Michael Robert Blackburn – 10 Gorffennaf 2024
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn breifat ar 9 a 10 Gorffennaf 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol annibynnol, Michael Robert Blackburn.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel athro ysgol yng Ngholeg Sant Ioan, fe wnaeth Mr Balckburn:
- rhwng tua Chwefror 2020 a Thachwedd 2022, o ran pryderon diogelu, heb esgoli pryderon diogelu i'r Arweinydd Diogelu Dynodedig a/neu'r cydweithiwr perthnasol o gwbl.
- rhwng tua Chwefror 2020 a Thachwedd 2022, gyfnewid e-byst gyda Disgybl 1, oedd yn amhriodol neu o natur amhroffesiynol.
- rhwng Chwefror 2020 a Thachwedd 2022, heb gynnal perthynas a/neu ffin broffesiynol gyda Disgybl 1.
- rhwng tua Chwefror 2020 a Thachwedd 2022, ddatgelu gwybodaeth bersonol am ddisgyblion eraill i Ddisgybl 1.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Atal (gydag amodau) ar gofrestriad Mr Blackburn fel athro ysgol ac athro ysgol annibynnol am gyfnod o 6 mis (o 10 Gorffennaf 2024 hyd 10 Ionawr 2025), cyn belled â'i fod yn bodloni'r amodau a nodir o fewn y terfyn amser.
O'r herwydd ni fydd Mr Blackburn yn gallu gweithio fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru, nac athro ysgol annibynnol mewn ysgol annibynnol yng Nghymru am gyfnod yr ataliad.
Mae gan Mr Blackburn yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.