Gwenan Haf Parry - 23 Mai 2024
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 21, 22 a 23 Mai 2024, wedi canfod bod honiadau o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ a ‘throsedd berthnasol’ wedi’u profi yn erbyn yr athrawes ysgol a’r gweithiwr cymorth dysgu ysgol, Gwenan Haf Parry.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn Ysgol Gynradd y Felinheli, bod Miss Parry:
- ar 25 Ionawr 2023, wedi bwriadu dod i’r gwaith tra oedd dan ddylanwad alcohol
- ar 28 Chwefror 2023, wedi cael ei heuogfarnu o yrru cerbyd modur ar 25 Ionawr 2023 ar ffordd ar ôl yfed cymaint o alcohol fel bod y gyfran ohono yn ei hanadl, sef 88 microgram o alcohol mewn 100 mililitr o anadl, yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, yn groes i adran 5(1)(a) Deddf Traffig Ffyrdd 1988. O ganlyniad i’r drosedd hon, ar 28 Chwefror 2023, fe’i dedfrydwyd i dalu dirwy o £350 ac fe’i hanghymhwyswyd rhag gyrru am 22 mis
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Parry fel athrawes ysgol a gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (o 23 Mai 2024 tan 23 Mai 2026). Fel y cyfryw, bydd Miss Parry yn gallu gweithio fel cofrestrai (athrawes ysgol a gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru ar hyd cyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Parry hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.