James Jones – 4 Hydref 2024
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 30 Medi - 4 Hydref 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athrawes ysgol, Mr James Jones.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Gynradd Wats Dyke, fe wnaeth Mr Jones ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn amhriodol ar nifer o achosion drwy:
- ar neu o gwmpas 17 Ionawr 2022, fe rannodd ddau fideo i'r holl rieni oedd wedi tanysgrifio i'r ysgol ar ap SeeSaw, oedd yn dangos disgyblion yn ei ddosbarth blwyddyn 1/2 yn rhannu gwybodaeth bersonol a/neu gyfrinachol:
- roedd fideo 1 yn dangos disgyblion yn rhannu canlyniadau prawf sillafu ym mis Medi 2021 yn dilyn eu sgôr sillafu ym mis Ionawr 2022
- roedd fideo 2 yn dangos cynnydd canlyniadau sgôr prawf sillafu o fis Medi 2021 i fis Ionawr 2022
- ar neu o gwmpas 18 Ionawr 2021, fe rannodd tudalen blog SeeSaw ei ddosbarth i'w gyfrif Facebook cyhoeddus.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mr Jones yn amhriodol yn achos 1 a 2, ac wedi torri cyfrinachedd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Jones fel athro ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 4 Hydref 2024 a 4 Hydref 2026). O'r herwydd bydd Mr Jones yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Jones yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.