wedi gwneud cais i CGA i gofrestru fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol a gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach ac wedi nodi yn adran ddatganiadau’r ffurflen gais nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau, pan nad oedd hyn yn gywir.
- Ar 8 Mawrth 2021, wedi gwneud cais i CGA i gofrestru fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol ac wedi nodi yn adran ddatganiadau’r ffurflen gais nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau, pan nad oedd hyn yn gywir.
- Ar 9 Mawrth 2021, wedi gwneud cais i CGA i gofrestru fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol ac wedi nodi yn adran ddatganiadau’r ffurflen gais nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau, pan nad oedd hyn yn gywir.
- Ar 10 Mawrth 2021, wedi gwneud cais i CGA i gofrestru fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol ac wedi nodi yn adran ddatganiadau’r ffurflen gais nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau, pan nad oedd hyn yn gywir.
- Ar 23 Ebrill 2015, wedi cael ei heuogfarnu yn Llys Ynadon Gwent o ddwy drosedd ‘methu datgelu gwybodaeth er eich budd ei hun/er budd rhywun arall neu i achosi colled i rywun arall/amlygu rhywun arall i golled’ yn yr ystyr ei bod:
- rhwng 5 Medi 2013 a 5 Awst 2014, yng Nglynebwy, Blaenau Gwent, wedi cyflawni twyll gan ei bod wedi methu datgelu gwybodaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn anonest, sef ei bod yn byw gyda phartner yn cynnal aelwyd gyffredin, yr oedd dyletswydd gyfreithiol arni i’w datgelu, gyda’r bwriad, trwy’r methiant hwnnw, i gael budd, sef budd-daliadau, iddi hi ei hun, yn groes i adrannau 1(2)(b) a 3 Deddf Twyll 2006. O ganlyniad, fe’i dedfrydwyd i ryddhad amodol am 3 blynedd;
- rhwng 9 Medi 2013 a 10 Awst 2014, yng Nglynebwy, Blaenau Gwent, wedi cyflawni twyll gan ei bod wedi methu datgelu gwybodaeth i Gyngor Blaenau Gwent yn anonest, sef ei bod yn byw gyda phartner yn cynnal aelwyd gyffredin, yr oedd dyletswydd gyfreithiol arni i’w datgelu, gyda’r bwriad, trwy’r methiant hwnnw, i gael budd, sef budd-daliadau, iddi hi ei hun, yn groes i adrannau 1(2)(b) a 3 Deddf Twyll 2006. O ganlyniad, fe’i dedfrydwyd i ryddhad amodol am 3 blynedd.
- Ar 2 Medi 2019, wedi cael ei heuogfarnu yn Llys Ynadon Bro Morgannwg o drosedd ymosod cyffredin, sef ar 28 Gorffennaf 2019 yn Llan-gors ei bod wedi ymosod ar Unigolyn A yn groes i adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988. O ganlyniad, fe’i dedfrydwyd i orchymyn cymunedol 01/09/20 a gwaith di-dâl am 80 awr, ac fe’i gorchmynnwyd i dalu iawndal o £50.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Mrs Jones ym mharagraffau 1-4 uchod yn anonest ac yn dangos diffyg uniondeb.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mrs Jones o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mrs Jones wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Mrs Jones yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 15 Mai 2026, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mrs Jones hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.