Glenda Irene Davies – 18 Gorffennaf 2024
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 16, 17 ac 18 Gorffennaf 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach, Glenda Irene Davies.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel darlithydd yng Ngholeg Gwent. Fe wnaeth Miss Davies, yn ystod min nos Sul 29 Mai 2022, anfon neges at Ddysgwr A ar Facebook.
Roedd y neges anfonwyd at Ddysgwr A a nodir ym mharagraff 1 uchod yn amhriodol gan ei fod:
- wedi ei anfon tu allan i oriau coleg
- wedi ei anfon o'u cyfrif Facebook personol
- yn cyfeirio fod eu perthynas gyda Dysgwr A yn dod i ben ymhen 3 wythnos, ac yn awgrymu i Ddysgwr A y byddai'r cyswllt yn gallu parhau wedi hyn.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Davies fel athro addysg bellach, athro ysgol, athro ysgol arbennig, a gweithiwr cymorth ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 18 Gorffennaf 2024 a 18 Gorffennaf 2026).
O'r herwydd bydd Miss Davies yn gallu gweithoi fel:
- athro addysg bellach, sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru
- person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru
- person cofrestredig (athro ysgol annibynnol) mewn neu ar gyfer ysgol annibynnol yng Nghymru
- person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Davies yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.