Alex Gater – 28 Ionawr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 27 a 28 Ionawr 2025, wedi canfod bod honiadau o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’u profi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Alex Gater.
Canfu’r Pwyllgor fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi gan New Directions Ltd yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn Ysgol Gyfun St Cenydd, fod Mr Gater:
- ar neu oddeutu 19 Gorffennaf 2023, wedi cyffwrdd ag wyneb Plentyn A, gan ei daro i’r llawr. Canfu’r pwyllgor fod y cysylltiad yn ymateb anghymesur, amhriodol, a gormodol i ymddygiad Plentyn A.
Canfu’r pwyllgor hefyd, ar neu oddeutu 14 Medi 2023, fod Mr Gater wedi cytuno â Gorchymyn Datrysiad Cymunedol yr Heddlu am ymosodiad cyffredin mewn perthynas â’r digwyddiad a ddisgrifir uchod.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Atal Dros Dro (gydag amodau) ar gofrestriad Mr Gater fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod o 6 mis (o 28 Ionawr 2025 tan 28 Gorffennaf 2025), ar yr amod ei fod yn bodloni’r amodau a nodwyd o fewn y cyfnod hwn.
Fel y cyfryw, ni fydd Mr Gater yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru ar hyd cyfnod y gorchymyn.
Mae gan Mr Gater hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.