Leony Moira Hall – 16 Gorffennaf 2024
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn breifat ac yn rhithiol ar 15 ac 16 Gorffennaf 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athrawes ysgol, Leony Moira Hall.
Canfu'r Pwyllgor bod yr honiad canlynol wedi ei brofi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel athro ysgol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, bod Miss Hall, ar neu o gwmpas 17 Mai 2022, wedi bwrw neu slapio Disgybl A.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Atal (gydag amodau) ar gofrestriad Miss Hall fel athro ysgol am gyfnod o 18 mis (o 16 Gorffennaf 2024 hyd 16 Ionawr 2026), cyn belled â'i bod yn bodloni'r amodau a nodir o fewn y terfyn amser.
O'r herwydd ni fydd Miss Hall yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y gorchymyn.
Mae gan Miss Hall yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.