Phillip Lewis – 20 Tachwedd 2024
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 19 a 20 Tachwedd 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, Phillip Lewis.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel tiwtor yng Ngholeg Sir Benfro, fe wnaeth Mr Lewis:
- ar neu o gwmpas 18 Ionawr 2023, dderbyn rhybudd amodol gan Heddlu Dyfed Powys am gael cyffur a reolir yn ei feddiant, yn benodol cocên, ar 23 Tachwedd 2022, yn erbyn s. 5(2) o Ddeddf Cam-drin Cyffuriau 1971
- ar 23 Tachwedd 2022, ei fod â chyffur dosbarth A yn ei feddiant, yn benodol cocên, yn ystod oriau gwaith ar eiddo Coleg Sir Benfro
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Lewis oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr Lewis yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Lewis wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 20 Hydref 2026, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Lewis yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.