Katie Walsh - 24 Mai 2024
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 20, 21, 22, 23 a 24 Mai 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athrawes ysgol, Katie Walsh.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel athro ysgol ac arweinydd y cyfnod sylfaen yn Ysgol Gynradd Raglan, fe wnaeth Mrs Walsh:
- rhwng tua 2018 a 2021, arddangos ymddygiad tuag at un neu fwy o gydweithwyr gan gynnwys Cydweithiwr A a Chydweithiwr B oedd yn:
- fygythiol
- tanseilio
- bychanol
- o natur bwlio
- ar neu o gwmpas Hydref 2020, wedi dweud, o ran Disgybl B, ac o fewn clyw plant Bl4, bod Disgybl B yn ymddwyn "fel bach o t***" neu eiriau gyda'r effaith yna
- ar un neu fwy achlysur rhwng tua 2017 a 2021, ymddwyn mewn modd digywilydd a/neu ymosodol a/neu nawddoglyd tuag at gydweithiwr gan gynnwys:
- ar neu o gwmpas 2017 neu 2018, wrth siarad gyda Chydweithiwr F o flaen ei dosbarth
- rhwng Ebrill a Mai 2020, yn ystod sgwrs ffôn a neu drafodaethau personol gyda Chydweithiwr D
- ar 22 Tachwedd 2021, yn ystod cyfarfod gyda Chydweithiwr E
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mrs Walsh oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro ysgol. Penderfynodd hefyd na fyddai Mrs Wales yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mrs Walsh wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 24 Mai 2026, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mrs Walsh yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.