Anna Pavett – 25 Chwefror 2025
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 11-14, 19, a 25 Chwefror 2025 wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Anna Pavett.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu yng Nghanolfan Addysg Tŷ Gwyn, bod Ms Pavett:
- ar neu o gwmpas Ionawr 2023 a Mehefin 2023, heb gynnal ffiniau dysgu proffesiynol gyda disgybl A, o ran bod Ms Pavett wedi, ar fwy nag un achlysur:
- eistedd ar y llawr gyda disgybl A
- cyffwrdd wyneb a gwallt disgybl A
- yn 'esgus ymladd' (play fighting) gyda disgybl A
- Ar neu o gwmpas 20 Rhagfyr 2022, wedi cyflwyno cais am gyflogaeth i Teaching Personnel yr oedd hi'n gwybod oedd yn cynnwys gwybodaeth wallus a/neu gamarweiniol, drwy:
- beidio â datgelu materion disgyblaethol blaenorol
- heb gynnwys hanes cyflogaeth cywir
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Ms Pavett fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 25 Chwefror 2025 a 25 Chwefror 2027). O'r herwydd bydd Ms Pavett yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Ms Pavett yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.