Allison Davies - 5 Mehefin 2024
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 3, 4 a 5 Mehefin 2024, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi eu profi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Allison Davies.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel cynorthwyydd addysgu yn Ysgol Gynradd Gadeiriol Sant Joseff, bod Mrs Davies:
- ar 17 Chwefror 2022, yn ystod galwad ffôn foreuol gyda Chydweithiwr 3, nad oedd ganddi ffôn pan ofynnwyd oes oedd hi'n gwybod rhywbeth amdano
- yn ystod galwad ffôn yn ddiweddarach ar 17 Chwefror 2022, wedi rhoi gwybod i Gydweithiwr 3:
- ei bod wedi dod o hyd i'r ffôn symudol y diwrnod hwnnw, pan nad oedd hyn yn wir
- bod Cydweithiwr 1 wedi ei chynorthwyo i ddod o hyd i'r ffôn symudol, pan nad oedd hyn yn wir.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mrs Davies yn anonest.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mrs Davies fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 5 Mehefin 2024 a 5 Mehefin 2026). O'r herwydd bydd Mrs Davies yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mrs Davies yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.