Emma Peters – 28 Ionawr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn eistedd yn rhithiol ar 28 Ionawr 2025, wedi canfod bod honiad o 'drosedd perthnasol' wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Emma Peters.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Mrs Peters:
- ar 20 Mawrth 2024, fe'i cafwyd yn euog o yrru cerbyd modur gyda gormodedd o alcohol ar 12 Chwefror 2024, yn erbyn adran 5(1)(a) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988, ac Atodlen 2 Deddf Troseddwyr Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad i'r drosedd hon, rhoddwyd gorchymyn cymunedol i Mrs Peters o 120 awr o waith di dâl, a'i gwahardd rhag gyrru am 28 mis
- ar 20 Mawrth 2024, fe'i cafwyd yn euog o fethu â stopio ar ôl digwyddiad traffig ar 12 Chwefror 2024, yn erbyn adran 170(4)(a) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988, ac Atodlen 2 Deddf Troseddwyr Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad i'r drosedd hon, rhoddwyd gorchymyn cymunedol i Mrs Peters o 120 awr o waith di dâl, a rhoddwyd ardystiad ar ei thrwydded yrru
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mrs Peters fel athro ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 28 Ionawr 2025 a 28 Ionawr 2027). O'r herwydd bydd Mrs Peters yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mrs Peters yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.