Charlotte Ann Farrell – 17 Mehefin 2024
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn breifat ar 17 Mehefin 2024, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi eu profi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Charlotte Ann Farrell.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi: ar 25 Gorffennaf 2022, bod plentyn yng ngofal Ms Farrell wedi eu gadael ar ben eu hun, ac o ganlyniad bod Ms Farrell wedi derbyn rhybudd am drosedd yn erbyn adran 1(1) Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Ms Farrell fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 17 Mehefin 2024 a 17 Mehefin 2026). O'r herwydd bydd Ms Farrell yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Ms Farrell yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.